Brech M - Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn brech M
Mae arbenigwyr brechlynnau yn argymell cynnig y brechlyn i bobl sydd fwyaf tebygol o ddod i gysylltiad â’r feirws. Mae’r brechlyn ar gael fel mater o drefn trwy wasanaethau iechyd rhywiol.
Pwy all gael y brechlyn?
Mae’r brechlyn ar gael i unigolion GBMSM sy’n bodloni meini prawf penodol a chaiff ei gynnig ar sail fesul achos i helpu i amddiffyn rhag brech M.
Gellir cynnig y brechlyn hefyd i rai sydd â chysylltiad agos â phobl sydd mewn mwy o berygl o gael brech M yn y gymuned GBMSM. Mae hyn yn cynnwys pobl o bob rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.
Gallwch gael eich brechlyn brech M drwy wasanaethau iechyd rhywiol os:
- oes gennych bartneriaid rhywiol lluosog
- ydych yn cymryd rhan mewn rhyw grŵp (neu bartïon rhyw)
- ydych yn ymweld â lleoliadau rhyw (fel sawnau neu ystafelloedd cefn), neu os
- ydych wedi cael haint bacteriol diweddar fel clamydia neu gonoroea o ganlyniad i ryw yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael y brechlyn os ydych chi’n gweithio mewn mannau lle gallai brech M ledaenu. Mae hyn yn cynnwys staff sawna neu rai sy’n trin eitemau neu arwynebau a allai gynnwys hylifau’r corff neu gelloedd croen.
Ni chewch wahoddiad i gael y brechlyn, ond os byddwch yn cysylltu â chlinig iechyd rhywiol neu’n ymweld ag un ac yn bodloni’r meini prawf a restrir uchod, dylech gael cynnig y brechlyn.
I gael rhagor o wybodaeth am ble i gael y brechlyn brech M, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Os ydych chi’n weithiwr gofal iechyd sy’n gymwys i gael y brechlyn brech M, cysylltwch â’ch adran iechyd galwedigaethol i wirio eich statws brechu.
Dydw i ddim yn y grŵp sy’n cael ei argymell ar gyfer y brechlyn brech M – oes angen un arnaf?
Yng Nghymru, rydym yn dilyn cyngor arbenigwyr brechlynnau i gynnig brechiadau brech M i atal brigiad o achosion ac amddiffyn pobl sydd mewn perygl. Os nad ydych chi yn y grŵp a argymhellir ar gyfer y brechlyn brech M, mae’n annhebygol y bydd ei angen arnoch chi ar hyn o bryd.
Rydw i wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â brech M nawr – oes angen y brechlyn arna i?
Efallai y cynigir y brechlyn i chi os ydych chi wedi bod mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â brech M, yn dibynnu ar pryd y cawsoch chi gysylltiad â nhw.
Gall y brechlyn helpu i leihau eich risg o ddatblygu brech M neu gall wneud symptomau’n llai difrifol os byddwch chi’n ei gael.
Os ydych chi’n meddwl y gallech fod mewn perygl, cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111, neu cysylltwch â gwasanaeth iechyd rhywiol neu’ch meddyg teulu ar unwaith.
Os cewch gyngor i gael y brechlyn MVA, cynigir dos sengl i chi, yn ddelfrydol ymhen pedwar diwrnod o’r cyswllt agos. Fodd bynnag, gall y bobl ganlynol gael y dos hyd at 14 diwrnod ar ôl cyswllt agos.
- Plant o dan 5 oed
- Merched beichiog
- Pobl â system imiwnedd wan iawn
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Gorffennaf 2025