Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Astudiaeth Achos – Cymhwyso’r Model Mynydd Iâ yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Hwyluswyd gweithdy y Model Mynydd Iâ yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Hydref 2025. Mynychwyd Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru gan tua 400 o gynrychiolwyr, gyda mynychwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat, academaidd a’r trydydd sector, a’r thema oedd “gweithredu heddiw, er mwyn cenedl iachach yfory”.

Cynhaliodd yr Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd a thîm Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru weithdy lle cafodd 50 o gynrychiolwyr gyfle i archwilio ac ennill profiad o ddefnyddio offer meddwl systemau i archwilio materion ‘drygionus’.

Dyluniwyd y gweithdy, Edrych o dan wyneb problemau drygionus: gweithredu nawr er mwyn yfory iachach, i alluogi’r mynychwyr i edrych ar achosion sylfaenol problemau ‘drygionus’, archwilio i ba raddau y gallent hwy neu eu sefydliad gymryd camau i fynd i’r afael â’r problemau hyn, a myfyrio ar sut y gallent gymhwyso’r dulliau hyn yn ymarferol.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Astudiaeth Achos - Cymhwyso'r Model Mynydd Iâ yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru

Word doc, 1MB

Llawrlwytho Word doc - Astudiaeth Achos - Cymhwyso'r Model Mynydd Iâ yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru (1 MB)

Llawrlwytho Word doc

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig