Brech M - Am frechlyn brech M
Byddwch yn cael cynnig y brechlyn Ankara wedi’i Addasu (MVA). Mae’r brechlyn hwn yn helpu i’ch amddiffyn rhag brech M (a’r frech wen).
Mae dau fersiwn o’r brechlyn hwn – Imvanex, a wneir yn Ewrop, a Jynneos, y fersiwn a wneir yn yr Unol Daleithiau. Yr un brechlyn ydyn nhw ond maen nhw’n dod mewn gwahanol becynnau. Bydd y fersiwn a gewch yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael. Mae’r ddau wedi’u cymeradwyo ac yn gweithio’n dda.
Sut mae’r brechlyn yn gweithio?
Mae brechlyn MVA yn cynnwys feirws sydd wedi’i addasu fel na all dyfu yn y corff dynol. Datblygwyd y brechlyn hwn fel ffurf lawer mwy diogel o’r brechlyn brech M a ddefnyddiwyd yn helaeth yn y DU a thramor tan y 1970au.
Ni all y brechlyn MVA achosi brech M na’r frech wen na’u lledaenu.
Gan fod brech M yn cael ei achosi gan feirws fel y frech wen, gall brechlynnau i amddiffyn rhag y frech wen helpu i atal neu leihau’r risg o salwch difrifol o haint brech M.
Ble mae cael fy mrechiad MVA?
Mae’r brechlyn MVA yn cael ei gynnig i’r rhai sy’n gymwys drwy wasanaethau iechyd rhywiol arbenigol.
Mae’r brechlyn ar gael yn y clinigau canlynol yng Nghymru, fesul Bwrdd Iechyd:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
- Ysbyty Brenhinol Gwent
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
- Wrecsam a Sir y Fflint: Ysbyty Maelor Wrecsam
- Conwy a Sir Ddinbych: Ysbyty Glan Clwyd
- Gwynedd ac Ynys Môn: Ysbyty Gwynedd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
- Adran Iechyd Rhywiol, Ysbyty Brenhinol Caerdydd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg:
- Ysbyty Dewi Sant, Pontypridd
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
- Clinig Penlan, Caerfyrddin
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:
- Ysbyty Castell-nedd Port Talbot
I weld y rhestr lawn o wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
A allaf dalu am frechlyn MVA yn breifat neu mewn fferyllfa?
Na, dim ond drwy’r GIG y mae’r brechiad MVA ar gael i’r rhai sy’n gymwys. Mae’n frechiad am ddim.
Sut mae’r brechlyn MVA yn cael ei roi?
Fel arfer bydd y brechlyn yn cael ei chwistrellu yn rhan uchaf eich braich.
Os oes gennych ofn nodwyddau, rhowch wybod i’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi. Bydd yn eich cefnogi chi.
Beth os oes gen i ofn nodwyddau?
Os oes gennych ofn nodwyddau, rhowch wybod i’r sawl sy’n rhoi’r brechlyn i chi. Bydd yn eich cefnogi chi.
Faint o ddosau sydd eu hangen?
Mae angen dau ddos ar y rhan fwyaf o bobl. Dylid rhoi’r ail ddos o leiaf 28 diwrnod ar ôl eich dos cyntaf.
Os ydych chi wedi cael eich brechu yn erbyn y frech wen gyda’r hen frechlyn brech wen (byw) o’r blaen, dim ond un dos o’r brechlyn MVA fydd ei angen arnoch chi.
Unwaith y bydd eich cwrs wedi’i gwblhau, nid oes angen brechlynnau pellach arnoch i’ch amddiffyn rhag brech M, oni bai bod gennych system imiwnedd wan iawn a’ch bod wedi cael eich dos olaf fwy na dwy flynedd yn ôl.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Gorffennaf 2025