Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Ysmygu yng Nghymru (2020)

Manylion:

Awduron: Tîm Dadansoddol

Cyhoeddwyd ar: 5ed Ionawr 2021

Diweddariad nesaf: I’w gyhoeddi

Cysylltwch am ymholiadau neu adborth 

Mae smygu yn peri pryder mawr o ran iechyd y cyhoedd ac mae ymysg y prif ffactorau risg ar gyfer blynyddoedd bywyd wedi eu haddasu gan anabledd (DALY) yng Nghymru.

Cyflwyniad

Mae Ysmygu yng Nghymru yn broffil rhyngweithiol sydd yn cynnwys gwybodaeth fanwl am ymddygiad, canlyniadau a rhoi’r gorau i smygu yn ôl bwrdd iechyd, awdurdod lleol a phumed amddifadedd. Mae tab trosolwg wedi ei gynnwys hefyd yn cynnwys gwybodaeth lefel uchel a map tystiolaeth, sy’n rhoi mynediad strwythuredig i ffynonellau tystiolaeth ar destunau rhoi’r gorau i smygu, ataliaeth a dadnormaleiddio.

Mae’r proffil wedi cael ei greu i gefnogi datblygiad cynlluniau i gyflawni’r amcanion a nodir yng Nghynllun Tymor Canolig Integredig Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Archwiliwch y data ymhellach

Cyflwynir gwybodaeth ar draws cyfres o dabiau i’ch galluogi i fynd i’r ardal sydd o ddiddordeb i chi:

  • Trosolwg – yn cynnwys dangosyddion yn dangos cymariaethau mynychder smygu rhyngwladol, canlyniadau iechyd y gellir eu priodoli i smygu a chost tybaco
  • Ymddygiad – yn cynnwys dangosyddion smygu ac e-sigaréts ymysg oedolion a’r glasoed wedi eu dadansoddi yn ôl daearyddiaeth, oed a rhyw.
  • Canlyniadau – yn cynnwys dadansoddiadau awdurdod lleol, bwrdd iechyd a chlefydau ar gyfer:
    • Marwolaethau y gellir eu priodoli i smygu
    • Derbyniadau y gellir eu priodoli i smygu
  • Rhoi’r gorau iddi – yn cynnwys dangosyddion bwriad i roi’r gorau iddi yn ogystal â gwybodaeth rhoi’r gorau i smygu am smygwyr sy’n cael eu trin a’r rheiny sydd wedi rhoi’r gorau iddi wedi eu dilysu o ran carbon monocsid.
  • Ffynonellau data – yn cynnwys gwybodaeth dechnegol am y ffynonellau data allweddol a ddefnyddir yn y proffil.
  • Tystiolaeth – mae’r map yn archwilio tystiolaeth lefel uchel yn ymwneud ag ataliaeth, rhoi’r gorau iddi a dadnormaleiddio.

Gellir dod o hyd i ffeithlun ystadegau cyffredinol yma

Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y proffil lles meddwl, cysylltwch â ni trwy anfon ebost.

Tabeli data

Mynediad at y data sy’n gysylltiedig â’r adroddiad blynyddol hwn