Polio
Mae polio yn feirws a all effeithio ar eich system nerfol. Gall achosi gwendid parhaol yn y cyhyrau, fel arfer yn y coesau. Os yw polio’n effeithio ar gyhyrau’r frest neu’r ymennydd, gall arwain at broblemau iechyd difrifol iawn.
Gallwch ddal polio os byddwch yn dod i gysylltiad â baw rhywun sydd â’r haint, neu drwy anadlu defnynnau pan fydd yn peswch neu’n tisian. Ym 1988, parlysodd polio fwy na 1000 o blant ledled y byd bob dydd.
Cyn i’r brechlyn polio gael ei gyflwyno, roedd cynifer ag 8,000 o achosion o bolio yn y DU. Diolch i lwyddiant parhaus y brechlyn polio, nid yw’r DU wedi gweld haint polio naturiol mewn mwy na 40 mlynedd. Adroddwyd am yr achos olaf yn 1984. Dyna pam ei bod yn bwysig brechu er mwyn atal clefydau fel polio rhag dod yn ôl.
Symptomau polio
Ni fydd gan y rhan fwyaf o bobl unrhyw symptomau.
Mae rhai pobl yn cael symptomau ysgafn, tebyg i ffliw, fel:
- tymheredd uchel
- blinder eithafol (lludded)
- pen tost/cur pen
- cyfogi (chwydu)
- gwddf stiff, a
- phoen yn y cyhyrau.
Yn anaml, gall polio arwain at symptomau mwy difrifol sy’n effeithio ar yr ymennydd a’r nerfau, fel gwendid yn eich cyhyrau (parlys), fel arfer yn y coesau. Gall hyn ddigwydd dros oriau neu ddiwrnodau.
Os yw’r parlys yn effeithio ar y cyhyrau a ddefnyddir ar gyfer anadlu, gall beryglu bywyd.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn gwella a bydd symudiad yn dod yn ôl yn araf dros yr ychydig wythnosau nesaf. Gall rhai pobl gael eu gadael ag anabledd parhaol.
Dysgwch fwy
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechydon y mae’n amddiffyn rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ewch i wefan GIG 111 Cymru (Saesneg yn unig) i ddysgu mwy am polio.
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn