Neidio i'r cynnwys

Cyfarfod Bwrdd 28 Mawrth 2024

Gwybodaeth am y cyfarfod

Rhoddir rhybudd trwy hyn y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei gynnal ddydd Iau, 28 Mawrth 2024 am 11yb.  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn cynnal cymaint o’i fusnes â phosibl mewn sesiynau y mae croeso i aelodau’r cyhoedd eu mynychu a’u harsylwi fel rheol.  Fodd bynnag, yng ngoleuni’r cyngor a’r arweiniad cyfredol mewn perthynas â Coronafeirws (COVID-19) penderfynom ym mis Mawrth 2020 er lles gorau diogelu’r cyhoedd, ein staff ac aelodau’r Bwrdd, na fyddem bellach yn ymgynnull mewn grwpiau er mwyn cynnal cyfarfodydd. Ers hynny, rydym wedi bod yn cynnal cyfarfodydd Bwrdd rhithwir, ac nid ydym wedi gallu eu ffrydio’n fyw.  

Rydym yn falch o gynghori ein bod yn darlledu ein cyfarfod Bwrdd roi’r cyfle i unrhyw un sydd â mynediad i’r rhyngrwyd arsylwi mewn amser real. Mae’r ddolen i’r cyfarfod wedi’i chynnwys isod a bydd hefyd yn cael ei rhannu ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:

 

Fel mynychwyr byddwch yn gallu arsylwi ar y cyfarfod drwy Microsoft Teams – bwrdd gwaith (Windows neu Mac), ar y we, neu declyn symudol. Os nad oes gennych Microsoft Teams, gallwch hefyd ddefnyddio porwr (Chrome, Firefox neu Edge). Noder nid yw Safari yn gweithio ar hyn o bryd.

 

Gwylio


Gallwch weld recordiad o gyfarfod 28 Mawrth 2024 yma. Yn Saesneg yn unig mae’r fideo hwn ar gael.

 

Os hoffech fynychu cyfarfod Bwrdd yn bersonol, cysylltwch â Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Os oes gennych unrhyw adborth ar y cyfarfod hwn, neu unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r Bwrdd, anfonwch e-bost:  Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Recordiad o'r cyfarfod

Yn Saesneg yn unig mae'r fideo hwn ar gael

Papurau'r Bwrdd