Neidio i'r cynnwys

Atal hunanladdiad a gwyliadwriaeth

Atal hunanladdiad

Mae hunanladdiad a hunan-niweidio yn parhau i fod yn faterion iechyd cyhoeddus sylweddol yng Nghymru, sy’n gofyn am ddull cydgysylltiedig, seiliedig ar dystiolaeth ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a phartneriaid ehangach. Mae gwaith cenedlaethol yn y maes hwn yn canolbwyntio ar atal, adnabod yn gynnar, darparu cymorth amserol, a dysgu o ddata a phrofiad byw er mwyn lleihau risg a gwella canlyniadau i unigolion, teuluoedd a chymunedau.

Mae rhagor o wybodaeth am flaenoriaethau cenedlaethol, rhaglenni gwaith a gweithgarwch gwella systemau ar gael ar wefan Perfformiad a Gwella GIG Cymru.

Gwyliadwriaeth hunanladdiad

Mae’r Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real wedi’i sefydlu ar gyfer Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 1 Ebrill 2022.

Un o’r uchelgeisiau yn y strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niwed ‘Beth am siarad â fi’ yng Nghymru (2015-2022) oedd sefydlu systemau gwyliadwriaeth i wella ansawdd data a gwybodaeth i lywio atal. Mae un o’r systemau hyn yn ymwneud â chipio data (tybiedig) mewn amser real, drwy ddulliau cipio data sy’n seiliedig ar yr Heddlu.

Amdanom ni

Mae Gwyliadwriaeth Amser Real Hunanladdiad Tybiedig (RTSSS) yn system arolygu lefel y boblogaeth sydd wedi’i datblygu drwy weithio mewn partneriaeth a chydweithio rhwng arweinwyr polisi grwpiau iechyd meddwl ac agored i niwed yn Llywodraeth Cymru; Uned Gyswllt yr Heddlu yn Llywodraeth Cymru; pedwar llu Heddlu Cymru; Rhaglen Cenedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio sydd wedi’i lleoli yng Ngweithrediaeth GIG Cymru; Prifysgol Abertawe, a Chyfarwyddiaeth Data, Gwybodaeth ac Ymchwil Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n gweithredu fel gwarcheidwaid cenedlaethol y data ar hunanladdiadau tybiedig.  Sefydlwyd y rhaglen gan ddefnyddio systemau a sefydlwyd eisoes gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig. 

Mae gwybodaeth am niferoedd, cyfraddau, a thueddiadau mewn hunanladdiadau yng Nghymru wedi bod ar gael er 1981 ac mae’n parhau i fod ar gael trwy adroddiadau blynyddol, gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae data’r SYG yn ymwneud â marwolaethau drwy hunanladdiad a gadarnhawyd gan grwner cofrestredig yn dilyn cwestau ym mhob blwyddyn, ond mae data’r RTSSS yn ymwneud â hunanladdiadau tybiedig.

Mae’r RTSSS yn ei chamau cynnar o weithredu o hyd, ac mae heriau cynnar yn ymwneud â chasglu, trosglwyddo, glanhau, dehongli ac adrodd data yn brydlon.

Mae’r RTSSS yn casglu gwybodaeth am bobl sy’n marw oherwydd hunanladdiad tybiedig yng Nghymru, a phobl sy’n byw yng Nghymru sy’n marw oherwydd hunanladdiad tybiedig y tu allan i Gymru.  Mae hyn er mwyn i ni allu monitro marwolaethau oherwydd hunanladdiad tybiedig a chreu darlun o batrymau a thueddiadau marwolaethau, er mwyn canolbwyntio’n well ar yr ymdrechion i atal hunanladdiadau.

Mae’r wybodaeth a gesglir yn cynnwys gwybodaeth bersonol adnabyddadwy h.y. enw, cyfeiriad, dyddiad geni’r sawl sydd wedi marw, a gwybodaeth am ei amgylchiadau.  Y rheswm pam mae angen gwybodaeth adnabyddadwy arnom yw er mwyn cysylltu â ffynonellau gwybodaeth eraill i wella ansawdd yr wybodaeth.

Mae gwybodaeth yn cael ei hanfon at Iechyd Cyhoeddus Cymru gan bedwar llu Heddlu Cymru.  Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn derbyn gwybodaeth gan yr Uned Gomisiynu Cydweithredol Genedlaethol, unedau gofal critigol, carchardai, systemau gwyliadwriaeth mewn gwledydd eraill, a’r cyfryngau.  Efallai y byddwn wedyn yn casglu gwybodaeth bellach gan wasanaethau iechyd, carchardai a chrwneriaid.  Rydym yn gwirio ein gwybodaeth yn erbyn systemau eraill y cesglir gwybodaeth ar eu cyfer: Y Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant, Uned Gyflawni GIG Cymru a Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.  Mae’r wybodaeth yn cael ei rhoi ar gronfa ddata ddiogel sy’n hygyrch i aelodau’r tîm RTSSS yn unig.

Y sail gyfreithiol ar gyfer gweithgareddau’r RTSSS yw:

  • Paragraff 3(b) o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009, sef “datblygu a chynnal trefniadau ar gyfer peri bod gwybodaeth ynghylch materion sy’n ymwneud â diogelu a gwella iechyd yng Nghymru ar gael i’r cyhoedd yng Nghymru; gwneud a chomisiynu ymchwil i faterion o’r fath a darparu a datblygu hyfforddiant mewn materion o’r fath”
  • Paragraff 3(c) o Orchymyn Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru (Sefydlu) 2009 sy’n datgan fel un o’i swyddogaethau: “gwneud yn systematig y gwaith o gasglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth ynghylch iechyd pobl Cymru, gan gynnwys yn enwedig fynychder achosion o gancr, eu marwoldeb a’u goroesiad; a chyffredinolrwydd anghysonderau cynhenid” 
  • O dan ddyletswydd cyfrinachedd y gyfraith gyffredin, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried bod prosesu data personol yn yr RTSSS er budd pennaf y cyhoedd.
  • Cymeradwyaeth Adran 251 (Deddf y GIG 2006) ar gyfer prosesu gwybodaeth gyfrinachol am glaf heb ganiatâd.
Trefniadau llywodraethu

Y tîm RTSSS Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd yn gyfrifol am gyflwyno’r rhaglen. Mae’n atebol i Fwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru, drwy’r Cyfarwyddwr Data, Gwybodaeth ac Ymchwil.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn atebol i Lywodraeth Cymru.  Mae angen cymeradwyaeth derfynol ar gyfer unrhyw adroddiadau a gaiff eu cyhoeddi gan y Cyfarwyddwr Data, Gwybodaeth ac Ymchwil.

Bydd yr RTSSS hefyd yn adrodd i’r Grŵp Gweithredu RTSSS.

Ymateb cyflym lleol i farwolaethau unigol

Mewn rhai ardaloedd lleol, mae asiantaethau partner yn cydweithio i ddatblygu prosesau i ymateb yn gyflym (o fewn 48-72 awr) i farwolaeth sydyn anesboniadwy a allai fod yn hunanladdiad posibl. Bydd yr ymateb hwn yn digwydd yn ôl ardal yr awdurdodau lleol, yn cynnwys arweinwyr diogelu lleol, a gaiff ei sbarduno pan gaiff heddlu lleol eu galw i farwolaeth sydyn. Bydd y broses yn ymgysylltu ag unigolion a chymunedau yr effeithiwyd arnynt gan y farwolaeth, i sicrhau bod cyngor a chymorth sy’n ystyriol o drawma yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys atgyfeirio at gymorth mewn profedigaeth.  Wrth reoli ac atal hunanladdiadau, gelwir hyn yn ôl-ymyrraeth. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddarparu canllawiau cenedlaethol ar ymateb cyflym lleol i sicrhau cysondeb o ran dull gweithredu a diogelu data, a datblygu adnoddau a phecynnau cymorth.

Ymateb i batrymau pryderus chlystyrau posibl

Bydd tîm RTSSS yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn hysbysu asiantaethau partner am ddangosyddion posibl o glystyrau neu heintiau yn y data amser real i sicrhau bod ymateb priodol.

Nod ac amcanion

Nod yr RTSSS yw gweithredu fel ystorfa genedlaethol ganolog ar gyfer achosion tybiedig o hunanladdiad yng Nghymru a chynhyrchu’r wybodaeth i lywio gweithgarwch atal hunanladdiad ledled Cymru.  Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i fonitro effaith y pandemig yn barhaus ar achosion tybiedig o farwolaethau hunanladdiad. 

Amcanion yr RTSSS yw:

  • canfod a choladu data ar achosion tybiedig o farwolaethau oherwydd hunanladdiad yng Nghymru a marwolaethau tybiedig o hunanladdiad ymhlith pobl sydd fel arfer yn byw yng Nghymru (a all farw mewn mannau eraill)
  • goruchwylio achosion tybiedig o hunanladdiadau gan gynnwys nodi a disgrifio clystyrau hunanladdiad sy’n dod i’r amlwg er mwyn hysbysu grwpiau ymateb lleol
  • ymgymryd â gwyliadwriaeth ar achosion tybiedig o hunanladdiadau i nodi patrymau a thueddiadau marwolaethau tybiedig o hunanladdiad er mwyn llywio polisi ac ymarfer
  • rhannu’r canfyddiadau drwy ddelweddu data hygyrch, er mwyn llywio camau gweithredu gan wahanol grwpiau a fforymau
  • cyfrannu at yr agenda atal hunanladdiad
  • cyfrannu at ymchwil i atal hunanladdiad

Rhagor o wybodaeth am atal hunanladdiad a chefnogaeth bellach

Cysylltwch â ni

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â thîm Arolygu Hunanladdiad Tybiedig Amser Real.

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Adnoddau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data