Neidio i'r cynnwys

Canllaw i Ddull Cymhwysol Meddwl trwy Systemau

Mae’r canllaw hwn yn rhoi trosolwg ichi o Ddull Cymhwysol Meddwl trwy Systemau, sef dull y byddwch yn ei ddefnyddio yn eich grŵp dysgu ac i ategu’r gwaith rydych chi’n ei wneud gyda’ch Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC).

Mae’r canllaw wedi’i fwriadu i gael ei ddefnyddio ar y cyd â’r canllaw offer a dulliau. Mae yna hefyd eirfa o dermau’r dull systemau a fydd yn eich helpu i ymgyfarwyddo ag iaith y rhaglen. Trwy ddefnyddio’r canllawiau hyn a gweithio gyda’ch cydweithwyr yn y grŵp dysgu a’r hwyluswyr byddwch yn creu eich system ddysgu eich hun.

Gall y canllaw hefyd fod o werth i bartneriaid sydd â diddordeb mewn sefydlu grŵp dysgu er mwyn defnyddio dull meddwl trwy systemau mewn her gymhleth.