Neidio i'r cynnwys

Adnoddau addysgol ac astudiaethau achos – anadlyddion

Ymunwch â gwefan Greener Practice (Saesneg yn unig) Mae gwefan Greener Practice yn cynnal llyfrgell o brosiectau, llyfrgell adnoddau, gweminarau a phecyn cymorth asthma.
Darllenwch Flwyddlyfr Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru 2022 – Astudiaethau Achos am Anadlyddion yn Benodol Astudiaethau achos sy’n ymwneud â chontractwyr gofal sylfaenol yn benodol, wedi’u cymryd o Flwyddlyfr Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru (2022), sy’n canolbwyntio ar ddefnyddio ac ar waredu anadlyddion.
Ewch i wefan Iechyd Gwyrdd Cymru Rhwydwaith ar-lein o weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ledled Cymru sy’n cydnabod bod yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol yn argyfwng iechyd.
Pecyn Cymorth Anadlol ICST (Saesneg yn unig) Pecyn Cymorth Anadlol y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Glinigol (ICST) a grëwyd i gefnogi oedolion sy’n byw gydag asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD), ynghyd â rhieni plant sy’n byw gydag asthma. 
Gwyliwch y recordiad o ‘Learning at Lunch: Canllawiau Rheoli a Phresgripsiwn Asthma Oedolion Cymru Gyfan (Saesneg yn unig) Recordiad o sesiwn Dr Katie Pink (Hydref 2024) o’r gyfres o weminarau ’Learning at Lunch’ sy’n cael ei gynnal gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC).  
Darllenwch Lwybrau a Chanllawiau – Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Cyflyrau Anadlol Amrywiaeth o lwybrau anadlol a chanllawiau. 
Gwyliwch y recordiad Mynd yn Wyrdd: Diweddariad ar anadlyddion yng Nghymru Recordiad o Sian Evans, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chadeirydd y grŵp Gorchwyl a Gorffen Datgarboneiddio Anadlyddion (Mehefin 2025) o’r gyfres weminarau ehangach ‘Respiratory Matters’.
Ewch i wefan Sustainable Respiratory Care – Centre for Sustainable Healthcare (Saesneg yn unig) Gwefan y Centre for Sustainable Healthcare sy’n cynnal rhwydwaith cynaliadwyedd gofal anadlol, llyfrgell adnoddau yn ogystal â chwrs sylfaen mewn gofal anadlol cynaliadwy. 
Ymunwch â’r Rhwydwaith Cymunedol Climate Smart – Y Tŷ Dysgu Rhwydwaith ar-lein a gynhelir gan Gwella Addysg Iechyd Cymru (AaGIC) ar y platfform ‘Tŷ Dysgu’. Y nod yw helpu i ymgorffori meddwl yn yr hinsawdd yn ymarfer gofal iechyd a’n gweithleoedd, i ddarparu cymorth i aelodau a dysgwyr, ac i rannu, cyfeirio a hyrwyddo trafodaethau, adnoddau a chyfleoedd hyfforddi i bawb.

Nodwch – rhaid i chi gofrestru gyda’r ‘Tŷ Dysgu’ yn gyntaf i gael mynediad i’r adnodd hwn. Gallwch gofrestru gyda’r ‘Tŷ Dysgu’ yma.