Brechlyn COVID-19 - Cael y brechlyn COVID-19
Efallai y bydd y brechlyn COVID-19 yn cael ei gynnig yn eich meddygfa, mewn fferyllfa gymunedol leol, mewn canolfan frechu, neu drwy dîm symudol. Os ydych yn gaeth i’r tŷ neu’n byw mewn cartref gofal ac yn methu cyrraedd meddygfa neu ganolfan frechu, mae yna gynlluniau ar waith i wasanaeth symudol ddod atoch chi. Gellir cynnig brechiad yn yr ysbyty i gleifion mewn ysbytai y mae angen iddynt gael eu brechu, os yw hynny’n bosibl.
Byddwch yn cael gwybod ble i gael eich brechlyn pan fyddwch yn cael manylion eich apwyntiad. Os na allwch fynd, rhowch wybod i’r tîm bwcio fel y gallant roi eich apwyntiad i rywun arall. Mae manylion cyswllt y tîm ar y llythyr apwyntiad.
Sut mae’r brechlyn yn cael ei roi?
Mae’r brechlyn yn cael ei roi fel pigiad yn rhan uchaf y fraich. Mae’r brechlyn yn cael ei roi i fabanod dan 12 mis oed trwy bigiad i’r glun.
Beth yw’r brechlynnau COVID-19 sy’n cael eu hargymell i’w defnyddio yn y DU ar hyn o bryd?
Gallwch weld cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ynghylch pa frechlynnau y dylid eu defnyddio yn y DU.
A allaf roi gwaed ar ôl cael y brechlyn?
Mae gan Wasanaeth Gwaed Cymru wybodaeth ynghylch a allwch roi gwaed ar ôl cael eich brechu ar y dudalen we brechlynnau. Mae’n nodi ar hyn o bryd: “Nid oes yna gyfnod penodol o oedi ar ôl cael brechiad Covid-19 neu bigiad atgyfnerthu.”
A oes angen i mi adael bwlch rhwng cael fy mrechu rhag COVID-19 a chael brechlyn arall (er enghraifft, brechlyn rhag yr eryr neu’r feirws syncytiol anadlol (RSV))?
Gellir rhoi brechlynnau COVID-19 ar yr un pryd, neu ar unrhyw gyfnod rhwng y rhan fwyaf o frechlynnau eraill. Bydd y darparwr gofal iechyd sy’n rhoi’r brechlyn yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth i chi.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y brechlynnau cyn gynted ag y cânt eu cynnig i chi.
Nid wyf wedi cael brechiad COVID-19, neu rwyf wedi methu un o’m dosau. A allaf gael y brechlyn o hyd?
Os ydych chi’n gymwys i gael brechiad COVID-19, dylech chi dal gael y brechlyn. I’r rhan fwyaf o bobl, mae’r cwrs sylfaenol bellach yn cynnwys dos sengl o frechlyn COVID-19. Cynigir cwrs sylfaenol dau ddos i blant rhwng 6 mis a 4 oed nad ydynt wedi derbyn brechlyn COVID-19 o’r blaen. Os oes gennych system imiwnedd sydd wedi’i gwanhau’n ddifrifol, efallai y bydd angen i chi gael mwy nag un dos. Siaradwch â’ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, a fydd yn gallu trafod â chi nifer y dosau y dylech eu cael.
A oes arnaf angen brechiad COVID-19 i deithio?
Nid yw’r GIG bellach yn cynnig brechiadau COVID-19 at ddibenion teithio. Mae cyngor ar deithio dramor (Saesneg yn unig) ar gael.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Hydref 2025