Neidio i'r cynnwys

Tetanws

Mae tetanws yn glefyd sy’n effeithio ar nerfau’r corff, gan achosi sbasmau cyhyrau a phroblemau anadlu.

Mae’n glefyd difrifol a all arwain at broblemau iechyd difrifol os na chaiff ei drin yn gyflym. Mae’n cael ei achosi pan fydd germau a geir mewn pridd neu dail yn mynd i mewn i’r corff trwy friwiau agored neu losgiadau. Ni all tetanws ledaenu o berson i berson.  

Symptomau tetanws

  • Anhyblygrwydd yn eich cyhyrau gên (genglo), a all ei gwneud hi’n anodd i chi agor eich ceg 
  • Sbasmau cyhyr poenus, a all ei gwneud yn anodd anadlu a llyncu 
  • Tymheredd uchel 
  • Chwysu 
  • Curiad calon cyflym    

Dysgwch mwy

Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau neu’r clefydau y mae’n amddiffyn yn eu herbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch chi hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau.  

Adroddiadau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn