Neidio i'r cynnwys

Amddiffyn rhag tetanws, difftheria a polio

Mae’r daflen hon ar gyfer pobl ifanc a’u rhieni neu eu gwarcheidwaid. Mae’n esbonio’r brechiad sy’n cael ei gynnig pan maent tua 13 i 14 oed (blwyddyn ysgol 9) i amddiffyn rhag tetanws, difftheria a pholio. Weithiau gelwir y brechlyn hwn yn Td/IPV neu’n bigiad atgyfnerthu 3-mewn-1 i bobl ifanc yn eu harddegau.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth, ewch i wefan GIG 111 Cymru (safle allanol), siaradwch â’ch meddyg neu nyrs, neu gysylltu â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.