Cynllun ar gyfer Brigiadau o Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy yng Nghymru
Mae’r Cynllun ar gyfer Brigiadau o Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy yng Nghymru wedi bod yn weithredol ar ffurf cynllun cyffredinol unigol ers dros 10 mlynedd. Fe’i defnyddiwyd fel y templed ar gyfer rheoli pob brigiad o achosion o glefyd trosglwyddadwy â goblygiadau o ran iechyd y cyhoedd ledled Cymru a chafodd ei adolygu’n rheolaidd. Nod yr adolygiad diweddaraf hwn oedd ceisio cydgrynhoi’r cynllun ‘pob clefyd’ unigol hwn a sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd o’r ymateb diweddar i bandemig COVID-19, adolygiadau allanol o’n system diogelu iechyd a newidiadau i ddeddfwriaeth wedi cael eu hystyried yn briodol a’u hadlewyrchu.
Dylid defnyddio Cynllun ar gyfer Brigiad o Achosion o Glefydau Trosglwyddadwy Cymru fel templed ar gyfer rheoli pob achos o glefydau trosglwyddadwy sydd â goblygiadau i iechyd y cyhoedd ledled Cymru.