Gwybodaeth ynglŷn â phrofion sgrinio cyn geni - Adran 5 – Sganiau uwchsain yn ystod beichiogrwydd
Mae’r adran hon yn esbonio’r ddau brawf sgrinio uwchsain a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd.
Gallwch ddewis a ydych am gael y profion hyn ai peidio.
Mae’n esbonio:
- beth yw’r profion
- pam y cânt eu cynnal
- pryd y cânt eu cynnal.
Mae’r sgan yn ffordd o wirio ei bod yn ymddangos bod eich babi’n datblygu yn ôl y disgwyl.
Mae hyn yn golygu y gall ddangos canfyddiadau annisgwyl y byddai angen eu gwirio wedyn gan brofion eraill. Ni all sgan ddod o hyd i’r holl gyflyrau sy’n cael eu sgrinio.
Mae’r animeiddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am y profion sgrinio a gynigir i chi yn ystod beichiogrwydd i chi a’ch babi.
Canlyniadau
Y sgan dyddio beichiogrwydd cynnar
Byddwch yn cael cynnig sgan dyddio beichiogrwydd cynnar a sgrinio ar gyfer syndrom Down, syndrom Edwards a syndrom Patau rhwng 11 a 14 wythnos.
Sgan anomaledd y ffetws
Cynigir y sgan hwn ar ôl 18 i 20 wythnos o feichiogrwydd.
Tabl 11
| Y cyflwr | Y tebygolrwydd y caiff y cyflwr ei weld ar sgan anomaledd y ffetws ar ôl 18 i 20 wythnos. |
|---|---|
|
Spina bifida (croen neu esgyrn ddim yn gorchuddio llinyn asgwrn y cefn) Mae spina bifida’n nam wrth ddatblygu asgwrn y cefn a llinwn asgyrn y cefn sy’n gadael bwlch yn asgwrn y cefn. Mae llinwn asgwn y cefn yn cysulltu pob rhan o’r corff a’r ymenydd. |
98% (tua 9 mewn 10) |
|
Cyflyrau difrifol ar y galon, er enghraifft, amgaead yr aorta Mae amgaead yr aorta yn gyflwr difrifol ar y galon lle nad yw’r brif rydweli (yr aorta) wedi datblygu yn y ffordd arferol yn y groth. Mae’r cyflwr hwn yn aml yn gofyn am lawdriniaeth yn ystod wythnosau cyntaf bywyd (neu mewn rhai achosion efallai y bydd angen iddo gael ei fonitro gan feddyg arbenigol ar y galon mewn clinig yn unig). |
58% (tua 5 mewn 10) |
- Data: Gwasanaeth Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid Cymru www.caris.wales.nhs.uk/antenatal-detection (Fel ar 01/12/23) ↩︎
Mae adnoddau hygyrch ar gael ar gyfer yr adran hon.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 11eg Mai 2026