Neidio i'r cynnwys

Adnoddau brechlyn ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol - Canllawiau a gwybodaeth pellach

Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru

Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG) yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar ddefnyddio, rheoli a rhagnodi meddyginiaethau yng Nghymru. Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn cefnogi AWMSG a’i is-grwpiau. Rôl yr AWMSG yw:

  • Datblygu cyngor amserol, annibynnol ac awdurdodol ar feddyginiaethau newydd.
  • Cynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygiadau ym maes gofal iechyd yn y dyfodol.
  • Helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth rhagnodi meddyginiaethau ar gyfer Cymru.

Gweithio mewn partneriaeth

Mae optimeiddio a diogelwch meddyginiaethau yn cefnogi’r defnydd gorau o feddyginiaethau i helpu cleifion yng Nghymru i fod yn iachach ac yn fwy gwybodus drwy alluogi dealltwriaeth o ddata rhagnodi, diogelwch meddyginiaethau a thocsicoleg i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau. Maent yn defnyddio’r dystiolaeth a’r data diweddaraf i arwain arferion gorau, gwella canlyniadau cleifion a lleihau niwed.

Cod Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain

Nod Cod Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) (Saesneg yn unig) yw sicrhau bod hyrwyddo meddyginiaethau presgripsiwn yn cael ei gynnal mewn modd cyfrifol, moesegol a phroffesiynol. Sefydlwyd yr Awdurdod Cod Ymarfer Meddyginiaethau Presgripsiwn (PMCPA) (Saesneg yn unig) i weithredu’r Cod Ymarfer ar gyfer y Diwydiant Fferyllol yn annibynnol ar y Gymdeithas ei hun.

System iechyd plant

Ffurflen cofnodi imiwneiddio heb ei drefnu

Rhaglen frechu cyn-ysgol

Pecyn Adnoddau Imiwneiddio Cyn-ysgol

Brechiadau oedran ysgol a rhaglenni dal i fyny

Mae’r adran hon yn cynnwys dolenni i wybodaeth ac adnoddau ar gyfer pob rhaglen imiwneiddio i bobl ifanc a/neu raglenni imiwneiddio i bobl oedran ysgol. 

Mae gwybodaeth I’r cyhoedd am bob imiwneiddiad oedran ysgol ar gael yn dudalen brechiadau i blant 5-16 oed.

Brechiadau i bobl ifanc yn eu harddegau 2025-26 

Mae’r set sleidiau brechu i bobl ifanc yn eu harddegau yn dempled i gefnogi sesiynau cyflwyno gwybodaeth frechu lleol i blant a phobl ifanc. 

Llythyrau polisi

Mae polisi imiwneiddio Cymru i’w weld ar bob un o’r tudalennau brechlyn ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy’r dolenni uchod neu ar dudalen polisi SharePoint VPDP (Saesneg yn unig).

Canllawiau brechu mewn ysgolion

Brechlyn Proffylacsis ar ol dod i Gysylltiad â’r Gynddaredd

Adnoddau imiwneiddio eraill

Adnoddau brechu mewn ieithoedd lleiafriol

I wneud cais am gyfieithiad o adnoddau brechu presennol VPDP i ieithoedd lleiafrifol, cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen gais cyfieithu i ieithoedd lleiafrifol.

Fel arfer byddwn yn cysylltu â chi cyn pen 2 wythnos gyda phenderfyniad.

Ar gyfer pob ymholiad arall, gan gynnwys ceisiadau am gymorth gyda gwaith ymgysylltu, e-bostiwch [email protected].

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 10fed Ebrill 2026