Neidio i'r cynnwys

Ein dull o ran anghydraddoldebau iechyd – Fframwaith

Mae’r fframwaith hwn yn darparu dulliau seiliedig ar dystiolaeth i gefnogi gwaith ledled Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Gellir defnyddio’r fframwaith hwn yn ystod gwneud penderfyniadau, prosesau cynllunio, a chynnal monitro a gwerthuso. Gellir ei ddefnyddio ochr yn ochr â rhaglenni ac offer eraill megis asesu effaith. Bydd elfennau o’r fframwaith hwn yn gyfarwydd ac yn naturiol i rhai staff, ond mae’n bwysig fel sefydliad ein bod yn mabwysiadu’r dull hwn yn gyson ar draws pob agwedd o’n gwaith a’n gwasanaethau. Gobeithiwn y bydd y fframwaith hwn yn annog meddwl systematig a beirniadol o gwmpas y mater o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd.

Tegwch iechyd yw ein gweledigaeth, ac rydym yn ei ddiffinio fel sefyllfa pan nad oes anghydraddoldebau iechyd y gellir eu hosgoi rhwng grwpiau o bobl. Mae’r rhain yn systemig, wedi’u cynhyrchu’n gymdeithasol ac yn annheg, gan ddeillio o adnoddau yn cael eu dosbarthu’n annheg o fewn ein cymdeithas. Bydd tegwch iechyd yn bodoli pan all pawb gael yr iechyd a’r llesiant gorau sy’n bosibl iddyn nhw.