Brechlynnau i blant 0-5 oed
Mae’r newidiadau i’r amserlen imiwneiddio (brechu) ar gyfer babanod a phlant yn 2025 a 2026.
Mae rhaglenni brechu yn cael eu hadolygu’n rheolaidd i sicrhau bod plant yn cael yr amddiffyniad gorau rhag clefydau ataliadwy trw frechu, fel y frech goch a llid yr ymennydd. Gall y rhaglenni hyn newid o ganlymniad i ymchwil neu pan fydd brechlynnau newydd.
I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, ewch i dudalen newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant.
Cael ein brechu yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ei wneud i ddiogelu ein hunain a’n plant rhag salwch difrifol. Mae brechiadau yn atal miliynau o farwolaethau ar draws y byd bob blwyddyn. Yn aml, babanod a phlant sydd fwyaf agored i niwed oherwydd clefydau y gallai brechlynnau eu hatal.
Mae clefydau fel y frech wen, polio a thetanws, a oedd yn arfer anablu neu ladd miliynau o bobl naill ai wedi diflannu neu’n brin iawn ers i’r brechiad gael ei gyflwyno yn y DU. Mae clefydau eraill, fel difftheria a’r frech goch, wedi lleihau i nifer bach iawn o achosion. Fodd bynnag, mae achosion o’r frech goch wedi dechrau cynyddu eto yng Nghymru. Mae hyn yn destun pryder gan y gall y frech goch arwain at gymhlethdodau difrifol sy’n peryglu bywyd, fel meningitis.
Bydd eich plant yn cael cynnig brechlynnau eraill pan fyddant yn cyrraedd oedran mynd i’r ysgol. Gweler yr amserlen imiwneiddio reolaidd gyflawn ar gyfer Cymru.
Cwestiynau cyffredin
Ar ôl i’ch plentyn droi’n 5 oed
Dysgwch am y brechlynnau a gaiff eu cynnig i’ch plentyn pan fydd yn cyrraedd oedran ysgol drwy edrych ar y dudalen imiwneiddio-mewn-ysgolion.
Gallwch ddal eich baban neu’ch plentyn ar eich pen-glin wrth iddynt gael eu brechu. Efallai y byddant yn ofidus am gyfnod byr yn syth ar ôl y brechiad, ond gallwch chi roi cwtsh iddyn nhw i’w helpu i deimlo’n well. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut i dynnu sylw eich plentyn yn ystod y brechiad ar dudalen dulliau tynnu sylw wrth gael brechlyn.
Adnoddau pellach
- Mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd ac, i’w helpu ar hyd y ffordd, mae GIG Cymru wedi lansio Pob Plentyn Cymru (safle allanol).