Cwrs e-ddysgu’r rhaglen imiwneiddio
Dsgrifiad:
Mae cwrs e-ddysgu rhyngweithiol ar imiwneiddio, a ysgrifennwyd yn unol â’r safonau gofynnol cenedlaethol diwygiedig ar gyfer hyfforddiant (Saesneg yn unig), ac sy’n cynnwys 7 sesiwn wybodaeth gydag asesiadau cysylltiedig, ar gael i bob ymarferydd gofal iechyd sydd â rôl mewn imiwneiddio. Argymhellir eich bod yn nodi mentor ymarfer clinigol cyn cofrestru ar y cwrs hwn. Dylai pob brechwr newydd, a’r rhai sy’n dychwelyd i frechu ar ôl cyfnod estynedig, gwblhau’r asesiad cymhwysedd hwn er mwyn cael gwerthusiad ffurfiol a chadarnhad o’u cymhwysedd clinigol. Atodiad A: Llyfr gwaith offeryn asesiad cymhwysedd brechwr (Saesneg yn unig).
Addas ar gyfer:
Pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n ymwneud â’r broses imiwneiddio yn unrhyw gyd-destun, boed hynny’n roi brechiad i bobl neu gynghori ynghylch brechu ac imiwneiddio.
Hyd:
Isafswm o 10 awr
Cofrestru:
Mae posib i staff GIG Cymru i gael mynediad at y modiwl (000 Rhaglen Imiwneiddio GIG Cymru) drwy’r ESR.
Sylwch ar ESR, gelwir y Rhaglen Imiwneiddio yn 000 Rhaglen Imiwneiddio GIG Cymru a gellir ei gweld yn yr is gategori Imiwneiddio a Brechu yn y catalog cyrsiau Gwybodaeth a Sgiliau Galwedigaethol. Fe welwch y Rhaglen Imiwneiddio yn yr is-gategori Imiwneiddio a Brechu o dan yr adran Llwybrau Dysgu.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis ‘000 NHS Wales – Immunisation Programme’.
Gall staff nad oes ganddynt fynediad at ESR neu sy’n gweithio y tu allan i GIG Cymru gyrchu’r e-Ddysgu ar blatfform Dysgu@Cymru.