Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Tân teiar Fforestfach (2018)

Manylion:

Awduron: Tîm Dadansoddol

Cyhoeddwyd ar: 9fed Ionawr 2018

Diweddariad nesaf: I’w gyhoeddi

Cysylltwch am ymholiadau neu adborth 

Dechreuodd tân Fforestfach ar 16 Mehefin 2011, ac effeithiodd mwg du, trwchus o’r tân teiars ar lawer o’r ardaloedd preswyl cyfagos. Archwiliodd yr adroddiad a oedd trigolion lleol wedi cysylltu â’u meddygon teulu am broblemau anadlu neu’r galon yn amlach yn ystod ac ar ôl y tân nag y byddent wedi’i wneud fel arall.

Negeseuon allweddol

Defnyddiodd y dadansoddiad hwn dechnegau cysylltu data a System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) newydd. Cafwyd mynediad at ddata o fewn cronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) ym Mhrifysgol Abertawe. Mae cronfa ddata SAIL yn caniatáu olrhain cleifion yn ddienw trwy amrywiol systemau gofal iechyd gan ddefnyddio cysylltiadau data sy’n diogelu preifatrwydd. Mae’r canlyniadau’n cefnogi’r Pwyllgor ar Effeithiau Meddygol Llygredd Aer, y mae ei ganllawiau’n awgrymu bod y crynodiadau llygredd a ganfuwyd adeg y tân yn debygol o gael effaith gyfyngedig ar y boblogaeth gyffredinol, ond gallai’r rhai â chyflyrau cronig fod yn fwy agored i niwed.

Cysylltu 

Rydym bob amser yn awyddus i wella’r cynnyrch yr ydym yn ei gynhyrchu er mwyn sicrhau eu bod yn gyfeillgar i ddefnyddwyr. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar y proffil lles meddwl, cysylltwch â ni trwy anfon ebost.

Tabeli data

Mynediad at y data sy’n gysylltiedig â’r adroddiad blynyddol hwn