Neidio i'r cynnwys

Brechlyn meningococol grŵp B (MenB) - Ynglŷn â’r brechlyn MenB

Cefndir

Mae clefyd meningococol yn haint sy’n peryglu bywyd. Clefyd meningococol yw’r term a ddefnyddir I ddisgrifio dau salwch difrifol  llid yr ymennydd a septisemia. 

Brechlyn MenB

Y brechlyn MenB yw’r ffordd fwyaf diogel ac effeithiol o helpu i amddiffyn rhag llid yr ymennydd a septisemia a achosir gan facteria meningococol grŵp B.

Mae’n bwysig amddiffyn plant rhag clefyd meningococol drwy wneud yn siŵr eu bod yn cael eu brechiadau MenB i fabanod, a bod pobl ifanc yn eu harddegau yn cael eu brechiad MenACWY yn yr ysgol.

Gwiriwch lyfr coch eich plentyn neu gofynnwch yn eich practis meddyg teulu a gofalwch fod eich plentyn yn cael ei frechu os nad yw ei frechiadau’n gyfredol. 

Beth yw MenB?

Mae bacteria meningococol yn achosi’r clefyd meningococol. Gall hyn arwain at ddau salwch difrifol – llid yr ymennydd a septisemia. Mae MenB yn fyr am facteria meningococol grŵp B.

Mae MenB yn un o sawl math (straen) o facteria meningococol. Mae’r mathau mwyaf cyffredin eraill yn cynnwys W, Y ac C.

Mae’r brechlyn MenB yn helpu i amddiffyn babanod rhag clefyd MenB, ond nid yw’n amddiffyn rhag straeniau eraill o facteria meningococol. Mae brechlyn arall yn cael ei gynnig i bobl ifanc yn eu harddegau i helpu i’w hamddiffyn rhag mathau meningococol A, C, W ac Y.

Gall y bacteria meningococol achosi brigiadau o achosion mewn meithrinfeydd, ysgolion a phrifysgolion.

Mae brechiadau meningococol wedi bod yn effeithiol iawn a dyma ein hamddiffyniad gorau yn erbyn clefyd meningococol, a all fod yn beryglus iawn. Fodd bynnag, nid yw llawer o blant wedi’u brechu’n llawn o hyd. Mae’n bwysig eu hamddiffyn oherwydd gall clefyd meningococol ddatblygu’n gyflym iawn ac achosi problemau iechyd difrifol.

Sut mae bacteria MenB yn achosi salwch difrifol?

Mae bacteria MenB yn byw yng ngwddf tua 1 o bob 10 o bobl heb achosi’r un broblem – mewn gwirionedd, maen nhw’n helpu i adeiladu imiwnedd. Gall y bacteria ledaenu i bobl eraill trwy beswch, tisian neu gusanu.

Weithiau bydd y bacteria yn y gwddf yn mynd I mewn I’r llif gwaed, gan achosi septisemia, neu gallant gyrraedd yr ymennydd, gan arwain at lid yr ymennydd. Gall bacteria MenB achosi septisemia a llid yr ymennydd ar yr un pryd.

Pwy sydd fwyaf tebygol o gael MenB?

Mae MenB yn effeithio ar fabanod a phlant ifanc yn bennaf, gan nad yw eu systemau imiwnedd wedi datblygu’n llawn eto i frwydro yn erbyn heintiau. Fodd bynnag, gall llid yr ymennydd a septisemia ddigwydd ar unrhyw oedran, felly mae’n bwysig adnabod yr arwyddion a’r symptomau.

Gall symptomau ymddangos mewn unrhyw drefn, ac efallai na fydd rhai ohonynt yn ymddangos o gwbl.

Babanod a phlant bach:

  • Twymyn, dwylo a thraed oer
  • Gwrthod bwyta a chwydu
  • Cwynfanllyd, ddim yn hoffi cael eu trin
  • Cysglyd, llipa, ddim yn ymateb
  • Anadlu’n gyflym neu’n rhochian
  • Croen blotiog golau, smotiau neu frech (gweler y prawf gwydr)
  • Crïo’n anarferol neu’n griddfan
  • Y ffontanél (man meddal) yn dynn ac wedi chwyddo
  • Gwddw stiff, ddim yn hoffi goleuadau llachar
  • Confylsiynau neu drawiadau

Ni fydd brech septisemia meningococol nodweddiadol yn pylu pan fyddwch yn pwyso arni. I’w gwirio, pwyswch ochr gwydr clir yn gadarn yn erbyn y croen. Ni fydd pob plentyn yn cael y frech hon. Mae fel arfer yn dechrau fel smotiau bach ond yn datblygu’n gyflym yn batsys porffor dwfn.

Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn amau ​​meningitis neu septisemia?

Peidiwch ag aros am frech.

Os yw eich baban neu eich plentyn bach yn sâl ac yn gwaethygu, mynnwch gymorth meddygol ar unwaith.

Gallai baban neu blentyn bach â llid yr ymennydd neu septisemia waethygu’n gyflym iawn. Parhewch i’w wirio.

Credwch yn eich greddf – mynnwch gymorth meddygol ar unwaith.

Cofiwch – ni fydd y symptomau’n ymddangos mewn trefn, ac efallai na fydd rhai ohonynt yn ymddangos o gwbl. Os oes gennych unrhyw amheuaeth am iechyd eich plentyn, mynnwch gymorth meddygol ar unwaith. Os na allwch gysylltu â’ch meddyg, ewch i adran achosion brys eich ysbyty agosaf.

Mae angen sylw meddygol brys ar rywun sydd â thwymyn a brech nad yw’n pylu dan bwysau. Gallwch wneud y prawf gwydr i wirio a yw brech yn pylu dan bwysau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.meningitisnow.org (Saesneg yn unig) neu ffoniwch llinell gymorth Meningitis Now ar 0808 80 10 388.

A ellir trin clefyd MenB?

Mae angen i unrhyw un sydd â chlefyd MenB fynd i’r ysbyty ar frys a chael triniaeth â gwrthfiotigau ar unwaith. Os rhoddir triniaeth yn gynnar, mae’n fwy tebygol y gellir osgoi anabledd neu farwolaeth.

A ellir atal clefyd MenB?

Mae’r brechlyn MenB wedi’i gynllunio i amddiffyn rhag y rhan fwyaf o heintiau MenB. Ers ei gyflwyno yn 2015, mae nifer yr achosion o glefyd MenB ymhlith plant ifanc wedi gostwng dros 60% erbyn trydedd flwyddyn y rhaglen frechu.

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Imiwneiddio babanod

Fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio rheolaidd yng Nghymru, cynigir y brechlyn MenB i fabanod yn:

  • wyth wythnos oed;
  • 12 wythnos oed (gweler isod); ac yn
  • 12 i 13 mis oed

Anfonir apwyntiadau i blant ar gyfer eu brechiad MenB. Mae’r rhan fwyaf o bractisiau meddyg teulu a chanolfannau iechyd yn cynnal clinigau brechu arbennig neu glinigau babanod.

Gael gwybodaeth am yr amserlenni imiwneiddio arferol ar gyfer Cymru.

Imiwneiddiadau nad ydynt yn rhai rheolaidd

Mae rhai cyflyrau meddygol yn cynyddu’r risg o heintiau difrifol. Efallai y bydd angen y brechlyn MenB ar bobl sydd â’r cyflyrau hyn. Mae’r cyflyrau’n cynnwys:

  • dim dueg neu ddueg nad yw’n gweithio’n dda iawn (yn cynnwys o ganlyniad i glefyd y crymangelloedd a chlefyd seliag), a
  • phroblemau gyda’r system imiwnedd (anhwylderau cyflenwol).
Alergeddau

Ni ddylid rhoi’r brechlyn i fabanod sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i:

  • ddos blaenorol o’r brechlyn, neu
  • unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn.

Siaradwch â’r unigolyn sy’n rhoi’r brechlyn os yw eich baban wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.

Gallwch gysylltu â’ch practis meddyg teulu i gael cyngor os oes gennych gwestiynau am y brechlyn MenB, neu os nad ydych yn siŵr pryd y dylai eich baban neu blentyn ei gael.

Ynglŷn âr brechlyn 

Bydd babanod fel arfer yn cael y brechlyn MenB trwy bigiad yn eu coes uchaf (clun). Bydd plant hŷn ac oedolion fel arfer yn ei gael trwy bigiad yn eu braich uchaf. 

Bexsero (Saesneg yn unig), y brechlyn MenB, yw’r unig frechlyn sy’n cynnig amddiffyniad rhag bacteria meningococol grŵp B sydd ar gael yn y DU ar hyn o bryd. I gael rhagor o fanylion, ewch i: 

Bydd angen tri dos o’r brechlyn MenB ar fabanod i gael eu hamddiffyn yn llawn. Dylai plant sydd wedi methu brechiadau ac sydd wedi cael llai na dau ddos ​​o’r brechlyn MenB yn ystod blwyddyn gyntaf eu bywyd gael dosau pellach cyn iddynt gyrraedd dyflwydd oed. 

Ni roddir brechlyn MenB fel mater o drefn i blant dros ddyflwydd oed oni bai eu bod mewn grŵp sydd mewn perygl. Er enghraifft, plant sydd â phroblemau penodol gyda’u system imiwnedd.  

Beth os bydd fy maban yn colli ei frechiadau MenB pan fydd yn bryd iddo eu cael?

Os bydd eich baban yn colli unrhyw un o’i frechiadau, siaradwch â’ch meddyg neu nyrs practis er mwyn aildrefnu iddynt gael eu rhoi cyn gynted â phosibl.

Cofiwch ei bod yn bwysig cadw’n gyfredol gyda’r rhan fwyaf o frechiadau sy’n cael eu colli. Os yw’ch plentyn wedi colli brechiad ac yn hŷn na’r oedran a argymhellir, siaradwch â’ch meddyg teulu, nyrs practis neu ymwelydd iechyd.

Diogelwch ac effeithiolrwydd 

A oes gan y brechlyn MenB unrhyw sgil-effeithiau?

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ysgafn ac yn para am gyfnod byr, ac ni fydd pawb yn eu cael.

Sgil-effaith fwyaf cyffredin y brechlyn yw twymyn (tymheredd uchel – uwch na 38˚C). Dylid rhoi’r dos cywir o barasetamol hylif i’ch baban i helpu i leihau’r risg o dwymyn.

Mae sgil-effeithiau cyffredin eraill yn cynnwys:

  • ychydig o gochni a dolur yn y fan lle rhoddwyd y brechlyn
  • teimlo’n bigog
  • brech
  • crio anarferol
  • teimlo’n gysglyd
  • colli archwaeth neu deimlo’n sâl
  • dolur rhydd, a
  • chur pen/pen tost.

Argymhellir rhoi paracetamol hylif i fabanod i atal twymyn ar ôl brechu. Bydd y nyrs yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi am baracetamol yn ystod eich apwyntiad brechu.

Mae’n syniad da cael rhywfaint o baracetamol hylif i fabanod gartref cyn yr apwyntiad brechu pan fydd eich baban yn ddeufis oed. Gellir ei brynu o fferyllfeydd neu archfarchnadoedd lleol. Peidiwch byth â rhoi paracetamol hylif cryfach sydd wedi’i fwriadu ar gyfer plant hŷn i fabanod. Peidiwch byth â rhoi meddyginiaethau sy’n cynnwys aspirin i faban.

Gweler y cwestiynau cyffredin isod i gael rhagor o wybodaeth am baracetamol hylif i fabanod. 

Mae adweithiau eraill yn brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a phrin, gweler:

Cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111 os ydych chi’n poeni am symptomau. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy’r Cynllun Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein yn Yellow Card (Saesneg yn unig) neu drwy ffonio llinell gymorth y cynllun Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).

A yw’n ddiogel i fy maban gael y brechlyn MenB gyda brechiadau eraill rhwng 12 a 13 mis oed?

Mae astudiaethau’n dangos ei bod yn ddiogel rhoi’r brechlyn MenB gyda’r brechiadau arferol eraill rhwng 12 a 13 mis oed, fel y gellir amddiffyn eich baban rhag heintiau difrifol ar unwaith.

Brechiad MenB – Pryd ddylwn i roi paracetamol i fy maban ar ôl iddo gael ei frechiad?

Gallai eich baban gael twymyn ar ôl unrhyw frechiad, ond mae’n fwy cyffredin pan roddir y brechlyn MenB gyda’r brechiadau babanod rheolaidd eraill. Bydd rhoi paracetamol i’ch baban yn fuan ar ôl iddo gael ei frechiad a pheidio ag aros i dwymyn ddatblygu yn lleihau’r risg o ddatblygu twymyn.

Rhowch y dos cyntaf o baracetamol cyn gynted â phosibl ar ôl i’ch baban gael ei frechiad. Rhowch baracetamol hylif cryfder addas i fabanod (120mg/5ml) yn unig. Ar gyfer babanod cynamserol iawn (a aned cyn 32 wythnos), dylai meddyg roi paracetamol ar bresgripsiwn iddynt.

Dosau paracetamol ar ôl y ddau frechiad MenB cyntaf 

Rhowch hanner llwy de (2.5ml) trwy ddefnyddio’r llwy neu’r chwistrell a ddarperir gyda’r feddyginiaeth i fabanod rhwng wyth wythnos a chwe mis oed.

Oed y babn Fel arfer yn 8 wythnos hyd at 6 mis oed
Dos 1 Un dos 2.5ml (60mg) cyn gynted â phosibl ar ôl y brechiad.
Dos 2 Un dos 2.5ml (60mg) 4 i 6 awr ar ôl y dos cyntaf.
Dos 3 Un dos 2.5ml (60mg) 4 i 6 awr ar ôl yr ail ddos.

Dilynwch yr amserlen hon ar ôl pob un o’r ddau frechiad MenB cyntaf.

Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol ar ôl i’ch baban gael y brechlyn MenB. Os bydd twymyn ar eich baban ar unrhyw adeg arall, dylech ddilyn y cyfarwyddiadau a’r cyngor am y dos a roddir ar y pecyn cynnyrch a’r daflen wybodaeth i gleifion.

Gwnewch yn siŵr fod gennych baracetamol cryfder addas i fabanod cyn apwyntiad brechu cyntaf eich baban. Gallwch ei brynu mewn fferyllfa neu archfarchnad.

Peidiwch â rhoi’r dos cyntaf cyn eich apwyntiad brechu, gan fod angen i’r nyrs wirio am arwyddion o heintiau cyfredol, a allai olygu gohirio’r brechiad.

Beth os bydd gan fy maban dwymyn o hyd ar ôl cael y tri dos o baracetamol?
  • Efallai y bydd rhai babanod dal yn datblygu twymyn ar ôl eu brechiad, hyd yn oed os byddant wedi cael tri dos o baracetamol.
  • Yn ystod y 48 awr ar ôl cael y brechiad, os bydd gan eich baban dwymyn o hyd a’i fod yn iach fel arall, gallwch barhau i roi’r un dos o 2.5 ml (60mg) o baracetamol hylif cryfder addas i fabanod (120mg/5ml) iddo.
  • Arhoswch o leiaf bedair awr rhwng dosau bob amser a pheidiwch byth â rhoi mwy na phedwar dos mewn 24 awr.
  • Cadwch eich baban yn lled oer drwy wneud yn siŵr nad oes ganddo ormod o haenau o ddillad neu flancedi a rhowch ddigon o hylifau iddo. Os yw eich baban yn cael ei fwydo ar y fron, llaeth y fron yw’r hylif gorau i’w roi iddo.

Os bydd gan eich baban dwymyn 48 awr ar ôl cael y brechiad, neu os ydych yn pryderu am iechyd eich baban ar unrhyw adeg:

  • gwrandewch ar eich greddf a siaradwch â’ch meddyg teulu, neu
  • cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.
A oes angen paracetamol ar fy maban ar ôl pob brechiad MenB?

Bydd angen paracetamol ar eich baban ar ôl brechiadau MenB a roddir  pan fydd dan 12 mis oed.

Fodd bynnag, nid oes angen paracetamol fel mater o drefn ar ôl y brechlyn MenB a roddir ar ôl iddo fod yn 12 mis oed. Mae hyn oherwydd y bydd llai o risg o gael twymyn erbyn iddo gyrraedd yr oedran hwn.

Peidiwch byth â rhoi meddyginiaethau sy’n cynnwys aspirin i blant dan 16 oed. 

A all fy maban gael clefyd meningococol ar ôl iddo gael ei frechu?

A all fy maban gael clefyd meningococol ar ôl iddo gael ei frechu?

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol a achosir gan facteria MenB. Nid yw’r un brechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig adnabod arwyddion a symptomau clefyd meningococol (llid yr ymennydd a septisemia), hyd yn oed os yw eich plentyn wedi cael ei frechu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn:

Gweld yr amserlenni imiwneiddio arferol ar gyfer Cymru.

Adnoddau

Os hoffech chi ddysgu rhagor am y brechlyn MenB neu’r clefydau y mae’n amddiffyn yn eu herbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch chi hefyd ffonio GIG 111 neu eich practis meddyg teulu i gael cyngor os oes gennych gwestiynau. 

Brigiad achosion llid yr ymennydd 

Rhagor o wybodaeth

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 13eg Ebrill 2026