COVER – Data cenedlaethol ar imiwneiddio i blant
Mae gwyliadwriaeth o gydraddoldeb a chanran y rhai sy’n manteisio ar frechiadau rheolaidd i blant yng Nghymru yn cael ei chynnal gan Raglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru drwy gynllun cenedlaethol COVER (Gwerthusiad Cyflym o Roi Brechiadau) yng Nghymru.
Cyhoeddir adroddiadau COVER yn chwarterol, gan grynhoi canran y rhai sy’n cael eu brechu ar gyfer plant a phlant yn eu harddegau sy’n cyrraedd penblwyddi allweddol yn ystod y cyfnodau canlynol:
- Ionawr – Mawrth
- Ebrill – Mehefin
- Gorffennaf – Medi
- Hydref – Rhagfyr
Mae adroddiad COVER blynyddol yn cael ei lunio, gan grynhoi cwmpas brechiadau i blant sy’n cyrraedd penblwyddi allweddol yn ystod y cyfnod 12 mis o fis Ebrill i fis Mawrth. Mae tueddiadau mewn anghydraddoldebau o ran cwmpas, yn ôl lefel amddifadedd economaidd-gymdeithasol hefyd yn cael eu cyhoeddi’n flynyddol.
Cyhoeddir adroddiadau chwarterol o fewn 8 wythnos i ddiwedd y chwarter adrodd. Cyhoeddir adroddiadau blynyddol o fewn 12 wythnos i ddiwedd y flwyddyn adrodd.
Mae adroddiadau gwyliadwriaeth ar yr heintiau y mae brechiadau rheolaidd i blant yn amddiffyn yn eu herbyn ar gael ar dudalen data.
Adroddiadau Imiwneiddio ar lefel Brdd Iechyd
- BIP Aneurin Bevan (Saesneg yn unig)
- BIP Betsi Cadwaladr (Saesneg yn unig)
- BIP Caerdydd a’r Fro (Saesneg yn unig)
- BIP Cwm Taf Morgannwg (Saesneg yn unig)
- BIP Hywel Dda (Saesneg yn unig)
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (Saesneg yn unig)
- BIP Bae Abertawe (Saesneg yn unig)
Adroddiadau archif
Mae adroddiadau COVER chwarterol a blynyddol blaenorol ar gael yma.