Rotafeirws
Mae rotafeirws yn heintiad sy’n achosi dolur rhydd difrifol, gwres a thaflu i fyny mewn babanod a phlant ifanc. Mae’r rhan fwyaf o blant yn gwella gartref o fewn wythnos, ond efallai y bydd angen i rai plant weld meddyg. Mae’r symptomau fel arfer yn para tri i wyth diwrnod. O bryd i’w gilydd mewn achosion difrifol, gall y symptomau arwain at ddadhydradu (colli hylifau’r corff) sy’n gofyn am driniaeth ysbyty.
Yn gyffredinol, mae’n digwydd mewn patrwm tymhorol ac mae’n effeithio ar fabanod a phlant ifanc yn bennaf, gan ddigwydd yn bennaf yn y gaeaf a dechrau’r gwanwyn.
Dysgwch fwy
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlyn rotafeirws, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ewch i wefan GIG 111 Cymru i ddysgu mwy am rotafeirws.
Tabl cynnwys:
Gwybodaeth bellach
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn