Neidio i'r cynnwys

Brechlyn COVID-19 - Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn COVID-19

Os ydych yn gymwys, bydd y brechlyn yn cael ei ddarparu am ddim trwy’r GIG.  

Cyflwynodd y DU ei rhaglen brechu rhag COVID-19 ym mis Rhagfyr 2020 i helpu i atal salwch difrifol, arosiadau yn yr ysbyty a marwolaethau. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae nifer y bobl sy’n mynd i’r ysbyty ac yn marw o COVID-19 wedi gostwng.

I’r rhan fwyaf o bobl, mae COVID-19 yn haint ysgafn, er y gall wneud i chi deimlo’n sâl o hyd. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn wynebu risg uwch o gael salwch difrifol.

Nod rhaglen brechu rhag COVID-19 yw amddiffyn y rhai sydd â’r risg uchaf o ddatblygu salwch difrifol. Mae COVID-19 yn fwy difrifol i bobl hŷn (gan gynnwys y rhai mewn cartrefi gofal) a’r rhai â chyflyrau iechyd penodol. Mae’r grwpiau hyn yn dal yn fwy tebygol o fod angen triniaeth yn yr ysbyty os cânt COVID-19.

Wrth i COVID-19 barhau i ledaenu yng Nghymru, mae’n bwysig iawn i chi neu’ch plentyn gael eich brechu os ydych chi’n gymwys. Mae brechu yn helpu i leihau’r risg y bydd unigolyn angen gofal ysbyty oherwydd bod COVID-19 ganddynt.

Mae Cymru yn dilyn polisi Llywodraeth Cymru ar bwy sy’n gymwys i gael brechiadau COVID-19. Mae’r polisi hwn yn seiliedig ar dystiolaeth ynghylch pwy sydd fwyaf mewn perygl o gael salwch difrifol a marw oherwydd COVID-19.

Gall cael eich brechu rhag COVID-19 helpu i leihau’r risg y byddwch yn datblygu salwch difrifol a marw o’r feirws. Rhowch amddiffyniad i’ch hun a’ch gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Gwybodaeth:

Os ydych chi mewn mwyaf o berygl o salwch difrifol o haint COVID-19, byddwch chi’n cael cynnig brechiad yn y gwanwyn a’r hydref bob blwyddyn. Mae hyn er mwyn sicrhau eich bod yn parhau i fod wedi’ch amddiffyn rhag COVID-19. Rydym yn argymell y dylech gael eich brechiad cyn gynted ag y caiff ei gynnig i chi.

Oedolion

Mae COVID-19 yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol i oedolion hŷn a’r rhai sydd â chyflyrau iechyd penodol. Bydd oedolion sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol COVID-19 yn cael cynnig y brechiad ddwywaith y flwyddyn i leihau’r risg o salwch difrifol neu farwolaeth o COVID-19.   

Bydd oedolion yn y grwpiau canlynol yn gymwys i gael un dos o’r brechlyn COVID-19.  

  • Y rhai sy’n 75 oed a throsodd (neu a fydd yn troi’n 75 oed yn ystod y cyfnod y cynigir y brechlyn).  
  • Preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn   
  •  Pobl â system imiwnedd wan.   

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn mwyaf addas ar gyfer eich oedran a’ch cyflwr.    

Gwnewch yn siŵr nad ydych yn oedi cyn cael eich brechlyn COVID-19 os cewch eich cynghori i wneud hynny.

Sut fyddaf i’n gwybod a oes gennyf system imiwnedd wan?

Mae system imiwnedd wan yn golygu na all eich corff frwydro yn erbyn heintiau cystal ag y byddai fel arfer. Mae hyn yn cynnwys pobl sydd:   

  • yn cael cemotherapi neu radiotherapi radical  
  • wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn, bôn-gelloedd neu organau  
  • yn byw gyda HIV (ar unrhyw gam)  
  • yn cael diagnosis o fyeloma ymledol  
  • os oes gennych anhwylder genetig sy’n effeithio ar y system imiwnedd (fel IRAK-4, NEMO, anhwylder cyflenwol neu ddiffyg imiwnedd cyfun difrifol)  
  • yn cael therapi biolegol i atal y system imiwnedd (er enghraifft, rituximab, alemtuzumab neu wrth-TNF)  
  • yn cymryd (neu ar fin cymryd) steroidau am fwy na mis ar ddos penodol  
  • oes gennych hanes o lewcemia, lymffoma neu myeloma, ac yn  
  • cael triniaeth imiwnotaliol hirdymor (triniaeth sy’n gwanhau’r system imiwnedd) ar gyfer clefyd awto-imiwn.  

Am ragor o wybodaeth, ewch i rhaglen frechu COVID-19 genedlaethol hydref (safle allanol) neu cysylltwch â’ch meddyg teulu neu’ch Bwrdd Iechyd lleol.

Plant a phobl ifanc

Gall COVID-19 effeithio ar unrhyw un. I’r rhan fwyaf o blant, mae COVID-19 yn salwch ysgafn nad yw’n arwain at broblemau yn aml. Fodd bynnag, mae rhai plant yn wynebu risg uwch, gan gynnwys y rhai sy’n byw gyda chyflyrau iechyd penodol.    

Cynghorir y rhai rhwng chwe mis a 17 oed sydd â system imiwnedd wan i gael y brechlyn rhag COVID-19 ddwywaith y flwyddyn, fel rhan o’r rhaglenni brechu rhag COVID-19 tymhorol. Mae brechu yn ei gwneud hi’n llai tebygol y bydd unigolyn yn mynd yn ddifrifol wael neu farw o COVID-19. Mae cael eich brechu yn ffordd ddiogel ac effeithiol o amddiffyn eich plentyn rhag salwch difrifol ac angen gofal mewn ysbyty.   

Pa blant a phobl ifanc fydd yn cael cynnig y brechlyn COVID-19 y tymor hwn?

Bydd plant a phobl ifanc rhwng chwe mis a 17 oed sydd â system imiwnedd wan yn cael cynnig y brechlyn rhag COVID-19 fel rhan o’r rhaglenni brechu tymhorol. Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc sydd:   

  • yn cael cemotherapi neu radiotherapi radical  
  • wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn, bôn-gelloedd neu organau  
  • os oes gennych anhwylder genetig sy’n effeithio ar y system imiwnedd (fel IRAK-4, NEMO, anhwylder cyflenwol neu ddiffyg imiwnedd cyfun difrifol)  
  • â chanser y gwaed neu’r mêr esgyrn  
  • yn cael therapi biolegol i atal y system imiwnedd (er enghraifft, rituximab, alemtuzumab neu wrth-TNF)  
  • yn cael eu trin neu’n debygol o gael eu trin â steroidau dos uchel neu gymedrol  
  • cymryd meddyginiaeth drwy’r geg sy’n effeithio ar y system imiwnedd (er enghraifft, methotrexate, asathioprine, 6-mercaptopurine neu mycophenolate), ac 
  • yn dioddef o glefyd awto-imiwn sydd angen triniaeth hirdymor.  

Dylid ystyried brechu plant a phobl ifanc sydd ar fin dechrau cymryd meddyginiaeth a fydd yn atal eu system imiwnedd cyn hyn. 

A yw’r brechlyn COVID-19 yn ddiogel i blant a phobl ifanc?

Mae’r holl feddyginiaethau a brechlynnau yn y DU yn cael eu monitro’n agos gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Mae wedi cymeradwyo’r brechlynnau i’w defnyddio mewn plant a phobl ifanc, gan eu bod yn ddiogel ac yn effeithiol. 

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau COVID-19 a roddir i blant a phobl ifanc, gan gynnwys eu cynhwysion a’u sgil-effeithiau posibl, ewch i wefan EMC (safle allanol). Bydd angen i chi roi’r geiriau ‘COVID vaccine’ yn y blwch chwilio. Gallwch hefyd weld y daflen i gleifion ar-lein.

Brechiad COVID-19 ac imiwnoataliaeth difrifol

Mae’n bosibl na fydd pobl chwe mis oed a hŷn sydd ag imiwnoataliaeth difrifol yn ymateb yn dda i Efallai na fydd y rhai chwe mis oed a hŷn sydd â system imiwnedd wan iawn oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol bob amser yn meithrin imiwnedd llawn i COVID-19.  Os yw hyn yn berthnasol i chi, gall arbenigwyr meddygol eich cynghori i gael dosau ychwanegol i wella’ch amddiffyniad.  Efallai y cynigir y dosau ychwanegol hyn i chi y tu allan i’r rhaglen dymhorol, i hybu eich amddiffyniad tan yr ymgyrch frechu nesaf.

Os oes gennych gwestiynau, siaradwch â’ch meddyg neu nyrs y practis. Byddan nhw’n gallu dweud wrthych chi a oes angen brechlynnau COVID-19 ychwanegol arnoch chi neu’ch plentyn.

Os ydw i’n gymwys, pryd y byddaf yn cael brechiad y tymhorol?

Os ydych chi’n gymwys i gael dos tymhorol, byddwch chi’n cael cynnig y brechlyn ddwywaith y flwyddyn, fel arfer yn y gwanwyn a’r hydref. Dylech gael gwahoddiad i gael eich brechlyn tua chwe mis (ac nid cyn tri mis) ar ôl eich dos olaf o’r brechlyn.

Cynigir dos y gwanwyn rhwng mis Ebrill a mis Mehefin. Os ydych chi’n sâl ac yn methu â chael y brechlyn rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, efallai y byddwch chi’n gallu cael y brechlyn ym mis Gorffennaf. Cynigir dos yr hydref rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr. Os ydych chi’n sâl ac yn methu â chael y brechlyn rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr, efallai y byddwch chi’n gallu cael y brechlyn ym mis Ionawr.

Os nad ydych chi’n 75 oed eto ond yn troi’n 75 yn ystod y cyfnod y bydd y brechlyn yn cael ei gynnig, byddwch yn dal i gael eich gwahodd i gael eich brechiad. Nid oes raid i chi aros tan eich pen-blwydd. 

Nid wyf wedi cael fy ngwahodd i gael fy mrechu. Beth y dylwn ei wneud?

Os nad ydych wedi cael gwahoddiad neu os ydych yn meddwl ein bod wedi eich methu, cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol.

Pwy a all roi cydsyniad i blant a phobl ifanc gael y brechlyn?

Os ydych yn rhiant neu’n ofalwr sydd â chyfrifoldeb rhiant am blentyn neu berson ifanc, gofynnir i chi roi cydsyniad (caniatâd) ar sail gwybodaeth iddo gael y brechlyn. Gall pobl ifanc 16 oed a throsodd roi cydsyniad (caniatâd) eu hunain.

Mewn rhai amgylchiadau, gall pobl ifanc dan 16 oed fod yn ddigon aeddfed i roi cydsyniad eu hunain os ydynt yn deall yn iawn yr hyn a gynigir. Gelwir hyn yn gymhwysedd Gillick. Er, mae’n well bod rhieni neu ofalwyr yn rhan o’r penderfyniad i roi’r brechlyn i bobl ifanc.

Bydd y nyrs neu’r unigolyn sy’n rhoi’r brechiad yn gallu trafod y brechlyn yn yr apwyntiad ac ateb unrhyw gwestiynau.

Beth am bobl sy’n gymwys i gael y brechlyn ond sydd yn yr ysbyty am reswm arall?

Gellir cynnig brechiad yn yr ysbyty i gleifion mewn ysbytai y mae angen iddynt gael eu brechu, os yw hynny’n bosibl. Cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Bydd preswylwyr mewn cartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn yn cael cynnig y brechiad yn eu cartref gofal.   

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Mawrth 2026