Neidio i'r cynnwys

Brechlyn Td/IPV (atgyfnerthiad 3 mewn 1) - Am frechlyn TTd/IPV 3 mewn 1

Rhoddir y brechlyn Td/IPV, a elwir hefyd yn frechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau, i hybu gwarchodaeth rhag 3 afiechyd ar wahan: tetanws, difftheria a pholio.

Pigiad sengl yw hwn fel rheol a roddir yng nghyhyr rhan uchaf y fraich. Enw brand y brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau sy’n cael ei roi yn y DU yw Revaxis.

Cymhwysedd ac apwyntiadau

Mae’r brechlyn atgyfnerthu 3-mewn-1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau ar gael am ddim gan y GIG i bob person ifanc yn eu harddegau fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio genedlaethol.

Mae’n cael ei roi fel mater o drefn ar yr un pryd â’r brechlyn MenACWY.

Clwyfiau sy’n beryglus i tetanus

Efallai y caiff pobl ifanc a phobl ifanc o dan 25 oed sy’n cael clwyf sy’n beryglus i tetanus gynnig dos o’r brechlyn 3 mewn 1.

Cysylltwch â’ch meddyg teulu neu ewch i’r adran anafiadau bach neu A&E agosaf os ydych chi’n pryderu am glwyf, yn enwedig os:

  • Mae’n glwyf dwfn
  • Mae baw neu rhywbeth yn y clwyf
  • Nid yw eich plentyn wedi cael y brechlyn tetanus yn llawn, neu os nad ydych chi’n siŵr

Bydd meddyg yn asesu’r clwyf a phenderfynu a oes angen triniaeth. Os nad yw’r brechlyn tetanus wedi’i roi’n llawn, efallai y caiff dos o frechlyn sy’n cynnwys tetanus ei roi.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y brechlyn 3 mewn 1, neu os ydych chi’n ansicr ynghylch pryd dylid ei roi, gallwch gysylltu â’ch meddygfa am gyngor.

Diogelwch ac effeithiolrwydd

Mae’r brechlyn atgyfnerthu 3 mewn 1 ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau yn frechlyn diogel iawn.

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o detanws, difftheria a pholio. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r clefydau hyn, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.  

I gael rhagor o wybodaeth am tetanws, difftheria a polio, ewch i wefan GIG 111 Cymru:

Neu dysgwch fwy am yr afiechydon ar ein tudalennau, lle mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu:

Sgîl-effeithiau y brechlyn

Fel gyda phob brechlyn, mae rhai pobl yn cael mân sgîl-effeithiau fel:

  • Chwyddo
  • Cochni
  • Safle’r pigiad fymryn yn ddolurus  

Weithiau gall lwmp bach, di-boen ddatblygu, ond fel rheol mae’n diflannu mewn ychydig wythnosau. Mae adweithiau eraill yn brin. Am fwy o wybodaeth am y sgîl-effeithiau cyffredin a phrin, ewch i wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).

Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card (safle allanol) neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 31ain Gorffennaf 2025