Neidio i'r cynnwys

Iechyd rhywiol ac atgenhedlol

Mae iechyd rhywiol ac atgenhedlol yn fwy nag absenoldeb clefyd – mae’n ymwneud â lles cyffredinol o ran rhywioldeb, perthnasoedd, a phrosesau atgenhedlol. Mae’n golygu cael yr wybodaeth, mynediad, a rhyddid i wneud penderfyniadau gwybodus am eich corff, eich iechyd, a’ch dyfodol.

Pam ei fod yn bwysig

Mae iechyd rhywiol ac atgenhedlol yn gysylltiedig yn ddwfn â hawliau dynol, tegwch iechyd, ac ansawdd bywyd. Pan gefnogir pobl gan wybodaeth gywir a gofal llawn parch, maen nhw’n gallu byw bywydau mwy iach a diogel a chael eu grymuso’n fwy.

Pa wasanaethau iechyd rhywiol sydd ar gael?

Mae gwasanaethau iechyd rhywiol ac atgenhedlol yn cynnwys:

  • cymorth i unigolion mewn perthynas â rhywioldeb a pherthnasoedd rhywiol iach
  • diagnosis, triniaeth, a rheoli haint a drosglwyddir yn rhywiol
  • gofal HIV
  • y rôl iechyd y cyhoedd o ran hysbysu partneriaid a hyrwyddo rhyw fwy diogel a
  • darparu condomau a dulliau atal cenhedlu megis mewnblaniadau, dyfeisiau fewngroth, ac atal cenhedlu hormonaidd

Darganfyddwch fanylion y gwasanaethau iechyd rhywiol sydd ar gael yn eich ardal.

Beth i wneud os ydych yn meddwl bod gennych haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI)

Os ydych chi’n poeni bod gennych chi haint a drosglwyddir yn rhywiol, ewch am archwiliad mewn clinig iechyd rhywiol mor fuan ag y gallwch chi. Mae clinigau iechyd rhywiol yn trin problemau gyda’r organau cenhedlu a’r system wrinol.

Peidiwch â chael rhyw, gan gynnwys rhyw eneuol, heb ddefnyddio condom hyd nes i chi gael archwiliad.

Dysgwch fwy o’r arweiniad eang ar heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI).

Ble allaf i gael arweiniad a chymorth ar iechyd rhywiol?

Mae amrywiaeth eang o faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd rhywiol, sy’n cynnwys cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd, mynegiant rhywiol, perthnasoedd, a phleser. Maen nhw hefyd yn cynnwys canlyniadau neu chyflyrau negyddol.

Dewch o hyd i gymorth a gwybodaeth ar gyfer eich iechyd rhywiol.

Ydych chi’n cael eich brifo?

Ydych chi mewn perthynas lle rydych chi’n cael eich brifo’n gorfforol neu’n emosiynol?

Gallwch ddod o hyd i gymorth a chyngor am gam-drin domestig.

Gwasanaethau a gynigir

Mae’r holl wasanaethau a restrwyd isod yn cael eu darparu gan y GIG ac am ddim i’w cyrchu.

Gwybodaeth a chyngor

Os oes cwestiwn gennych sy’n gysylltiedig â’ch iechyd rhywiol, gallwch gysylltu â’r tîm Iechyd Rhywiol Cymru ar [email protected].

Mae’r blwch yma’n cael ei fonitro Llun i Gwener, 9am i 5pm. Bydd ymateb yn cael ei ddarparu gan un o’n cynghorwyr iechyd profiadol y GIG sy’n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol yn ymwneud ag iechyd rhywiol a defnyddio’r gwasanaeth hwn.

Profi a Phostio

Mae’r gwasanaeth Profi a Phostio yn cynnig amryw o becynnau profi cartref ar gyfer clamydia, gonorea, HIV, siffilis, hepatitis B, a hepatitis C.

Cyflenwadau Iechyd Rhywiol

Mae amryw o gyflenwadau iechyd rhywiol am ddim ar gael. Gallwch archebu cymaint neu cyn lleied â hoffech chi.

  • Condoms: Maent yn cael eu darparu mewn amryw o feintiau a mathau, os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn yr ydych ei angen ar ein platfform archebu, cysylltwch â ni.
  • Hylif iro / “Lube
  • Llen Ddeintyddol: Mae rhain yn cael eu defnyddio ar gyfer rhyw geneuol.
  • Profion beichiogrwydd

Gallwch archebu unrhyw un neu’r cyfan o’r eitemau a restrwyd uchod.

Addysg ryw a digwyddiadau

Ydych chi’n gweithio yn eich cymuned leol neu’r trydydd sector ac yn teimlo y byddai’ch safle yn cael budd o addysg iechyd rhywiol neu gyflenwadau a phrofi ar y safle?

Os felly, cysylltwch â thîm Iechyd Rhywiol Cymru. Mae cynghorwyr iechyd yn gallu teithio a darparu addysg iechyd rhywiol y GIG am ddim i’r holl grwpiau poblogaeth yng Nghymru. Gwnaed gwaith yn flaenorol mewn hosteli digartref, lleoliadau prawf, elusennau trydydd sector, digwyddiadau cyhoeddus mawr ac ysgolion. Gall y tîm Iechyd Rhywiol Cymru gydweithio â chi i deilwra’r sesiynau i weddu orau i anghenion y boblogaeth rydych yn gweithio gyda nhw, a gall gyflwyno sesiynau wyneb yn wyneb neu’n rhithwir.

Os ydych yn cynnal digwyddiad a fyddai’n cael budd o adborth neu gyflenwadau iechyd rhywiol, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost isod i gysylltu â ni.

Cysylltu â thîm Iechyd Rhywiol Cymru

Gallwch gysylltu â’r tîm drwy e-bostio  [email protected].

Data