Neidio i'r cynnwys

Brechlyn 6 mewn 1 i fabanod a phlant

Mae’r adnodd yma’n dweud wrthych chi am y brechiad DTaP/IPV/Hib/ HepB. Mae’r brechiad yma’n cael ei adnabod hefyd fel y brechiad 6-mewn-1, gan ei fod yn amddiffyn rhag chwe afiechyd − difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio, Haemophilus influenzae math b (Hib) a hepatitis B (HepB).