Brechlynnau sy'n cynnwys y frech goch, clwy'r pennau, rwbela a brech yr ieir (MMRV ac MMR)
-
Ynglŷn â'r brechlynnau MMRV ac MMR
Newidiadau i’r amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yn 2026
I’r rhan fwyaf o blant, mae brech yr ieir yn salwch ysgafn sy’n gwella ar ei ben ei hun, ond i rai, gall fod yn ddifrifol iawn. Mae’r risg o salwch difrifol o ganlyniad i frech yr ieir yn llawer uwch nag yr oedd pobl yn arfer ei feddwl. Efallai y bydd angen trin rhai pobl yn yr ysbyty os cânt broblemau oherwydd yr haint.
Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), mae brech yr ieir yn arwain at dros 4 miliwn o arosiadau yn yr ysbyty. Mae hefyd yn achosi mwy na 4,000 o farwolaethau ledled y byd bob blwyddyn.
Ar 1 Ionawr 2026, cafodd brechlyn brech yr ieir ei ychwanegu at yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru. Nod y newid hwn yw atal salwch difrifol a helpu i achub bywydau. Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn rhoi cyngor i Lywodraeth y DU. Cafodd y penderfyniad ei wneud ar ôl cael cyngor gan JCVI. Mae’r argymhelliad yn seiliedig ar lwyddiant rhaglenni brechu brech yr ieir mewn gwledydd eraill.
Brechlyn cyfun yw brechlyn brech yr ieir, ac mae’n helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela, a farisela (brech yr ieir). ‘MMRV‘ yw enw’r brechlyn hwn.
Ar 1 Ionawr 2026, disodlodd MMRV y brechlyn MMR yn yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru. Mae’r brechlyn MMR yn dal i fod ar gael i rai pobl y mae ei angen arnynt. Mae hyn yn cynnwys plant hŷn ac oedolion nad ydynt wedi cael dau ddos ohono ac nad ydynt yn gymwys i gael y brechlyn MMRV.
Brechu yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag afiechydon difrifol.
Mae’r frech goch, clwy’r pennau, rwbela a’r frech goch (a elwir hefyd yn varicella) yn lledaenu’n hawdd iawn rhwng pobl nad ydynt wedi cael eu brechu. Mae’r afiechydon hyn yn ysgafn fel arfer, ond gallant achosi problemau iechyd difrifol weithiau.
Gwybodaeth:
Mae brechu’n bwysig.
Os nad ydych wedi cael brechlyn sy’n cynnwys MMR, mae’r clefydau hyn yn dal i fod yn fygythiad i’ch iechyd.
Mae’n bwysig brechu i atal yr afiechydon hyn rhag lledu.
Mae dau opsiwn sy’n cynnig amddiffyniad:
Y brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a varicella (MMRV), neu
Y brechlyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR)
Rhag pa glefydau y mae brechlynnau MMRV ac MMR yn helpu i amddiffyn?
Mae’r brechlyn MMRV yn helpu i amddiffyn rhag:
• Y frech goch • Clwy’r pennau • Rwbela • Varicella (brech yr ieir)
Mae’r brechlyn MMR yn helpu i amddiffyn rhag:
• Y frech goch • Clwy’r pennau • Rwbela
Cymhwysedd ar gyfer y brechlynnau
Brechlyn MMRV – y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a varicella (brech yr ieir)
Pryd y dylai fy mhlentyn gael y brechlyn MMRV?
Cynigir y brechlyn MMRV am ddim gan y GIG fel rhan o’r rhaglen frechu reolaidd i blant.
O 1 Ionawr 2026:
Cynigir y brechlyn MMRV i fabanod 12 mis oed neuiau ar 1 Ionawr 2026 fel rhan o’u brechiadau rheolaidd:
Cynigir y dos cyntaf i fabanod sy’n 12 mis oed.
Cynigir yr ail ddos i fabanod sy’n 18 mis oed. Mae’r ymweliad yn 18 mis oed yn apwyntiad brechu newydd.
Efallai y bydd rhai plant hŷn yn cael cynnig brechiad MMRV fel rhan o raglen dal i fyny ddethol ar gyfer y frech goch. Mae cymhwystra’n dibynnu ar eu hoedran, ac a ydynt wedi dal haint brech yr ieir neu wedi cael dau ddos o frech yr ieir (farisela) yn y gorffennol.
Os nad yw eich plentyn yn gymwys, ni fydd yn gallu cael y brechlyn MMRV fel rhan o amserlen imiwneiddio reolaidd i blant GIG Cymru.
Mae’r brechlyn MMRV wedi cael ei ddefnyddio am nifer o flynyddoedd mewn gwledydd eraill fel Awstralia, Canada a Seland Newydd. Mewn gwledydd eraill, mae rhoi’r brechlyn MMRV wedi arwain at ostyngiad mawr mewn achosion o frech yr ieir ymhlith plant.
Mae’n bwysig cael dau ddos o frechlyn sy’n cynnwys MMR i gael yr amddiffyniad gorau a hirbarhaus yn erbyn haint.
Siaradwch â’ch nyrs practis neu eich meddyg teulu os oes gennych gwestiynau.
Byddan nhw’n egluro pa frechlyn sydd ei angen a faint o ddosau y dylai eich plentyn eu cael.
I gael rhagor o wybodaeth am yr amserlen imiwneiddio yng Nghymru a phryd y cynigir brechiadau i’ch plentyn, ewch i:
Brechlyn MMR – y frech goch, clwy’r pennau a rwbela
Pwy all gael y brechlyn MMR?
O fis Ionawr 2026 ymlaen, ni fydd y brechlyn MMR bellach yn rhan o raglen frechu reolaidd i blant y GIG.
Fodd bynnag, mae’r brechlyn MMR yn dal i fod ar gael i blant hŷn ac oedolion nad ydynt wedi cael dau ddos o frechlyn sy’n cynnwys MMR ac nad ydynt yn gymwys i gael MMRV.
Os nad ydych chi wedi cael dau ddos o frechlyn sy’n cynnwys MMR, rydych chi mewn perygl o ddal y clefydau y mae’r brechlyn yn helpu i amddiffyn rhagddynt. Hyd yn oed os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi cael brechiadau sy’n cynnwys MMR o’r blaen ond nad ydych yn siŵr neu os nad oes gennych gofnod o hyn, mae’n ddiogel cael dosau pellach.
Gallwch ddal i fyny â dosau MMR a fethwyd yn unrhyw oed. Cysylltwch â’ch practis meddyg teulu cyn gynted â phosibl i ddal i fyny â brechiadau MMR a fethwyd.
Am ragor o wybodaeth am y brechlyn MMR gweler yr adran Ynglŷn â’r brechlynnau.
Sut byddaf yn gwybod pryd mae fy mhlentyn i fod i gael ei frechiadau rheolaidd?
Ar gyfer y rhan fwyaf o frechiadau rheolaidd, bydd eich bwrdd iechyd lleol yn anfon llythyr atoch pan fydd eich plentyn yn gymwys. Yna bydd eich plentyn yn cael gwahoddiad i gael ei frechlyn yn ei bractis meddygon teulu, neu leoliad brechu arall. Cyn yr apwyntiad: Rhowch wybod i’ch meddyg neu’r nyrs practis a yw’ch plentyn wedi cael unrhyw frechiadau eraill yn ddiweddar.
Mae GIG Cymru yn argymell brechu eich plentyn cyn gynted ag y caiff y brechiadau eu cynnig. Os ydych chi’n meddwl bod eich plentyn wedi methu’r gwahoddiad neu’r apwyntiad, cysylltwch â’ch practis meddygon teulu.
Sut ydw i’n darganfod statws brechu fy mhlentyn?
Mae manylion brechu ar gael yn Llyfr Coch eich plentyn.
Bydd gwefan eich Bwrdd Iechyd lleol hefyd yn cynnwys rhagor o fanylion ar sut i ddarganfod statws brechu eich plentyn a sut i archebu brechiad os oes angen.
Mae dolenni i dudalennau gwybodaeth MMR byrddau iechyd isod:
Fel arfer, rhoddir brechlynnau sy’n cynnwys MMR fel un pigiad i’r glun neu’r fraich uchaf. Mae’n bwysig cael dau ddos o frechlyn sy’n cynnwys MMR i gael yr amddiffyniad gorau posibl. Mae cael y ddau ddos yn rhoi amddiffyniad hirdymor rhag haint.
Ar ôl y dos cyntaf, mae system imiwnedd y corff yn dysgu adnabod y feirysau a dechrau meithrin amddiffyniad. Mae’r ail ddos yn rhoi hwb i’r amddiffyniad hwnnw, gan ei wneud yn llawer cryfach a pharhaol. Dyna pam mae cael dau ddos yn bwysig i’ch cadw chi a’r rhai rydych chi’n gofalu amdanyn nhw’n ddiogel.
Mae brechlynnau sy’n cynnwys MMR yn effeithiol iawn wrth amddiffyn pobl rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir. Er enghraifft, mae ffigurau’n dangos bod o leiaf 95% o bobl sy’n cael y ddau ddos wedi’u hamddiffyn rhag y frech goch, rwbela a brech yr ieir, a bod tua 88% wedi’u hamddiffyn rhag clwy’r pennau. Mae’r effeithiolrwydd yn cynyddu ar ôl yr ail ddos o’r brechlyn.
Os hoffech ddysgu rhagor am y brechlynnau hyn, gallwch ddarllen y taflenni i gleifion yn y dolenni isod.
Brechlyn MMRV
Mae MMRV wedi cael ei ddefnyddio ers blynyddoedd lawer mewn gwledydd eraill fel yr Unol Daleithiau, Awstralia, Canada a Seland Newydd. Mewn gwledydd eraill, gwelwyd gostyngiad yn nifer yr achosion o’r frech goch mewn plant yn sgil rhoi’r brechlyn MMRV iddynt.
Ers cyflwyno’r rhaglen brechu rhag brech yr ieir ym 1995, mae brechiadau rhag brech yr ieir yn yr Unol Daleithiau wedi lleihau achosion 97%.
Ers cyflwyno’r brechlyn MMR ym 1988, mae’r frech goch, clwy’r pennau a rwbela wedi dod yn anghyffredin yn y DU. Ond weithiau mae achosion yn digwydd, yn enwedig y frech goch, pan nad yw digon o bobl yn cael eu brechu.
Gall rwbela fod yn haint difrifol iawn i fabanod heb eu geni. Os cawsoch ddau ddos o’r brechlyn sy’n cynnwys MMR, byddwch wedi’ch amddiffyn yn ystod eich beichiogrwydd.
Os ydych chi’n bwriadu beichiogi, yn feichiog, neu newydd gael babi ac yn ansicr a ydych chi wedi cael dau ddos o’r brechlyn sy’n cynnwys MMR, mynnwch air â’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu.
Oherwydd mai brechlyn byw yw’r brechlyn MMR, ni argymhellir ei ddefnyddio pan fyddwch chi’n feichiog. Dylech osgoi beichiogi am fis ar ôl cael y brechiad MMR.
Os ydych chi’n feichiog ac nad ydych chi wedi cael yr holl frechlynnau MMR gofynnol, dylech chi gael y brechlyn yn fuan ar ôl i’ch babi gael ei eni.
Bwydo ar y fron
Ni fydd cael y brechlyn MMR pan fyddwch yn bwydo ar y fron yn eich niweidio chi na’ch baban. Fodd bynnag, os ydych chi’n bwydo ar y fron ac os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gallwch chi ofyn i’ch meddyg, eich nyrs neu’ch fferyllydd am gyngor cyn i chi gael y brechiad.
Os ydych chi’n teithio, neu newydd symud i’r DU
Os ydych wedi symud i fyw yn y DU, efallai y bydd angen dau ddos o frechlyn sy’n cynnwys MMR a brechiadau arferol eraill arnoch chi. Mae gwledydd gwahanol yn cynnig brechiadau gwahanol ac efallai nad yw pob un wedi defnyddio brechlyn cyfun sy’n cynnwys MMR.
Os ydych chi’n teithio i ardal lle gwyddys bod brigiadau o’r frech goch, clwy’r pennau neu rwbela wedi digwydd, dylech chi gael dau ddos o frechlyn sy’n cynnwys MMR cyn i chi deithio. Efallai y bydd modd brechu eich plentyn yn gynharach nag arfer os yw’n teithio i ardaloedd â risg uchel.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os nad ydych yn siŵr a ydych wedi cael eich brechiadau, trafodwch hyn gyda’ch meddyg teulu neu nyrs.
Os oes angen brechiadau arnoch ar gyfer gwaith
Os ydych chi’n gweithio ym maes gofal iechyd, mae’n bwysig cael eich amddiffyn rhag afiechydon fel y frech goch, clwy’r pennau a rwbela. Gall y clefydau hyn gael eu trosglwyddo i gleifion sy’n fwy tebygol o fynd yn ddifrifol wael. Efallai y bydd angen y brechlyn MMR ar weithwyr gofal iechyd i amddiffyn eu hunain ac i helpu i gadw eu cleifion yn ddiogel.
A oes rheswm pam na ddylid rhoi brechlynnau MMRV neu MMR i rywrai?
Ni ddylid rhoi brechlynnau sy’n cynnwys MMR (MMRV neu MMR) i unrhyw un sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i’r canlynol:
dos blaenorol o’r un brechlyn, neu
gynhwysyn yn y brechlyn.
Siaradwch â’r person sy’n rhoi’r brechlyn os ydych chi neu eich plentyn wedi cael adwaith alergaidd difrifol i’r brechlyn neu ei gynhwysion yn y gorffennol.
Ni ddylid rhoi brechlynnau sy’n cynnwys MMR i unrhyw un sydd:
yn feichiog
â system imiwnedd wan (yn imiwnoataliedig) oherwydd triniaeth neu afiechyd, neu
yn dioddef o salwch â thwymyn uchel.
Os ydych chi neu eich plentyn yn sâl a bod gennych dymheredd uchel (twymyn) dros 38.5 C, mae’n well aros hyd nes y byddwch chi neu eich plentyn wedi gwella cyn cael y brechlyn. Os na allwch fynd i’ch apwyntiad brechu, canslwch ef a gwnewch apwyntiad newydd cyn gynted â phosib. Nid yw annwyd neu fân anhwylder arall yn rheswm i ohirio’r brechlyn.
Cyn cael brechlyn sy’n cynnwys MMR, dylech ddweud wrth y meddyg teulu neu’r nyrs practis os ydych chi neu’ch plentyn:
erioed wedi cael ffitiau (a elwir hefyd yn trawiadau), neu os yw unrhyw un yn eich teulu wedi’u cael, gan gynnwys ffitiau a achosir gan dwymyn.
Dylech chi ddweud wrth y meddyg teulu neu’r nyrs practis os ydych chi’n feichiog.
Os ydw i’n sâl, a ddylwn i neu fy mhlentyn gael y brechlyn?
Mae’n well aros nes eich bod chi/eich plentyn yn well cyn cael y brechlyn, ond mae’n bwysig ei gael cyn gynted â phosibl. Os na allwch mynd i’r apwyntiad brechu, canslwch ac aildrefnwch yr apwyntiad.
Nid yw annwyd na salwch ysgafn arall yn rheswm i ohirio cael y brechlyn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, trafodwch hyn gyda’r unigolyn sy’n rhoi’r brechiad.
A oes gelatin moch yn y brechlynnau MMRV ac MMR?
Ni fydd rhai pobl yn derbyn gelatin moch oherwydd eu ffydd. Yng Nghymru, mae opsiynau ar gyfer brechlynnau MMRV ac MMR nad ydynt yn cynnwys gelatin moch.
Brechlyn MMRV
ProQuad® a Priorix-Tetra® yw enwau’r brechlynnau MMRV a gynigir yng Nghymru. Mae ProQuad® yn cynnwys gelatin moch. Os nad ydych chi eisiau i’ch plentyn gael ProQuad®, mae opsiwn arall, o’r enw Priorix-Tetra®, nad yw’n cynnwys gelatin moch.
Brechlyn MMR
I’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael y brechlyn MMRV, mae dau frechlyn MMR ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae MMRvaxPro® yn cynnwys gelatin moch, ac nid yw Priorix® yn cynnwys gelatin moch.
Os oes angen brechlyn arnoch chi neu’ch plentyn nad yw’n cynnwys gelatin moch, cysylltwch â’ch ymwelydd iechyd, eich nyrs practis, neu’ch practis meddygon teulu. Gallant eich helpu i ddod o hyd i’r opsiwn cywir.
Beth yw sgil-effeithiau brechlynnau sy’n cynnwys MMR?
Mae gan y brechlynnau sy’n cynnwys MMR (MMRV ac MMR) fathau gwanedig o feirysau byw. Mae pob meddyginiaeth a brechlyn wedi bodloni safonau diogelwch llym i’w defnyddio yn y DU ac maent yn ddiogel iawn. Fel gyda phob meddyginiaeth a brechlyn, caiff unrhyw adroddiadau o sgil-effeithiau eu monitro a’u hadolygu’n agos.
Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau, ond nid yw pawb yn eu cael. Mae’r rhan fwyaf o’r sgil-effeithiau yn ysgafn a byddant fel arfer yn gwella ar ôl diwrnod neu ddau. Mae sgil-effeithiau fel arfer yn llai cyffredin ar ôl yr ail ddos.
Mae’r sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
dolur, cochni a chwydd neu gleisio lle cafodd y pigiad ei roi
twymyn
brech, a
thymer flin.
Er mwyn gweld sut mae trin symptomau twymyn, gweler Beth ddylwn ei wneud os byddaf i neu fy mhlentyn yn teimlo’n sâl ar ôl y brechiad?
Gall y mathau gwanedig o feirysau yn y brechlynnau sy’n cynnwys MMR weithio ar adegau gwahanol. Mae sgil-effeithiau fel twymyn a brech yn fwy cyffredin ar ôl y dos cyntaf. Gall y rhain ddigwydd:
Tua 6 – 11 diwrnod ar ôl y brechlyn (o ganlyniad i’r rhan sy’n cynnwys y frech goch)
Tua 2 – 3 wythnos ar ôl y brechlyn (o ganlyniad i’r rhan sy’n cynnwys clwy’r pennau a rwbela)
Tua 3 – 4 wythnos ar ôl y brechlyn (o ganlyniad i’r rhan sy’n cynnwys brech yr ieir)
Gall brech fach brech yr ieir ymddangos yn agos at y man lle rhoddir y pigiad ar ôl y brechlyn MMRV. Gall plant fynd i’r ysgol neu i leoliad gofal plant o hyd ond, dylid gorchuddio unrhyw smotiau, er mwyn bod yn ddiogel.
Sgil-effeithiau anghyffredin iawn
Gall brech debyg i frech yr ieir ymledu dros gorff plentyn mewn achosion anghyffredin iawn. Os bydd hyn yn digwydd, dylai unrhyw un sydd â system imiwnedd wan sydd wedi dod i gysylltiad agos â’r plentyn geisio cyngor meddygol.
Gall ffitiau (trawiadau) ddigwydd pan fydd plentyn yn datblygu tymheredd uchel wedi’i achosi gan afiechyd plentyndod cyffredin, fel brech yr ieir. Ni fydd y rhain yn para’n hir iawn fel arfer ac ni fyddant yn achosi problemau iechyd hirdymor. Gall plant gael ffit fer wedi’i hachosi gan dwymyn ar ôl y dos cyntaf o’r brechlyn MMRV. Mae hyn yn anghyffredin ac yn digwydd mewn tua un o bob 1,000 o blant. Nid yw’r ffitiau hyn yn niweidiol fel arfer ond bydd angen rhoi sylw meddygol iddynt. I gymharu, bydd tua un o bob 43 o blant sy’n dal y frech goch yn cael ffit wedi’i hachosi gan dwymyn.
Adroddwyd am chwydd yn yr ymennydd (enseffalitis) ar ôl cael brechiad MMRV mewn achosion prin iawn (llai nag un plentyn mewn miliwn). Fodd bynnag, os bydd plentyn nad yw wedi cael ei frechu yn dal y frech goch neu frech yr ieir, bydd ei siawns o gael enseffalitis yn llawer uwch.
Ceisiwch gymorth meddygol ar unwaith os bydd eich plentyn yn profi un o’r symptomau canlynol:
Ffitiau (trawiadau)
Llewygu
Yn llai effro
Colli rheolaeth ar y corff, ynghyd â thwymyn a chur pen/pen tost
Rhowch wybod i’r staff fod eich plentyn wedi cael y brechlyn MMRV os byddwch yn ceisio cymorth meddygol.
Yn anghyffredin iawn, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl y brechiad, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o anghyffredin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.
Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.
I’r rhan fwyaf o bobl, mae manteision cael eu brechu yn llawer mwy na’r risgiau o fod heb amddiffyniad.
Dysgu rhagor am sgil-effeithiau
Mae’r holl sgil-effeithiau wedi’u cynnwys yn y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am y sgil-effeithiau, ewch i:
Os bydd gennych gwestiynau am sgil-effeithiau, gallwch ofyn i’r unigolyn a fydd yn rhoi’r brechlyn i chi.
Os bydd y symptomau’n gwaethygu neu os ydych chi’n pryderu, ymddiriedwch yn eich greddfau -ceisiwch gymorth meddygol ar unwaith. Ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich practis meddygon teulu. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Dylech roi gwybod ar-lein am sgil-effeithiau a amheuir brechlynnau a meddyginiaethau ar Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i 5yh).
Yn ystod ac ar ôl eich apwyntiad
Beth sy’n digwydd yn yr apwyntiad?
Bydd eich meddyg teulu neu nyrs yn esbonio am y brechiad ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Fel arfer, rhoddir y brechlyn fel pigiad i glun plant ifanc neu fraich uchaf plant hŷn ac oedolion.
Ysgrifennwch unrhyw gwestiynau sydd gennych a gofynnwch nhw i’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn yr apwyntiad brechu.
Dylech ganslo apwyntiad ymlaen llaw os na allwch chi ddod. Os byddwch yn colli’r apwyntiad neu’n gorfod gohirio’r brechiad, gwnewch apwyntiad newydd cyn gynted â phosibl.
Os ydych chi neu’ch plentyn wedi methu unrhyw frechiadau sy’n cynnwys MMR, mae’n bwysig dal i fyny cyn gynted â phosibl. Mynnwch air â’ch meddyg teulu neu’ch nyrs practis.
Beth ddylwn i ei wneud os bydda i neu fy mhlentyn yn teimlo’n sâl ar ôl y brechiad?
Os oes gennych chi neu’ch plentyn dwymyn ac rydych yn teimlo’n sâl ar ôl y brechiad, gallwch gymryd paracetamol. Dylech chi wneud y canlynol:
darllen y cyfarwyddiadau yn ofalus, a
chymryd y dos cywir ar gyfer eich oedran chi neu oedran eich plentyn.
Nid ydym yn argymell cymryd paracetamol cyn y brechiad i atal twymyn.
Cofiwch – ni ddylai plant o dan 16 oed gymryd meddyginiaethau sy’n cynnwys asbrin.
Os oes gennych unrhyw bryderon amdanoch chi’ch hun neu’ch plentyn ar ôl y brechiad, cysylltwch â’ch ymwelydd iechyd, meddyg teulu, neu nyrs practis i gael cyngor a chymorth.
A yw’n bosibl cael y frech goch, clwy’r pennau, rwbela neu frech yr ieir ar ôl cael eich brechu?
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o ganlyniad i’r frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r clefydau hyn, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu. Am ragor o wybodaeth am y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir, ewch i un o’r gwefannau canlynol.
A oes cysylltiad rhwng brechlynnau sy’n cynnwys MMR ac awtistiaeth?
Ni ddylech chi boeni am hyn. Nid oes tystiolaeth o gysylltiad rhwng brechlynnau sy’n cynnwys MMR ac awtistiaeth.
Dywed y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol “nad oes cysylltiad rhwng awtistiaeth a brechlynnau”. Mae yna lawer o astudiaethau sydd wedi ymchwilio i hyn. Mae gan Wybodaeth Brechlynnau Prifysgol Rhydychen (Saesneg yn unig) wefan o astudiaethau MMR i chi edrych arni.
Mae fy mhlentyn eisoes wedi cael haint brech yr ieir. A fyddai’n gallu cael y brechlyn MMR yn lle’r brechlyn MMRV fel rhan o’r rhaglen frechu reolaidd?
Os yw eich plentyn i fod i gael brechlyn MMRV fel rhan o’r rhaglen frechu reolaidd, dyma’r brechlyn y dylai ei gael.
Mae’n ddiogel i’ch plentyn gael y brechlyn MMRV, hyd yn oed os yw eisoes wedi cael haint brech yr ieir (neu salwch arall y mae’r brechlyn yn amddiffyn yn eu herbyn).
Os yw eich plentyn wedi cael brech yr ieir yn ddiweddar a bellach wedi gwella’n llwyr, gall gael y brechlyn MMRV yn ddiogel.
Cysylltwch â’ch practis meddygon teulu i gael cyngor os oes gennych gwestiynau.
A allaf ddewis i fy mhlentyn gael y brechlyn MMR yn lle’r brechlyn MMRV?
O 1 Ionawr 2026 ymlaen, mae’r brechlyn MMRV yn disodli’r brechlyn MMR yn yr amserlen imiwneiddio reolaidd i blant yng Nghymru.
Mae’r brechlyn MMRV yn cael ei gynnig i blant fel mater o drefn pan fyddant yn 12 mis a 18 mis oed. Ni fydd rhieni’n gallu dewis rhwng y brechlyn MMR a’r brechlyn MMRV.
Yn ystod cyfnod cyflwyno’r newidiadau hyn, bydd rhai plant hefyd yn cael cynnig y brechlyn MMRV yn eu hapwyntiad brechu rheolaidd pan fyddant yn 3 blwydd a 4 mis oed.
Siaradwch â’ch nyrs practis, meddyg teulu neu ymwelydd iechyd os oes gennych gwestiynau.
A yw’n ddiogel i’m plentyn gael tri dos o frechlyn sy’n cynnwys MMR (MMRV a/neu MMR)?
Ydy, mae’n ddiogel i’ch plentyn gael tri dos o frechlyn sy’n cynnwys MMR. Mae’r brechlyn MMR yn helpu i amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau a rwbela (MMR). Mae’r brechlyn MMRV hefyd yn helpu i amddiffyn rhag brech yr ieir (varicella).
Siaradwch â’ch nyrs practis, meddyg teulu neu ymwelydd iechyd os oes gennych gwestiynau.
Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy mhlentyn yn cael brech ar ôl iddo gael y brechiad MMRV?
Mae’r brechlyn MMRV yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy’r pennau, rwbela a brech yr ieir. Mae’n cynnwys fersiynau gwan o’r feirysau hyn. Mae’r feirysau gwan hyn yn helpu corff eich plentyn i ddatblygu amddiffyniad heb achosi’r clefydau.
Gall brech debyg i’r frech goch ymddangos ar ôl cael y brechiad, ond nid yw’n ymddangos ei fod yn lledaenu i unigolion eraill.
Gall rhai plant gael brech debyg i frech yr ieir yn y man lle rhoddwyd y pigiad MMRV. Gall plant fynd i’r ysgol neu i ofal plant o hyd, ond dylid gorchuddio’r frech â dillad.
Yn anaml iawn, gall brech debyg i frech yr ieir ymddangos yn rhywle arall ar y corff i ffwrdd o safle’r pigiad. Os bydd hyn yn digwydd, mae’n fwy tebygol o gael ei achosi gan haint brech yr ieir naturiol. Dylai plant â brech o’r math hwn gael eu gweld gan eu meddyg teulu.
Siaradwch â’ch nyrs practis, meddyg teulu neu ymwelydd iechyd os oes gennych gwestiynau.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Ionawr 2026