Brechlyn firws syncytial anadlol (RSV) - Brechlyn RSV i fenywod beichiog a’u babanod
Am y brechlyn
Mae pob meddyginiaeth a brechlyn wedi bodloni safonau diogelwch llym i’w defnyddio yn y DU ac maent yn ddiogel iawn. Fel yn achos pob meddyginiaeth a brechlyn, bydd unrhyw adroddiadau o sgîl-effeithiau yn cael eu monitro a’u hadolygu’n agos.
Mae’r brechlyn RSV yn ddos unigol a roddir yn rhan uchaf y fraich.
Os hoffech ddysgu mwy am y brechlyn RSV, gallwch ddarllen y daflen i gleifion.
A allaf gael y brechlyn yn gynharach na 28 wythnos yn ystod fy meichiogrwydd?
Mae’n bwysig eich bod yn cael y brechlyn pan fydd yn cael ei gynnig i chi o 28 wythnos ymlaen. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cronni lefel dda o wrthgyrff i’w trosglwyddo i’ch baban yn y groth, gan gynnig yr amddiffyniad gorau iddo.
Beth os byddaf yn sâl ar ddiwrnod fy apwyntiad?
Os byddwch yn sâl pan drefnir eich apwyntiad, mae’n well aros nes eich bod wedi gwella i gael eich brechlyn, ond dylech geisio ei gael cyn gynted â phosibl.
A yw’r brechlyn RSV yn cynnwys gelatin porc?
Nid yw’r un o’r brechlynnau presennol a gynigir yn ystod beichiogrwydd yn cynnwys gelatin (porc). Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am frechlynnau a gelatin moch ar ei’n dudalen.
A ellir rhoi RSV ar yr un pryd â brechlynnau eraill?
Mae’n bwysig eich bod yn cael eich brechlynnau ar yr adeg gywir yn ystod beichiogrwydd. Mae brechlyn y pas fel arfer yn cael ei gynnig yn gynharach o 16 wythnos ymlaen. Gellir rhoi’r brechlynnau ffliw ar unrhyw adeg yn ystod eich beichiogrwydd. Dylech gael yr holl frechlynnau a gynigir yn ystod beichiogrwydd cyn gynted ag y byddant ar gael i chi.
Pan gynigir eich brechlyn RSV i chi, os nad ydych wedi cael eich brechlyn pas neu ffliw eto, gallwch eu cael ar yr un pryd.
Os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch am y brechlynnau, sut y gallant eich diogelu chi a’ch babi a phryd y dylech eu cael, gallwch ofyn i’ch bydwraig.
A ellir rhoi’r brechlyn RSV yn ystod bwydo ar y fron?
Mae manteision bwydo ar y fron yn hysbys iawn, a gellir rhoi’r brechlyn RSV yn ddiogel i ferched sy’n bwydo ar y fron. Mae’r gwrthgyrff a wnewch ar ôl i chi gael eich brechu yn mynd i mewn i’ch llaeth y fron. Gall y rhain roi rhywfaint o amddiffyniad i’ch baban rhag RSV.
Ni ddylech roi’r gorau i fwydo ar y fron cyn eich brechiad, a gallwch barhau i fwydo ar y fron fel arfer wedyn.
Pam bod brechlyn RSV yn cael ei gynnig i ferched beichiog?
Ym mis Medi 2023, argymhellodd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) raglen imiwneiddio RSV ar gyfer merched beichiog i amddiffyn babanod. Mae’r JCVI yn grŵp o arbenigwyr yn y DU sy’n cynghori’r Llywodraeth ar frechlynnau ac imiwneiddio.
Gallwch helpu i amddiffyn eich baban rhag RSV o’i enedigaeth trwy gael y brechiad RSV tra byddwch yn feichiog.
Gall brechu yn ystod beichiogrwydd helpu i atal RSV a’i wneud yn llai difrifol i’ch baban. Mae hyn oherwydd bod y gwrthgyrff (sylweddau naturiol y mae system imiwnedd eich corff yn eu cynhyrchu i frwydro yn erbyn haint) yn cael eu trosglwyddo drwy’r brych i’ch baban yn y groth. Mae’r brych y tu mewn i’ch croth ac mae’n cysylltu eich cyflenwad gwaed chi â’ch baban yn y groth.
- Mae’r rhaglen frechu RSV ar gyfer merched beichiog yn effeithiol iawn o ran amddiffyn babanod ifanc rhag haint RSV o enedigaeth hyd at chwe mis oed a thu hwnt.
- Er mwyn rhoi’r amddiffyniad gorau i’ch baban, dylech gael eich brechu rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Os byddwch yn methu eich brechlyn, gallwch ei gael hyd nes y bydd eich baban yn cael ei eni. Fodd bynnag, os byddwch yn ei gael yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd efallai na fydd mor effeithiol.
- Dylech geisio cael eich brechlyn RSV cyn gynted ag y byddwch yn gymwys. Bydd hyn yn eich helpu i adeiladu lefel dda o amddiffyniad i’w drosglwyddo i’ch baban cyn i chi roi genedigaeth.
- Gall y brechiad RSV leihau’r risg o bronciolitis difrifol o 70% yn ystod chwe mis cyntaf bywyd.
A oes angen i mi gael y brechlyn RSV ym mhob beichiogrwydd?
Oes. Mae angen y brechlyn arnoch ym mhob beichiogrwydd i gynnig yr amddiffyniad gorau i’ch baban newydd rhag RSV. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn cronni lefel dda o wrthgyrff i’w trosglwyddo i’ch baban yn y groth.
Pwy sydd fwyaf mewn perygl o gael RSV?
Mae babanod dan flwydd oed ac oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn.
Mae pobl eraill mewn mwy o berygl o gael clefyd RSV difrifol, megis:
- babanod sy’n cael eu geni’n gynnar
- pobl sydd â chlefyd yr ysgyfaint neu glefyd y galon difrifol, a’r
- rhai hynny sydd â system imiwnedd wan.
Mae’n bosibl y bydd rhai babanod sydd â risg uwch o gael RSV yn cael cynnig pigiad gwrthgorff o’u genedigaeth hefyd. Bydd y pigiad hwn yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i’ch babi yn ychwanegol at unrhyw wrthgyrff y gallent eu cael gennych. Os yw’ch baban yn gymwys i gael pigiad gwrthgorff, bydd eich meddyg neu’ch bydwraig yn trafod hyn gyda chi.
Gallwch helpu i amddiffyn eich baban rhag RSV o’i enedigaeth trwy gael y brechiad RSV tra byddwch yn feichiog.
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am glefydau a achosir gan RSV ar:
- Gwybodaeth am bronciolitis ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
- Gwybodaeth am niwmonia ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
- Gwybodaeth am haint clust ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
- Gwybodaeth am crŵp ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
Cymhwyster ar gyfer y brechlyn
Er mwyn cynnig yr amddiffyniad gorau i’ch baban, dylech gael eich brechlyn rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd.
Dylid cynnig y brechlyn i chi tua’r adeg y byddwch yn cael eich apwyntiad cynenedigol 28 wythnos. Os nad ydych wedi clywed erbyn yr adeg hon, cysylltwch â’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu i wneud apwyntiad.
Mae’r brechlyn yn fwyaf effeithiol rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Os byddwch yn methu eich brechlyn, gallwch ei gael hyd nes y bydd eich babi yn cael ei eni. Fodd bynnag, os byddwch yn ei gael yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd efallai na fydd mor effeithiol.
- Bydd cael y brechlyn ym mhob beichiogrwydd yn rhoi’r amddiffyniad gorau i bob baban rhag salwch RSV difrifol.
- Mae’n bwysig cael eich brechlynnau ar yr adeg gywir yn ystod beichiogrwydd.
I gael gwybodaeth am frechlynnau eraill yn ystod beichiogrwydd, ewch i gwybodaeth am frechiadau yn ystod beichiogrwydd.
Beth fydd yn digwydd os na chefais y brechiad RSV yn ystod beichiogrwydd?
Os oeddech wedi methu eich brechiad RSV yn ystod beichiogrwydd, siaradwch â’ch bydwraig oherwydd gallech ei gael o bosibl ar ôl yr enedigaeth. Ni fydd hyn yn amddiffyn eich babi’n uniongyrchol, ond gallai eich amddiffyn a’ch atal rhag trosglwyddo RSV i’ch babi o bosibl. Os ydych yn bwydo ar y fron, nid oes tystiolaeth o unrhyw risg i’r baban o ganlyniad i gael y brechlyn.
Diogelwch ac effeithiolrwydd
A yw’r brechlyn RSV yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd?
Mae astudiaethau wedi dangos bod y brechlyn RSV yn ddiogel iawn i chi a’ch babi.
Mewn treial clinigol o bron i 4,000 o ferched, roedd gan y brechlyn RSV hanes diogelwch da. Mae’r brechlyn bellach wedi’i gymeradwyo gan reoleiddwyr meddyginiaethau yn y DU, Ewrop ac UDA. Ers hynny mae miloedd lawer o ferched wedi cael y brechlyn mewn rhaglenni cenedlaethol, gan gynnwys mwy na 100,000 o ferched yn UDA.
Nid yw’r brechlyn RSV yn frechlyn byw, felly ni all achosi RSV ynoch chi na’ch babi. Dyma’r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o helpu i amddiffyn eich baban yn y groth rhag RSV.
A oes unrhyw sgîl-effeithiau yn gysylltiedig â’r brechlyn?
Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae hyn oherwydd bod brechlynnau’n gweithio trwy sbarduno ymateb yn eich system imiwnedd. Mae’r rhan fwyaf o sgîl-effeithiau’n ysgafn ac nid ydynt yn para’n hir, ac nid yw pawb yn dioddef ohonynt. Dim ond diwrnod neu ddau ddylai’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin bara.
Mae sgîl-effeithiau cyffredin yn cynnwys:
- cur pen
- cyhyrau poenus, a
- dolur, cochni neu chwyddo lle rhoddwyd y pigiad.
Ni adroddwyd am unrhyw sgîl-effeithiau mewn babanod a anwyd i famau sydd wedi cael eu brechu.
Mae sgil-effeithiau prin neu brin iawn o’r brechlyn yn cynnwys:
- Syndrom Guillain-Barré, cyflwr y nerfau sy’n achosi gwendid yn y cyhyrau, a
- adweithiau alergaidd, megis chwydd yn y wyneb, y gwefusau, y tafod neu’r gwddf, llosg danadl (brech chwyddedig, sy’n cosi), anhawster llyncu, a theimlo’n benysgafn.
Gall y symptomau hyn fod yn arwydd o adwaith alergaidd difrifol ac fel arfer yn digwydd o fewn 15 munud i gael y brechlyn. Ffoniwch 999 ar unwaith os ydych wedi cael y brechlyn ac yn dioddef unrhyw un o’r canlynol.
I gael mwy o wybodaeth am sgîl-effeithiau’r brechlyn, darllenwch y daflen wybodaeth i gleifion ar-lein ar wefan EMC (safle allanol).
Os bydd eich symptomau’n gwaethygu neu os ydych yn bryderus, cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111 neu cysylltwch â’ch meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Dylech roi gwybod ar-lein am sgil-effeithiau a amheuir brechlynnau a meddyginiaethau ar wefan Yellow Card (safle allanol), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
A all fy maban gael RSV o hyd pan fyddaf yn cael fy mrechu?
Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, ac mae’n bosibl y bydd rhai babanod yn parhau i gael RSV er bod eu mamau wedi cael y brechlyn. Fodd bynnag, i’r rhan fwyaf o fabanod sy’n cael eu geni i famau sydd wedi’u brechu, dylai unrhyw haint RSV fod yn llai difrifol.
Pan fydd yn cael ei roi yn ystod beichiogrwydd, canfuwyd bod y brechlyn RSV yn effeithiol iawn wrth atal RSV. Mae’n lleihau’r risg o bronciolitis difrifol o 70% yn ystod chwe mis cyntaf bywyd. Ar ôl yr oedran hwn mae eich baban mewn perygl llawer is o RSV difrifol.
Mae’n bwysig o hyd i wybod arwyddion a symptomau RSV, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am arwyddion a symptomau salwch a achosir gan RSV ar:
- Gwybodaeth am bronciolitis ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
- Gwybodaeth am niwmonia ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
- Gwybodaeth am haint clust ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
- Gwybodaeth am crŵp ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
Mwy o wybodaeth
- I gael gwybodaeth am imiwneiddiadau cyntaf eich babi, ewch i dudalen Amserlen Gyflawn.
- Prosiect gwybodaeth am frechlyn feirws syncytiol anadlol (RSV) ar wefan Prifysgol Rhydychen (safle allanol).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26ain Hydref 2025