Neidio i'r cynnwys

Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol (WSAEMWB)

Grymuso ysgolion i greu a gwreiddio diwylliant cadarnhaol tuag at iechyd meddwl a lles emosiynol.

Beth yw Fframwaith WSAEMWB?

Pwrpas: Mynd i’r afael ag anghenion lles emosiynol a meddyliol holl ddysgwyr a staff yr ysgol, fel rhan o gymuned yr ysgol gyfan.  

Cefndir: Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol (WSAEMWB) ym mis Ebrill 2021 i bob ysgol a gynhelir gan Awdurdod Lleol gadw ato.  

Mae Fframwaith WSAEMWB yn ei gwneud yn ofynnol i gymuned yr ysgol gyfan hunanwerthuso diwylliant eu lles emosiynol a meddyliol eu hunain a datblygu cynlluniau gweithredu sy’n adeiladu ar gryfderau o fewn eu cyd-destunau unigryw. Mae’n annog creu ethos lles ysgol sy’n seiliedig ar dri gwerth:  

  • Perthyn  
  • Effeithiolrwydd 
  • Llais 

Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion weithio ochr yn ochr ag eraill a chydnabod pryd i geisio cymorth pan fydd anghenion lles emosiynol a meddyliol yn cael eu nodi. ed. 

Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gefnogi WSAEMWB?

Grymuso Cymunedau Ysgol : Creu diwylliannau lle mae dysgwyr a staff yn teimlo eu bod yn gallu ymdopi â bywyd dyddiol. Cyflawnir hyn gyda chymorth cydlynwyr ymroddedig ac adnoddau megis yr offeryn hunanwerthuso.

Cefnogi Timau Mewngymorth Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS): Mae 7 Tîm Mewngymorth yng Nghymru, un ym mhob Bwrdd Iechyd. Rydym yn cefnogi’r timau hyn wrth iddynt ddod ochr yn ochr ag ysgolion sy’n cynnig hyfforddiant, ymgynghoriad a chysylltu ysgolion hefo chyngor a gwasanaethau.

Creu Pecyn Cymorth Beth Sy’n Gweithio (WWTK): Crynodebau tystiolaeth i helpu ysgolion i wneud penderfyniadau gwybodus trwy ganfod a yw ymyriadau a dulliau gweithredu yn yr ysgol yn gwneud gwahaniaeth i les emosiynol a meddyliol dysgwyr a staff.

Sut mae WSAEMWB yn cael ei fesur ar gyfer ei effaith?

Mae’n cymryd amser i fesur newid, felly mae sawl dull yn cael ei ddefnyddio i ddeall effaith WSAEMWB: 

  • Monitro faint o ysgolion sy’n mabwysiadu’r WSAEMWB yn eang. 
  • Gwerthusiad Annibynnol: Gwerthusiad tair blynedd o ddulliau cymysg ar fframwaith WSAEMWB, sy’n cael ei gynnal gan DECIPHer sy’n rhan o Brifysgol Caerdydd. 
  • Gwerthusiadau Proses:  Pwrpas y gwerthusiadau hyn yw deall sut mae ysgolion wedi bod yn ymwreiddio’r WSAEMWB.
    Mae canfyddiadau’r gwerthusiad i’w gweld yn yr Adroddiadau Dysgu isod:

Gwybodaeth bellach

Adroddiadau: Gwerthusiad o Raglen Beilot Mewngymorth y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHs)  

Dull Ysgol Gyfan ar gyfer Llesiant Emosiynol a Meddyliol (WSAEMWB) Bwletin ymchwil 

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â [email protected] 

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn