Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru
Y penderfynyddion ehangach o ran iechyd yw’r ffactorau cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd sy’n llunio iechyd a llesiant pobl. Er mwyn gwneud gwelliannau hirdymor, mae angen i ni ddeall y systemau cymhleth sy’n cyfrannu at y ffactorau hyn ac ymateb mewn ffyrdd sy’n cydnabod sut maent yn rhyngweithio.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio gyda Chyfarwyddwyr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd a’u timau ledled Cymru, wedi sicrhau tair blynedd o gyllid gan raglen Llunio Lleoedd y Sefydliad Iechyd. Mae’r cyllid hwn, a ddechreuodd ym mis Mehefin 2024, yn cefnogi llywodraethau lleol a phartneriaid i gymryd camau cydgysylltiedig ar benderfynyddion ehangach iechyd, a hynny ar draws y system gyfan. Mae rhaglenni tebyg eisoes ar waith yn Lloegr a’r Alban.
Mae’r rhaglen Llunio Lleoedd ar gyfer Llesiant yng Nghymru yn adnodd cenedlaethol a gynlluniwyd i helpu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddefnyddio dulliau meddwl trwy systemau wrth iddynt ddatblygu a chyflawni eu cynlluniau llesiant. Mae hefyd yn cefnogi rhannu dysgu rhwng Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chyda phartneriaid ledled y DU.
Mae meddwl trwy systemau yn ffordd o ddeall heriau cymhleth drwy edrych ar sut mae gwahanol ffactorau, sy’n cynnwys polisïau, sefydliadau, pobl a gweithgareddau, yn cysylltu ac yn dylanwadu ar ei gilydd. Mae’n ein helpu i archwilio a gwneud penderfyniadau mwy effeithiol ar gryfhau penderfynyddion ehangach iechyd.
Mae rhagor o wybodaeth am ddulliau meddwl trwy systemau ym maes iechyd y cyhoedd ar gael yma.
Tabl cynnwys:
Ynglŷn â’r rhaglen
Mae tair prif elfen i’r rhaglen. Mae’r rhain wedi cael eu mireinio dros amser yn seiliedig ar adborth, gwerthusiadau a dysgu parhaus:
1. Grŵp Dysgu Cenedlaethol
Mae grŵp dysgu cenedlaethol yn dwyn ynghyd aelodau a swyddogion o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus i ddatblygu sgiliau gweithredu meddwl trwy systemau. Drwy weithdai, sesiynau ymarfer, a gweithgareddau myfyriol, mae cyfranogwyr yn dysgu sut i gymhwyso offer, dulliau a meddylfryd meddwl trwy systemau i heriau lleol cymhleth.
2. Cymorth wedi’i deilwra ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Mewn ymateb i adborth, mae’r rhaglen yn cynnig cymorth meddwl trwy systemau pwrpasol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus unigol. Mae’r cymorth hwn wedi’i addasu i gyd-destun a blaenoriaethau pob ardal, sy’n helpu partneriaid lleol i archwilio problemau’n fwy systematig a nodi cyfleoedd ar gyfer gweithredu ar y cyd.
3. Grŵp Cynnydd Cenedlaethol ar Gryfhau Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus
Sefydlwyd y grŵp hwn i fynd i’r afael â heriau a nodwyd gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a phartneriaid cenedlaethol wrth gyflawni effaith. Mae’n canolbwyntio ar wella tri phrif faes, sef:
- Monitro a gwerthuso
- Cyfathrebu a gwelededd
- Mannau dysgu
Mae tîm y rhaglen yn arwain y gwaith ar wella mannau dysgu fel bod gan Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus fwy o gyfleoedd i rannu mewnwelediad, myfyrio a dysgu gan ei gilydd.
Sut mae’r rhaglen yn dylanwadu ar waith Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus?
Janice Dent, Rheolwr Polisi a Phartneriaethau, Cyngor Dinas Casnewydd ac aelod o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent
Mae’r prosiect hwn yn rhan o raglen Llunio Lleoedd y Sefydliad Iechyd.
Mae’r Sefydliad Iechyd yn fudiad elusennol annibynnol sy’n gweithio i adeiladu Teyrnas Unedig iachach.
I gael mwy o wybodaeth am raglen Llunio Lleoedd y Sefydliad Iechyd, cliciwch yma.
Gwybodaeth bellach
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adroddiadau
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn