Astudiaeth Achos – Cymhwyso’r Model Mynydd Iâ yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru
Hwyluswyd gweithdy y Model Mynydd Iâ yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru ym mis Hydref 2025. Mynychwyd Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru gan tua 400 o gynrychiolwyr, gyda mynychwyr o’r sectorau cyhoeddus, preifat, academaidd a’r trydydd sector, a’r thema oedd “gweithredu heddiw, er mwyn cenedl iachach yfory”.
Cynhaliodd yr Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd a thîm Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru weithdy lle cafodd 50 o gynrychiolwyr gyfle i archwilio ac ennill profiad o ddefnyddio offer meddwl systemau i archwilio materion ‘drygionus’.
Dyluniwyd y gweithdy, Edrych o dan wyneb problemau drygionus: gweithredu nawr er mwyn yfory iachach, i alluogi’r mynychwyr i edrych ar achosion sylfaenol problemau ‘drygionus’, archwilio i ba raddau y gallent hwy neu eu sefydliad gymryd camau i fynd i’r afael â’r problemau hyn, a myfyrio ar sut y gallent gymhwyso’r dulliau hyn yn ymarferol.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Astudiaeth Achos - Cymhwyso'r Model Mynydd Iâ yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru
Word doc, 1MB
Llawrlwytho Word doc - Astudiaeth Achos - Cymhwyso'r Model Mynydd Iâ yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru (1 MB)
Llawrlwytho Word docAdroddiadau perthnasol
-
Astudiaeth achos – Defnyddio’r Model System Hyfyw i Gryfhau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Er gwaethaf llawer o gynnydd ers sefydlu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGCau) yn 2015, canfu’r gwerthusiad sylfaenol o’r rhaglen Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru fod rhai BGCau yn ei […]
Cyhoeddwyd:
-
Astudiaeth achos – Cymhwyso Mapio Systemau o fewn Bwrdd Gwasanaeth Cyhoeddus Abertawe
Yn dilyn cymryd rhan mewn cyfres o weithdai mapio systemau dan arweiniad tîm Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru (SPWW), defnyddiodd aelod o grŵp dysgu o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus […]
Cyhoeddwyd:
-
Astudiaeth achos – Cymhwyso Mapio Cyd-destun ym Myrddau Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Hywel Dda
Mae’r Rhaglen Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru’n cefnogi aelodau grwpiau dysgu ar draws Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) yng Nghymru, gan gynnwys aelodau o’r tîm rhanbarthol Dull Systemau Cyfan […]
Cyhoeddwyd: