Brechiad BCG i fabanod a phlant
Mae’r daflen yma am y brechiad BCG sy’n cael ei gynnig i warchod eich plentyn rhag twbercwlosis.
Mae brechiad BCG yn cynnwys ffurf wedi’i gwanio ar y bacteria (germau) sy’n achosi twbercwlosis (TB). Nid yw’r brechiad yn achosi TB ond mae’n helpu eich plentyn i ddatblygu gwarchodaeth (imiwnedd) rhagddo os daw ef neu hi i gysylltiad ag o byth. Mae brechiad BCG yn hynod effeithiol am warchod babanod a phlant ifanc rhag y mathau prinnach a mwy difrifol o TB, fel TB llid yr ymennydd (chwydd yn y gorchuddion gwarchodol o amgylch yr ymennydd).
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth, ewch i wefan GIG 111 Cymru (safle allanol), siaradwch â’ch meddyg neu nyrs neu ffoniwch GIG 111 Cymru.
Os nad yw 111 ar gael yn eich ardal chi, ffoniwch 0845 46 47. Mae galwadau o linellau tir a ffonau symudol yn costio 2c y funud (a ffi arferol eich darparwr ffôn).