Neidio i'r cynnwys

Brechlyn firws syncytial anadlol (RSV) - Am frechlyn RSV

Mae’r brechlyn RSV yn ddos ​unigol a roddir yn rhan uchaf y fraich.  

Os hoffech ddysgu mwy am y brechlyn RSV, gallwch ddarllen y daflen i gleifion am Abrysvo ar wefan EMC (safle allanol).   

Grŵp o arbenigwyr yn y DU sy’n cynghori’r Llywodraeth ar frechlynnau ac imiwneiddio yw’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Ym mis Medi 2023, fe wnaeth y JCVI ddatblygu rhaglen imiwneiddio RSV ar gyfer babanod ac oedolion hŷn. 

Mae’r rhaglen RSV yn rhaglen newydd a fydd yn amddiffyn miloedd o fabanod a phobl hŷn rhag salwch difrifol bob gaeaf, gan gadw mwy o bobl allan o’r ysbyty a rhag gorfod gweld meddyg teulu.

Trawsysgrif – Brechlyn RSV

Pam mae’r brechyn yn cael ei gyflwyno nawr?

Mae’r cydbwyllgor ar imiwneiddio a brechu wedi cydnabod bod RSV yn gallu achosi salwch difrifol ym mhoblogaeth y Deyrnas Unedig. Gall hyn gael effaith sylweddol ar wasanaethau’r GIG yn ystod miseodd y gaeaf.

Erbyn hyn mae brechlynnau effeithiol a diogel wedi cael ei chyflwyno ac mae’r JCVI yn argymell y brechlynnau yn y Deyrnas Unedig.

Pwy fydd yn gymwys?

I ddechrau bydd y rhaglen ar gyfer pobl sydd yn troi’n 75 oed a hefyd i bobl sy’n feichiog p 28 wythnos hyd at enedigaeth.

Bydd pobl yn cael eu gwahodd am yr apwyntiad neu hefyd gall pobl gael eu hanfon i glinigau gan eu bydwraig, a bydd hyn o Fedi’r 1af 2024.

Beth yw’r sgil effeithiau?

Mae’r sgil-effeithiau fel arfer yn ysgafn. Y sgil-efeithiau mwyaf cyffredin yw cur pen a phoen yn y fraich lle cafwyd pigiad. Fel arfer, dydy’r sgil-effeithiau yma ddim yn para’n o hir  gwbl.  Fel gyda phob brechlyn, mae’r sgil-effeithiau’n cael eu monitro’n fanwl iawn gan yr MHRA yn y Deyrnas Unedig.

Mae tystiolaeth yn dangos i ni od brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol ac yn arbed salwch difrifol o RSV.

Pam ddylwn i gael y brechlyn?

Mae RSV yn heintus iawn ac yn achos sylweddol o salwch difrifol a marwolaethau mewn pobl hyn. Yng Nghymru , gall y brechlyn atal tua 125 o farwolaethau pob blwyddyn.

Sut allai ddysgu mwy?

Byddwch yn derbyn gwahoddiad uniongyrchol gan eich bwrdd iechyd lleol gyda mwy o wybodaeth am y brechlyn. Yn y cyfamser, gallwch gael mwy o wybodaeth o’r wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Pam ddylwn i gael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd? 

Bydd y brechlyn RSV yn amddiffyn eich babi o’r enedigaeth ymlaen. Mae tua 90% o blant erbyn iddyn nhw gyrraedd dwy flwydd oed wedi cael RSV yn barod ond gall RSV fod yn fwy difrifol i fabanod o dan flwydd oed ac mae hyn oherwydd ei bod llwybrau anadlu yn llai. A phan mae wedi cael eu llidio gall achosi trafferth anadlu.

Does dim triniaeth uniongyrchol ar gyfer RSV felly gael eu brechu yw’r ffordd gorau i’w amddiffyn eich babi rhag salwch difrifol.

Ydy’r brechlyn yn ddiogel yn ystod beichiogrwydd? 

Mae’r brechlyn wedi bod drwy dreialon a phrofion clinigol trylwyr cyn iddo gael ei gyflwyno. Gall RSV achosi salwch difrifol mewn babanod a gall effeithio ar ei iechyd drwy gydol ei oes. Mae’r brechlyn RSV yn 94% yn effeithiol o ran arbed salwch difrifol o RSV.

Pa frechlynnau eraill sy’n cael eu hargymell yn ystod beichiogrwydd?

Yn ogystal ag RSV, mae brechlynnau yn erbyn y pas, COVID-19 a’r ffliw yn cael eu hargymell mewn beichiogrwydd.

Sut alla i ddysgu mwy?

Fel rhan o’ch gofal cynendidigol bydd eich bydwraig neu eich darparwr gofal iechyd yn trafod  yr holl frechlynnau sydd ar gael ei chi yn ystod eich beichiogrwydd.

Erbyn hyn, mae brechlynnau diogel ac effeithiol ar gael ac argymhellwyd y dylid trefnu rhaglen imiwneiddio RSV yn holl wledydd y DU. 

Mae pob meddyginiaeth (gan gynnwys brechlynnau) yn cael ei phrofi am ddiogelwch ac effeithiolrwydd cyn caniatáu iddi gael ei defnyddio. Unwaith maen nhw’n cael eu defnyddio, mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn parhau i fonitro eu diogelwch. 

Mae’r brechlyn RSV wedi pasio safonau diogelwch llym i’w ddefnyddio yn y DU, a gwelwyd ei fod yn ddiogel iawn. Fel pob brechlyn, mae unrhyw adroddiadau am sgil-effeithiau’n cael eu monitro a’u hadolygu’n ofalus. Mae’r brechlyn RSV yn ddos sengl a roddir yn y fraich uchaf. Gellir cael y brechlyn RSV unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.

Beth os byddaf yn sâl ar ddiwrnod fy apwyntiad? 

Os byddwch yn sâl pan drefnir eich apwyntiad, mae’n well aros nes eich bod wedi gwella i gael eich brechlyn, ond dylech geisio ei gael cyn gynted â phosibl.  

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio eich brechlyn. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, trafodwch hyn gyda’r unigolyn sy’n rhoi eich brechiad i chi. 

Beth os byddaf yn colli fy apwyntiad?

Dylech ganslo apwyntiad os na allwch fynd iddo. Os byddwch yn colli’r apwyntiad neu’n gorfod gohirio eich brechiad, gwnewch apwyntiad newydd cyn gynted â phosibl. Gallwch gael eich brechiad o hyd, ond byddwch heb amddiffyniad am fwy o amser. 

A yw’r brechlyn RSV yn cynnwys gelatin porc? 

Nid yw’r un o’r brechlynnau presennol a gynigir yn ystod beichiogrwydd yn cynnwys gelatin (porc). Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am frechlynnau a gelatin moch ar ei’n dudalen.

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Gallai’r brechiad arbed 1,000 o blant ifanc bob blwyddyn yng Nghymru rhag mynd i’r ysbyty a gallai achub bywydau 100 a mwy o bobl hŷn bob blwyddyn.

Fenywod beichiog

Gwybodaeth:

Er mwyn cynnig yr amddiffyniad gorau i’ch baban, dylech gael eich brechlyn rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. 

Dylid cynnig y brechlyn i chi tua’r adeg y byddwch yn cael eich apwyntiad cynenedigol 28 wythnos. Os nad ydych wedi clywed erbyn yr adeg hon, cysylltwch â’ch bydwraig neu’ch meddyg teulu i wneud apwyntiad. Mae’r brechlyn yn fwy effeithiol rhwng 28 a 36 wythnos o feichiogrwydd. Os byddwch yn methu eich brechlyn, gallwch ei gael hyd nes y bydd eich babi yn cael ei eni. Fodd bynnag, os byddwch yn ei gael yn ddiweddarach yn ystod beichiogrwydd efallai na fydd mor effeithiol. 

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen frechu feirws syncytiol anadlol (RSV) i fenywod beichiog a’u babanod, ewch i dudalen brechlyn RSV i fenywod beichiog a’u babanod.

Oedolion hŷn

Gwybodaeth:

Gallwch helpu i amddiffyn eich hun rhag salwch difrifol o RSV drwy gael y brechiad RSV pan gaiff ei gynnig i chi. 

Mae nifer fach o oedolion hŷn mewn perygl o fynd yn sâl iawn, yn enwedig os oes ganddynt broblemau iechyd eraill, megis clefyd y galon neu’r ysgyfaint neu system imiwnedd wan. Bob blwyddyn, mae angen gofal ysbyty ar hyd at 1000 o bobl dros 75 oed oherwydd RSV, a gall rhai o’r bobl hyn farw. Gall heintiau RSV ddigwydd trwy gydol y flwyddyn, ond mae achosion yn codi yn ystod yr hydref a’r gaeaf. 

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen frechu feirws syncytiol anadlol (RSV) i oedolion hŷn, ewch i dudalen brechlyn RSV ar gyfer oedolion hŷn.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 26ain Hydref 2025