Y pâs (pertwsis)
Mae pertwsis, a adwaenir yn fwy cyffredin fel y pâs, yn haint sy’n effeithio ar yr ysgyfaint a’r llwybrau anadlu. Mae symptomau’n tueddu i ddatblygu fesul cam, gan ddechrau gyda symptomau ysgafn, tebyg i annwyd. Gall symptomau mwy difrifol ddatblygu ar ôl y rhain, cyn i’r claf wella. Mae’r pâs yn lledaenu’n hawdd trwy anadlu defnynnau bach iawn sy’n cael eu rhyddhau i’r awyr pan fydd pobl â’r afiechyd yn pesychu neu’n tisian.
Gall y pâs achosi pyliau hir o beswch a thagu, sy’n ei gwneud hi’n anodd anadlu. Mae’r sŵn ‘wwp’ yn cael ei achosi wrth dynnu’r anadl ar ôl pob cyfnod o beswch. Nid yw babanod ifanc bob amser yn gwneud hyn, a all ei gwneud yn anodd adnabod y clefyd.
Gall symptomau’r pas bara am ddau i dri mis. Babanod o dan flwydd oed sy’n wynebu’r risg fwyaf o salwch difrifol ac sydd mewn perygl o farw o’r afiechyd.
Cyn i’r brechlyn pas gael ei gyflwyno, roedd 120,000 o achosion a amheuir yn cael eu hadrodd bob blwyddyn ar gyfartaledd yn y DU. Yn y flwyddyn cyn i’r brechlyn gael ei gyflwyno, bu farw 92 o blant.
Symptomau’r pâs
Mae arwyddion cyntaf y pâs yn debyg i symptomau annwyd. Ar ôl tua wythnos, byddwch yn sylwi:
- pyliau o beswch sy’n para am rai munudau ac sy’n waeth yn y nos
- sain ‘wwp’, fel petaech chi’n chwipio am anadl rhwng peswch (efallai na fydd babanod ifanc ac oedolion yn gwneud y sŵn hwn), neu
- fwcws trwchus, a all achosi salwch (chwydu).
Dysgwch fwy
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ewch i wefan GIG 111 Cymru i ddysgu mwy am y pâs.
Data
-
Hysbysiadau’r pas yng Nghymru
Y ffynhonnell ddata ar gyfer y dangosfwrdd yma yw adnodd adrodd ar afiechydon/syndromau hysbysadwy IBID…