Adran 5 – Beth sy’n digwydd os oes gennyf i, neu dad y babi, hanes teuluol neu’n cario cyflwr cromosomaidd neu enetig neu os yw’r naill neu’r llall ohonom wedi cael beichiogrwydd yn y gorffennol sydd â chyflwr cromosomaidd neu enetig?
Bydd hyn yn dibynnu ar y math o newid cromosomaidd neu enetig yr ydych chi neu dad y babi yn ei gario. Gallwn:
- gynnig atgyfeiriad i chi neu dad y babi i eneteg feddygol i drafod eich opsiynau
- gynnig prawf gwaed i bartner yr unigolyn sy’n cario newid cromosomaidd i brofi a oes siawns bod gan eich babi’r newid cromosomaidd, neu
- gynnig prawf samplu filws corionig (CVS) neu amniosentesis i chi i weld a oes gan eich babi’r newid cromosomaidd.
Os byddwn yn cynnig prawf CVS neu amniosentesis i chi, dylech fod yn ymwybodol y gall y ddau brawf hyn achosi camesgoriad.
Mae cael CVS neu amniosentesis yn creu risg ychwanegol o gamesgoriad sy’n debygol o fod yn is na 0.5% (tua 1 mewn 200) o feichiogrwydd. Mae’r risg ychwanegol o gamesgoriad ar ôl CVS neu amniosentesis mewn beichiogrwydd gyda gefeilliaid tua 1% (1 mewn 100) o feichiogrwydd.