Neidio i'r cynnwys

Am CARIS - Patrymau anomaleddau

Sut mae CARIS yn defnyddio data?

Mae CARIS (Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid) yn chwarae rhan hanfodol wrth gydgasglu a dadansoddi data ar anomaleddau cynhenid. Mae’r data hyn yn cael eu defnyddio i wneud y canlynol:

Dosbarthu Anomaleddau

Mae CARIS yn trefnu anomaleddau cynhenid yn ôl y system sylfaenol o’r corff yr effeithir arni. Caiff y dosbarthiadau hyn eu cynnwys mewn adroddiadau ystadegau blynyddol.

Rhoi Cipolwg ar Ffactorau Risg

Mae data CARIS hefyd yn taflu goleuni ar ffactorau risg presennol neu bosibl ar gyfer anomaleddau cynhenid. Gellir categoreiddio’r rhain fel a ganlyn:

  • Ffactorau yn ymwneud â’r rhieni a oedd eisoes yn bodoli, gan gynnwys oedran y fam, cyflyrau meddygol sydd gan y fam, statws economaidd-gymdeithasol a ffactorau genetig.
  • Profiadau’r ffetws yn ystod y beichiogrwydd, gan gynnwys ffactorau ffordd o fyw, cysylltiad â chyffuriau, heintiau a chysylltiad â ffactorau amgylcheddol

Ystadegau Allweddol

Mae cyfraddau cyffredinrwydd llawn i’w gweld yn ein Hadroddiad Blynyddol. Fodd bynnag, yn gyffredinol gellir nodi’r canlynol am achosion a adroddir i CARIS:

  • Mae gan tua 60% o achosion un anomaledd
  • Mae gan tua 11.6% o achosion anomaledd cromosomaidd

Patrymau Anomaleddau

Gall anomaleddau cynhenid fod yn broblem unigol neu’n batrwm cymhleth sy’n effeithio ar systemau corff lluosog. Gall ymchwilwyr weithiau nodi achosion posibl trwy ddadansoddi’r patrymau hyn ochr yn ochr â defnyddio eu dealltwriaeth gadarn o embryoleg.

Canlyniadau Goroesi

Mae canlyniadau goroesi yn amrywio yn ôl patrwm anomaleddau cynhenid. Yn ôl y disgwyl, mae cyfraddau goroesi ar eu huchaf ymhlith babanod ag anomaleddau unigol. Wrth i nifer a chymhlethdod yr anomaleddau gynyddu, mae cyfraddau goroesi yn lleihau. Mae goroesiad gwaeth yn gysylltiedig â chyfraddau uwch o golledion naturiol a therfynu beichiogrwydd ar ôl canfod anomaleddau cyn geni.

Mae’r data hyn yn cefnogi ymchwil i achosion anomaleddau, er mwyn arwain mesurau ataliol ac ymyriadau cynnar. Yn ogystal, mae data yn llywio polisïau iechyd, dyrannu adnoddau, ac arferion clinigol, sydd yn y pendraw yn gwella ansawdd gofal ar gyfer unigolion a theuluoedd yr effeithir arnynt. Mae’r mewnwelediadau a geir o ddata’r gofrestr yn hanfodol ar gyfer ysgogi astudiaethau epidemiolegol a meithrin cydweithrediadau byd-eang sydd â’r nod o leihau baich anomaleddau cynhenid.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Ebrill 2026