Brechlyn COVID-19 - Am frechlyn COVID-19
Mae brechiadau’n achub bywydau ac maent yn ffordd effeithiol o helpu i amddiffyn eich hun rhag mynd yn sâl iawn. Mae brechlynnau ar gyfer COVID-19 yn helpu i’ch amddiffyn rhag y mathau cyfredol o feirysau COVID-19. Yn union fel y ffliw, gall y math presennol newid a gall lefelau amddiffyniad leihau dros amser, felly y ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag mynd yn sâl iawn yw cael dos tymhorol.
Yng Nghymru, rydym yn dilyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar ddefnyddio brechlynnau gwahanol yn rhan o raglenni brechu. Byddwch yn cael cynnig y brechlyn mwyaf priodol, a all fod yr un fath â’r brechlynnau a gawsoch o’r blaen neu’n wahanol iddynt. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y brechlynnau COVID-19 cyfredol, a gweld y daflen wybodaeth i gleifion ar wefan EMC (safle allanol).
Mae pob meddyginiaeth a brechlyn wedi pasio safonau diogelwch llym i’w defnyddio yn y DU, ac maent yn ddiogel iawn. Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn gyfrifol am gymeradwyo’r defnydd o feddyginiaethau, gan gynnwys brechlynnau, a monitro eu diogelwch. Mae nifer o frechlynnau COVID-19 wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio yn y DU fel rhai diogel ac effeithiol. Yn yr un modd â phob meddyginiaeth a brechlyn, mae unrhyw adroddiadau am sgileffeithiau’r brechlyn COVID-19 yn cael eu monitro a’u hadolygu’n fanwl.
Pam y dylwn gael y brechlyn COVID-19?
Fel rhai brechlynnau eraill, gall lefelau amddiffyniad ddechrau lleihau dros amser. Cynigir brechiad ddwywaith y flwyddyn i bobl sydd mewn perygl o fynd yn ddifrifol wael oherwydd COVID-19. Bydd y dosau hyn yn helpu i’ch diogelu am gyfnod hirach.
Gall cael y brechlyn helpu i leihau’r risg o orfod mynd i’r ysbyty oherwydd COVID-19.
Pam y mae brechlynnau’n bwysig?
Mae brechlynnau’n ddiogel, yn effeithiol ac yn achub bywydau.
Mae brechlynnau’n dysgu eich system imiwnedd sut i’ch amddiffyn rhag clefydau. Mae’n llawer mwy diogel i’ch system imiwnedd ddysgu hyn trwy frechiad na thrwy ddal y clefydau a cheisio eu trin.
A oes angen i mi gael y brechlyn os ydw i wedi dal haint COVID-19 o’r blaen? Os felly, pa mor hir ddylwn i aros cyn cael fy mrechu?
Os felly, pa mor hir ddylwn i aros cyn cael fy mrechu?
Oes. Nid yw’r ffaith eich bod eisoes wedi dal COVID-19 yn eich diogelu bob amser rhag heintiau yn y dyfodol. Dylech, felly, gael y brechlyn o hyd i wneud yn siŵr eich bod wedi eich diogelu’n iawn.
Os ydych yn teimlo’n sâl, mae’n well aros nes eich bod wedi gwella cyn i chi gael y brechlyn. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad, cofiwch ei ganslo a threfnu apwyntiad newydd. Ceisiwch gael y brechlyn cyn gynted â phosibl ar ôl i chi wella.
Mae’n dal yn bwysig i chi gael eich brechu os ydych yn gymwys i gael brechlyn.
A fydd y brechlyn am ddim?
Os ydych yn gymwys, bydd y brechlyn yn cael ei ddarparu am ddim trwy’r GIG.
Beth y dylwn ei wneud os ydw i eisoes wedi cael COVID-19? Os felly, pa mor hir y dylwn aros cyn cael fy mrechu?
Os ydych eisoes wedi cael COVID-19 ni fydd hyn bob amser yn eich amddiffyn rhag heintiau yn y dyfodol, felly dylech gael y brechlyn o hyd.
Os ydych yn teimlo’n sâl, mae’n well aros nes eich bod wedi gwella cyn i chi gael y brechlyn. Os na allwch ddod i’ch apwyntiad, cofiwch ei ganslo a threfnu apwyntiad newydd. Ceisiwch gael y brechlyn cyn gynted â phosibl ar ôl i chi wella.
Mae’n dal yn bwysig i chi gael eich brechu os ydych yn gymwys i gael brechlyn.
A fydd y brechlyn am ddim?
Os ydych yn gymwys, bydd y brechlyn yn cael ei ddarparu am ddim trwy’r GIG.
Sut y mae darganfod a ydw i’n gymwys i gael brechlyn COVID-19?
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am bwy sy’n gymwys i gael y brechlyn ar ein tudalen cymhwystra ar gyfer brechlyn COVID-19.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17eg Hydref 2025