Neidio i'r cynnwys

Yr eryr (herpes zoster)

Mae’r eryr (a elwir hefyd yn herpes zoster) yn haint ar nerf a’r croen o’i gwmpas. Mae’n cael ei achosi gan yr un feirws ag sy’n achosi brech yr ieir. Yn wahanol i glefydau heintus eraill, ni allwch ddal yr eryr gan rywun arall – ddim gan rywun sydd â’r frech goch hyd yn oed.   

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael brech yr ieir pan fyddant yn ifanc. Gall y firws sy’n achosi brech yr ieir aros yn eich corff am weddill eich oes heb i chi wybod ei fod yno. Fodd bynnag, gall ddod yn actif eto yn ddiweddarach mewn bywyd. Nid yw’n glir pam mae hyn yn digwydd, ond mae’n aml yn gysylltiedig â system imiwnedd wan a achosir gan heneiddio, salwch, straen neu feddyginiaeth.   

Beth yw symptomau’r eryr?

Mae’r eryr yn aml yn dechrau gyda pheth goglais a phoen mewn un ardal, ynghyd â chur pen a blinder. Fel arfer dilynir hyn gan frech boenus gyda phothelli llawn hylif ychydig ddyddiau’n ddiweddarach. Mae’r frech fel arfer yn effeithio ar ardal ar un ochr o’r corff yn unig (y frest fel arfer, ond weithiau’r pen, wyneb neu lygad).   

Pan fydd yr eryr yn effeithio ar y llygad, neu’r croen o amgylch y llygad, gall achosi poen difrifol a phroblemau llygaid, a all arwain at golli golwg. I gael rhagor o wybodaeth am symptomau’r eryr, ewch i wefan GIG 111 Cymru.

Pa mor hir mae’r eryr yn para? 

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella’n llwyr o’r eryr, ond i rai pobl gall y boen bara am fisoedd neu fwy. Gelwir y boen hirhoedlog hon yn niwralgia ôl-herpetig (PHN).

Mae PHN yn anodd ei drin, a pho hynaf ydych chi, y mwyaf tebygol yw hi o gael PHN difrifol.  

Gwybodaeth:

Os ydych chi’n meddwl bod gennych yr eryr, cysylltwch â’ch meddyg teulu, oherwydd gallai triniaeth gynnar helpu i leihau eich risg o boen hirdymor. 

A all yr eryr ledaenu i bobl eraill? 

Ni allwch ddal yr eryr gan rywun arall. Fodd bynnag, mae’r hylif mewn pothelli’r eryr yn heintus a gall achosi brech yr ieir mewn rhywun nad yw erioed wedi’i gael (plentyn fel arfer).  

Dylai pobl ag eryr geisio osgoi:  

  • menywod beichiog nad ydynt wedi cael brech yr ieir o’r blaen   
  • pobl â system imiwnedd wan (fel rhywun sy’n cael cemotherapi), a   
  • babanod o dan fis oed.   

Pa mor gyffredin yw’r eryr?

Bydd tua 1 o bob 5 o bobl sydd wedi cael brech yr ieir yn datblygu’r eryr. Mae hyn yn golygu y bydd gan ddegau ar filoedd o bobl yr eryr bob blwyddyn yng Nghymru a Lloegr. Er y gall yr eryr ddigwydd ar unrhyw oedran, mae risg, difrifoldeb a chymhlethdodau’r eryr i gyd yn cynyddu gydag oedran.  

Bob blwyddyn, mae nifer o bobl 65 oed a hŷn yn cael eu derbyn i’r ysbyty gyda’r eryr yng Nghymru. 

Dysgwch fwy   

Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Gwybodaeth bellach

Adroddiadau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data