Am CARIS - Defnyddio data CARIS
Defnyddir data CARIS ar gyfer:
Rhoi adborth i glinigwyr ar gyfer gwybodaeth, archwiliad ac ymchwil
A thrwy hynny gall clinigwyr gael darlun clir o gyffredinrwydd cyffredinol anomaleddau cynhenid yng Nghymru ac o fewn ardal y bwrdd iechyd lleol. Gall yr wybodaeth nodi meysydd ar gyfer ymchwil neu ymchwiliad i nodi unrhyw ffactorau risg o safbwynt iechyd mamau, genetig neu amgylcheddol.
Cyhoeddiadau blynyddol gan CARIS
Mae CARIS yn creu adroddiad blynyddol sy’n dadansoddi digwyddedd anomaleddau geni cynhenid yng Nghymru a’u cyffredinrwydd. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei lledaenu a’i chyflwyno i ddarparwyr gofal iechyd mamau yn y gymuned, canolfannau arbenigedd cyn geni rhanbarthol ac i ddarparwyr hyfforddiant i amlygu meysydd ffocws ym maes gofal iechyd mamau.
Ymatebion i ymholiadau ad hoc gan glinigwyr a sefydliadau academaidd
Mae data CARIS yn aml yn darparu sylfaen ar gyfer prosiectau ymchwil clinigol o fewn amgylcheddau meddygol ac iechyd y cyhoedd a phrosiectau ymchwil clinigol.
Cynlluniau gwyliadwriaeth a monitro ffurfiol
Diben rhaglenni gwyliadwriaeth iechyd yw diogelu iechyd mamau beichiog a phlant ledled Cymru. Rydym yn coladu gwybodaeth iechyd i ddiogelu iechyd y cyhoedd ac yn arwain gwelliannau neu newidiadau i wasanaethau gofal iechyd mamau ledled Cymru.
Cydweithrediad Rhyngwladol
Mae EUROCAT yn darparu swyddogaethau gwyliadwriaeth ac yn galluogi cymharu cyfraddau yn Ewrop a’r byd ehangach.
EUROCAT
Rhwydwaith Ewropeaidd o anomaleddau cynhenid yw EUROCAT a ddechreuodd ym 1979. Daeth CARIS yn aelod ym 1999. Trosglwyddir data i EUROCAT yn flynyddol. Mae’n darparu meddalwedd ar gyfer gwyliadwriaeth o anomaleddau ac ar gyfer tueddiadau hirdymor. Yna caiff y canlyniadau hyn eu bwydo’n ôl i’r gofrestr.
Gellir cymharu data Cymru â rhanbarthau a gwledydd eraill yn Ewrop drwy gysylltu â’r tablau cyffredinrwydd ar wefan EUROCAT.
Mae rhagor o fanylion am EUROCAT a’r astudiaethau y mae’n eu cefnogi ar gael yn http://www.eurocat-net.eu/
ICBDSR
Sefydlwyd ICBDSR (International Clearinghouse for Birth Defects Surveillance and Research) ym 1974 ac ymunodd CARIS fel aelod yn 2005. Fel yn achos EUROCAT, trosglwyddir data i ICBDSR yn flynyddol.
Gellir cymharu data Cymru â gwledydd eraill y byd drwy lawrlwytho’r adroddiad blynyddol diweddaraf o wefan International Clearinghouse for Birth Defects Surveillance and Research.
Cenhadaeth ICBDSR yw cynnal ymchwil byd-eang ar namau geni a gofnodwyd ledled y byd gyda’r nod o nodi’r achosion posibl a diffinio mesurau ataliol a lleihau digwyddedd ledled y byd.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Ebrill 2026