Neidio i'r cynnwys

Dull Cymhwysol Meddwl trwy Systemau – Canllaw i’r Offer a’r Dulliau

Mae hwn yn ganllaw ymarferol ar gyfer ystod o offer a dulliau systemau sy’n ategu’r gweithgareddau a ddisgrifir yn y canllaw Dull Cymhwysol Meddwl trwy Systemau. Nid yw’r offer sydd wedi’u cynnwys yn y canllaw hwn yn rhestr gynhwysfawr o bell ffordd, ond yn hytrach yn gyflwyniad i rai o’r offer meddwl trwy systemau a ddefnyddir amlaf. Bydd y canllaw hefyd yn cyfeirio’r dysgwyr at adnoddau eraill sydd â sicrwydd ansawdd.

Un o nodau craidd y rhaglen hon yw cymhwyso ac integreiddio’ch gwaith dysgu yng ngwaith eich Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC). Pan fyddwch chi’n defnyddio’r offer a’r dulliau hyn gyda’ch BGC a’ch timau cymorth, mae’n debygol y bydd angen ichi eu teilwra at eich cyd-destun lleol, dod ag arbenigwyr pwnc i mewn ac ymwneud â rhanddeiliaid eraill gan gynnwys cymunedau lleol.

Gall yr offer a’r dulliau hyn fod yn fuddiol hefyd wrth ystyried gwerthuso a mesur newid mewn systemau.