Neidio i'r cynnwys

Adnoddau brechlyn ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol - Canllawiau a gwybodaeth pellach

Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru

Mae Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru (AWMSG) yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar ddefnyddio, rheoli a rhagnodi meddyginiaethau yng Nghymru. Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn cefnogi AWMSG a’i is-grwpiau. Rôl yr AWMSG yw

  • Datblygu cyngor amserol, annibynnol ac awdurdodol ar feddyginiaethau newydd.
  • Cynghori Llywodraeth Cymru ar ddatblygiadau ym maes gofal iechyd yn y dyfodol.
  • Helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth rhagnodi meddyginiaethau ar gyfer Cymru.

Gweithio mewn partneriaeth

Cod Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain

Nod Cod Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain yw sicrhau bod hyrwyddo meddyginiaethau presgripsiwn yn cael ei gynnal mewn modd cyfrifol, moesegol a phroffesiynol. Sefydlwyd yr Awdurdod Cod Ymarfer Meddyginiaethau Presgripsiwn (PMCPA) i weithredu’r Cod Ymarfer ar gyfer y Diwydiant Fferyllol yn annibynnol ar y Gymdeithas ei hun.

System iechyd plant

Yng Nghymru, mae byrddau iechyd yn defnyddio’r cymhwysiad System Integredig Plant a Phobl Ifanc (CYPrIS) (a ddatblygwyd gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru) i gadw cofnodion wedi’u diweddaru ar gyfer y plant y maent yn darparu gofal iddynt.

Mae’r cymhwysiad CYPrIS yn cefnogi’r gwaith cyffredinol o reoli iechyd plant drwy ddarparu data a gofynion adrodd statudol i GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae CYPrIS yn darparu swyddogaeth ar gyfer y rhaglen genedlaethol Imiwneiddio Plant. Mae’n chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o alw, ailalw a chofnodi imiwneiddio plant. Pryd bynnag y rhoddir imiwneiddio mewn practis cyffredinol, yn yr ysgol, gartref neu mewn ysbyty, i unrhyw blentyn hyd at 18 oed; rhaid dychwelyd ffurflen imiwneiddio wedi’i drefnu neu heb ei drefnu i’r Swyddfa Iechyd Plant Leol. Mae hyn yn bwysig, gan ei fod yn sicrhau bod cofnodion y System Iechyd Plant yn gyfredol.

Mae gan bob bwrdd iechyd adran iechyd plant. Cysylltwch â’ch bwrdd iechyd lleol a gofynnwch am gael siarad â rhywun yn yr adran iechyd plant.

Rhaglen frechu cyn-ysgol

Pecyn Adnoddau Imiwneiddio Cyn-ysgol

Rhaglen frechu ysgolion

Mae’r adran hon yn cynnwys dolenni i wybodaeth ac adnoddau ar gyfer yr holl imiwneiddio yn ystod yr arddegau a/neu raglenni imiwneiddio mewn ysgolion. 

Mae gwybodaeth I’r cyhoedd am bob imiwneiddiad oedran ysgol ar gael yn dudalen brechiadau i blant 5-16 oed.

Llythyrau polisi

Mae polisi imiwneiddio Cymru i’w weld ar bob un o’r tudalennau brechlyn ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol drwy’r dolenni uchod neu ar dudalen polisi SharePoint VPDP

Canllawiau brechu mewn ysgolion

Brechlyn Proffylacsis ar ol dod i Gysylltiad â’r Gynddaredd

Adnoddau imiwneiddio eraill

Adnoddau brechu mewn ieithoedd lleiafriol

I wneud cais am gyfieithiad o adnoddau brechu presennol VPDP i ieithoedd lleiafrifol, cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen hon.

Fel arfer byddwn yn cysylltu â chi cyn pen 2 wythnos. Ar gyfer pob ymholiad arall, gan gynnwys ceisiadau am gymorth gyda gwaith ymgysylltu, e-bostiwch [email protected].

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17eg Mehefin 2025