Neidio i'r cynnwys

Brechlyn Hepatitis B - Cymhwysedd ac apwyntiadau

Imiwneiddio babanod  

Mae’r brechlyn hepatitis B yn cael ei gynnig i bob babi sydd wedi’i eni ar ôl 1 Awst 2017 fel rhan o amserlen frechu reolaidd y GIG fel brechlyn 6-mewn-1. Mae’r brechlyn 6-mewn-1 yn cael ei gynnig i fabanod pan maent yn wyth, 12 ac 16 wythnos oed. 

Brechlyn Hepatitis B yn ystod beichiogrwydd

Gall haint Hepatitis B mewn merched beichiog fod yn ddifrifol i’r fam a gall achosi haint hirdymor i’r babi, felly mae’n bwysig iawn bod merched beichiog sydd â risg uchel o haint hepatitis B yn cael eu brechu. 

Babanod sy’n cael eu geni i famau â hepatitis B

Yn ystod beichiogrwydd, cynigir sgrinio am hepatitis B i bob menyw. Mae angen rhoi dosau ychwanegol o’r brechlyn hepatitis B ar enedigaeth, yn bedair wythnos oed, ac yn 12 mis oed i fabanod sy’n cael eu geni i famau sydd wedi’u heintio â hepatitis B. 

Ystyrir bod rhai mamau sydd wedi’u heintio â hepatitis B yn risg arbennig o uchel oherwydd eu bod yn hynod heintus. Dylai babanod sy’n cael eu geni i’r mamau risg uchel hyn gael chwistrelliad o imiwnoglobwlin hepatitis B (HBIG) adeg eu geni. Mae HBIG wedi’i wneud o waed ac mae’n cynnwys gwrthgyrff i hepatitis B. Mae’n rhoi amddiffyniad cyflym ond nid yw’n para’n hir. Bydd angen brechlyn hepatitis B ar y babanod hyn hefyd er mwyn eu hamddiffyn yn y tymor hwy. 

Dylai pob babi sy’n cael ei eni i fam sydd wedi’i heintio â hepatitis B gael prawf gwaed ar ôl 12 mis i weld a yw wedi ei heintio â hepatitis B. 

Brechlyn Hepatitis B ar gyfer y rhai y credir eu bod mewn perygl 

Mae pawb sydd mewn grŵp risg uchel yn cael cynnig y brechlyn hepatitis B hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:

  • Pobl sydd ag afiechyd cronig ar yr arennau (cam 4 a 5, gan gynnwys haemodialysis)
  • Pobl sydd ag afiechyd cronig yr iau / afu (er enghraifft, y rhai sydd ag afiechyd difrifol yr yr iau / afu, fel sirosis o unrhyw achos, neu sydd ag afiechyd llai difrifol ar yr iau / afu ac a allai rannu ffactorau risg ar gyfer cael ei heintio â hepatitis B, fel pobl â hepatitis C cronig).
  • Pobl sy’n derbyn gwaed neu gynhyrchion gwaed yn rheolaidd (er enghraifft, pobl â hemoffilia, thalasaemia neu anemia cronig arall), neu eu gofalwyr sy’n rhoi’r cynhyrchion hyn
  • Pobl sy’n chwistrellu cyffuriau
  • Partneriaid rhywiol, plant neu gysylltiadau teuluol neu gartref agos pobl sy’n chwistrellu cyffuriau
  • Pobl sy’n newid partneriaid rhywiol yn aml, dynion sy’n cael rhyw gyda dynion neu weithwyr rhyw
  • Cyswllt cartref, teuluol agos neu rywiol person â haint hepatitis B
  • Aelodau o deulu sy’n mabwysiadu plentyn o wlad sydd â lefelau uchel neu ganolig o haint hepatitis B
  • Aelodau agos o deulu neu unrhyw un sy’n rhannu cartref gyda gofalwyr maeth tymor byr sy’n derbyn lleoliadau brys
  • Aelodau agos o deulu neu unrhyw un sy’n rhannu cartref gyda gofalwyr maeth parhaol sy’n derbyn plentyn sydd wedi’u heintio â hepatitis B
  • Carcharorion mewn carchardai yn y DU, gan gynnwys os ydynt ar remand
  • Pobl sy’n byw mewn llety ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu
  • Oedolion neu blant sy’n mynychu gofal dydd, ysgolion a chanolfannau ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu ac yr aseswyd eu bod mewn perygl rheolaidd o haint drwy’r croen (fel drwy frathu neu gael eu brathu)
  • Pobl sydd mewn mwy o berygl o gael hepatitis B oherwydd eu swydd
  • Pobl sy’n teithio i wledydd sydd â lefelau uchel o hepatitis B

Sut i archebu

Mae meddygfeydd a chlinigau iechyd rhywiol yn darparu’r brechlyn hepatitis B am ddim fel rheol os ydych chi mewn grŵp sydd mewn perygl. Ar gyfer babanod sy’n cael eu geni i famau risg uchel, mae eu dos cyntaf yn debygol o gael ei gynnig gan fydwraig neu feddyg yn yr ysbyty lle cânt eu geni. Os yw eich swydd chi’n eich rhoi chi mewn perygl o gael haint hepatitis B, cyfrifoldeb eich cyflogwr yw trefnu brechlyn i chi. Os ydych chi’n teithio i wlad risg uchel, efallai y bydd eich meddyg teulu yn gallu rhoi’r brechlyn i chi neu efallai y bydd angen i chi fynd i glinig iechyd teithio (efallai na fydd y GIG yn talu am gost y brechlyn). 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Mai 2025