Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth ynglŷn â phrofion sgrinio cyn geni - Adran 8 – Rhagor o wybodaeth ynglŷn â phrofion sgrinio cyn geni

Gallwch hefyd gael gwybodaeth am brofion sgrinio gan eich bydwraig neu feddyg eich ysbyty (eich obstetrydd), ac o dudalen Sgrinio Cynenedigol Cymru.

Os byddwch yn symud cartref

Os byddwch yn symud cartref yn ystod eich beichiogrwydd, dywedwch wrth eich bydwraig er mwyn iddi allu diweddaru’ch cofnodion meddygol.

Profion preifat

Mae ansawdd y prawf sgrinio a gynigir gan y GIG yng Nghymru yn cael ei fonitro. Mae rhai menywod yn talu’n breifat i gael profion sgrinio. Nid yw profion sgrinio a gynhelir gan glinigau preifat yn cael eu monitro gan y GIG. Mae hyn yn golygu na fydd gan eich bydwraig wybodaeth am ansawdd a chywirdeb profion sgrinio a gynhelir gan glinigau preifat.

CARIS yw Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid a’r gofrestr clefydau prin yn ystod plentyndod ar gyfer Cymru

Mae CARIS yn casglu gwybodaeth am anomaleddau cynhenid a chlefydau prin. Mae’r wybodaeth a gedwir ar gofrestr CARIS yn gwbl gyfrinachol. Ni fyddwn byth yn trosglwyddo eich enw i unrhyw un arall na’i gyhoeddi.

Rydym yn gobeithio y bydd pawb am gael eu cynnwys i’n helpu i gynllunio a gwella gwasanaethau i rieni a phlant yn y dyfodol. Os hoffech i ni ddileu eich manylion o’r gofrestr, cysylltwch â thîm CARIS.

Mae’r wybodaeth a gedwir ar gofrestr CARIS yn gwbl gyfrinachol. Ni fyddwn byth yn rhannu eich enw ag unrhyw un arall nac yn ei gyhoeddi.

Gwefan: Am CARIS

E-bost: [email protected]

Ffôn: 01792 285241

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Ebrill 2026