Neidio i'r cynnwys

Ansawdd aer

Mae llygredd aer yn yr awyr agored yn effeithio ar iechyd pawb.  

Mae llygredd aer yn cael ei gynhyrchu gan bobl ym meysydd fel trafnidiaeth, ffatrïoedd, ffermio, cynhyrchu ynni a gwresogi ein cartrefi. Mae hefyd yn cael ei gynhyrchu’n naturiol gan bethau fel ffrwydradau tywod a llosgfynyddoedd. 

Gall llygredd aer niweidio iechyd, yn enwedig i blant a phobl ifanc, pobl hŷn a’r rhai sydd eisoes â phroblemau iechyd fel asthma. 

Ein rôl

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ac asiantaethau eraill i helpu i leihau llygredd aer, a’r niwed a’r anghydraddoldebau iechyd sy’n gysylltiedig â llygredd aer.  

Mae ein rôl yn amrywiol. Mae’n amrywio o baratoi ar gyfer achosion o lygredd aer fel tanau ac ymateb iddynt, i waith atal megis cynllunio a dylunio cymunedol, ac annog mwy o gerdded, beicio a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym hefyd yn cyhoeddi ymchwil a sylwadau ar bolisi a deddfwriaeth yn ymwneud â chamau gweithredu ar sail tystiolaeth.  Mae gwella’r aer rydyn ni’n ei anadlu yn flaenoriaeth. Rydym wedi creu canllawiau sy’n esbonio sut rydym yn gweithio gyda’n partneriaid GIG ehangach i leihau llygredd aer, a’r niwed a’r anghydraddoldebau iechyd sy’n gysylltiedig ag ef. 

Risgiau iechyd o amlygiad i lygredd aer

Mae llygredd aer yn effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r risgiau a’r effeithiau iechyd yn newid dros oes hefyd. Mae plant, pobl hŷn a’r rhai sydd eisoes â phroblemau iechyd yn fwy tebygol o gael eu niweidio wrth anadlu aer llygredig.  

Gall anadlu llygredd aer dros amser hir iawn achosi niwed i iechyd ac effeithio ar ansawdd ein bywydau. Mae hyn yn bennaf oherwydd y gall niweidio ein hysgyfaint a’n calon. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu y gall niwed iechyd arall fod yn gysylltiedig â llygredd aer, sy’n cynnwys pwysau geni isel a dementia. Gall amlygiad tymor byrrach (oriau neu ddyddiau) achosi llid ar y llygaid, y trwyn a’r gwddf. Mae’r effeithiau ar iechyd yn dibynnu ar faint o lygredd aer y mae pobl yn agored iddo ac am ba mor hir. 

Beth alla i ei wneud i leihau llygredd aer ac fy amlygiad iddo?

Dyma rai ffyrdd syml y gallwch chi leihau faint o lygredd aer rydych chi’n ei gynhyrchu:  

  • Gadael y car gartref. Cerdded, seiclo, olwyno neu ddefnyddio’r bws neu’r trên. Mae hyn yn lleihau faint o lygredd aer a wnawn a gall ein helpu hefyd i gael rhywfaint o ymarfer corff. Mae hefyd yn wych ar gyfer ein hiechyd meddwl a’n llesiant. 
  • Gweithio’n gallach. Awgrymwch rannu car gyda chydweithwyr neu defnyddiwch wasanaeth Parcio a Theithio ar gyfer rhan o’ch taith i leihau nifer y cerbydau ar y ffordd. Yn hytrach na theithio i gyfarfodydd beth am roi cynnig ar alwad fideo/ffôn yn lle. 
  • Mynd i’r ysgol. Siaradwch â rhieni eraill yn ysgol eich plentyn am fws cerdded neu opsiynau rhannu car. 
  • Defnyddiwch declyn llosgi tanwydd solet cymeradwy yn unig. Os ydych chi’n gwresogi’ch cartref gyda theclyn llosgi tanwydd solet fel llosgwr coed, ystyriwch y canlynol: 
  • Osgoi tanau agored. Yn lle llosgi gwastraff gardd, ceisiwch gompostio yn lle hynny. 
  • Gwella effeithlonrwydd ynni eich cartref neu fusnes. Gallwn wneud llawer o bethau syml i leihau ein defnydd o ynni – er enghraifft:  
    • Diffodd goleuadau pan nad oes eu hangen. 
    • Ceisio osgoi gadael setiau teledu ar y modd segur. 
    • Berwi’r tegell gyda faint o ddŵr sydd ei angen. 
    • Defnyddio’r peiriant golchi dillad neu’r peiriant golchi llestri pan fyddant wedi’u llwytho’n llawn yn unig. 
  • Dewiswch eich cyflenwr trydan yn ofalus. Mae gwneud yn siŵr bod eich cyflenwr trydan yn defnyddio ynni adnewyddadwy yn helpu i leihau’r llygredd sy’n cael ei greu gan gynhyrchu pŵer. 

Ymchwil ac arweiniad

Mae’r ymchwil isod wedi’i leoli yng Nghymru. Mae’n dangos y gallai fod gan bobl sy’n byw yn y rhannau mwyaf difreintiedig o Gymru lefelau uwch o lygredd aer ac y gallent fod yn fwy agored i niwed o’u cymharu â’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig. 

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn