Brechlyn Hepatitis B - Diogelwch ac effeithiolrwydd
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o hepatitis B. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau hepatitis B, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu. Ewch i’n tudalen Hepatitis B os hoffech ddysgu mwy am y clefyd:
Nid oes tystiolaeth o unrhyw risg o frechu merched beichiog neu ferched sy’n bwydo ar y fron yn erbyn hepatitis B, gan ei fod yn frechlyn anweithredol (wedi’i ladd).
Sgîl-effeithiau
Mae brechlynnau Hepatitis B yn cael eu goddef yn dda fel rheol. Y sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yw dolur a chochni yn safle’r pigiad.
Mae adweithiau eraill yn brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin a phrin, edrychwch ar y canlynol:
- Engerix B: Engerix: B® 10 micrograms/0.5ml / Engerix B® 20 micrograms/1ml
- HBvaxPro: HBvaxPRO® 5 micrograms/0.5ml / HBvaxPRO® 10 micrograms/1ml / HBvaxPRO® 40 micrograms/1ml (ar gyfer cleifion arennau).
- Fendrix
- Brechlyn 6-mewn-1 i blant: Infanrix hexa / Vaxselis
- Brechlyn hepatitis A a hepatitis B: Ambirix / Brechlyn Oedolion Twinrix / Twinrix Pediatrig
Os ydych chi’n bryderus am unrhyw symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Mai 2025