Pecyn cymorth Datblygu Clwstwr Cyflym
Mae’r Pecyn Cymorth Datblygu Clwstwr Carlam (DCC) yn gasgliad o wybodaeth ac adnoddau addasadwy i randdeiliaid a fydd yn cefnogi ac yn bwrw ymlaen â gweithredu’r rhaglen DCC gan gynnwys timau Gofal Sylfaenol, Cydweithrediadau Proffesiynol, Clystyrau a Grwpiau Cynllunio Traws-glwstwr. Bydd y pecyn cymorth yn galluogi rhanddeiliaid i ddysgu mwy am y rhaglen DCC, a’i helfennau, a chael mynediad at offer i gefnogi darparu lleol. Mae’r pecyn cymorth wedi’i gynllunio i drosi theori yn ymarfer a bod yn borth gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol.
Nod y pecyn cymorth yw:
- Creu effeithlonrwydd – ni ddylai timau orfod creu dogfennau o’r dechrau ond yn hytrach bydd ganddynt fynediad at dempledi y gellir eu haddasu’n lleol
- Cefnogi mabwysiadu dull arferion gorau ‘Unwaith i Gymru’ drwy rannu canllawiau a dogfennau arferion gorau
- Cynnig cymorth ac arweiniad ymarferol wrth gyflwyno’r rhaglen DCC
Bydd hyn yn parhau fel dogfen fyw ac yn cael ei diweddaru fel a phan fo’n briodol.
Sut mae’r offeryn hwn yn gweithio?
Cliciwch i ehangu pob pennawd pynciau wedi’u grwpio i ddatgelu cynnwys pwnc-benodol, a all gynnwys crynodebau mewnol, dolenni cyfeirio uniongyrchol, neu ddolenni i gynnwys pellach ar is-dudalennau (hyperddolenni i’w hychwanegu wrth i is-dudalennau pwnc ddod ar gael yn ddwyieithog). Bydd y pecyn cymorth yn datblygu gyda chefnogaeth defnyddwyr; cyflwynwch adborth drwy e-bost at [email protected]
Trosolwg o DCC
Y Rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam yw elfen Gofal Sylfaenol Gofal Seiliedig ar Le, a ddarperir trwy Gydweithrediadau Proffesiynol a Chlystyrau.
Cydweithrediadau Proffesiynol yw’r mecanweithiau a ddefnyddir i bractisau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol (GMC), Practisau Deintyddol, Fferyllfeydd Cymunedol, Practisau Optometreg, Nyrsys Cymunedol, Proffesiynau Perthynol i Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol ac eraill ddod ynghyd o fewn eu grwpiau sy’n benodol i’w proffesiwn ar draws ôl troed clwstwr i ystyried sut maent yn ymateb i Asesiadau Rhanbarthol o Anghenion y Boblogaeth Rhanbarthol [RPNAs], ystyried ansawdd eu cynnig gwasanaeth ac edrych ar sut maent yn ymateb i strategaeth genedlaethol ar gyfer eu priod broffesiwn, gan ddylunio atebion lleol sy’n seiliedig ar eu gwybodaeth fanwl a’u harbenigedd.
“Mae gweithio fel clwstwr yn sicrhau cydgysylltu gofal yn well er mwyn hyrwyddo llesiant unigolion a chymunedau.”
Mae’r diffiniad a ddefnyddir bellach ar gyfer Clwstwr fel a ganlyn:
“Mae clwstwr yn dwyn ynghyd yr holl wasanaethau lleol sy’n ymwneud ag iechyd a gofal ar draws ardal ddaearyddol, a bydd fel arfer yn gwasanaethu poblogaeth o rhwng 25,000 a 100,000 o bobl”.
Mae gweithio clwstwr llwyddiannus yn galluogi gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal i weithio ar draws ffiniau gwasanaeth a dylanwadu ar ddatblygu gwasanaethau i’w cleifion. Mae trefniadau clwstwr yn ffurfio’r ôl troed lleol ar gyfer nodau strategol Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
Mae’r ffeithlun Model Gofal Sylfaenol i Gymru (MGSiG) sy’n cefnogi’r weledigaeth yn Cymru Iachach, yn cynnwys 13 elfen allweddol sydd eu hangen i drawsnewid gwasanaethau. Mae’r rhain yn cynnwys cydweithio effeithiol ar lefel gymunedol i asesu angen y boblogaeth er mwyn cynllunio a darparu gofal a chymorth di-dor i ddiwallu’r angen hwnnw.
Cefndir
Daeth Y Model Gofal Sylfaenol i Gymru i’r amlwg ar ôl dysgu o’r gyfres o 24 o brosiectau Pennu Cyfeiriad a ddechreuodd yn 2015 ac a barhaodd hyd at 2018. Dyrannwyd cyllid Pennu Cyfeiriad i fyrddau iechyd i ddarparu dull systematig o brofi a gwerthuso ffyrdd newydd ac arloesol o weithio i gyflawni nodau Cronfa Gofal Sylfaenol 2015, sef cyflawni cynaliadwyedd, gwella mynediad, a darparu mwy o ofal yn y gymuned. Fe wnaeth y dysgu o’r rhaglen Pennu Cyfeiriad a’r Arfarniad Beirniadol dilynol o’r rhaglen ddarparu’r sylfeini ar gyfer y model Gofal Sylfaenol sy’n dod i’r amlwg sydd, yn dilyn ymgysylltu eang â rhanddeiliaid, wedi esblygu i’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru y cytunwyd arno yn 2018. Cynhyrchwyd fideo esboniadol yn 2018 sy’n amlinellu taith datblygu’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru: Gwyliwch Fodel sy’n Dod i’r Amlwg ar gyfer Gofal Sylfaenol a Chymunedol ar Vimeo.
Mae’r gweithlu lleol yn y sefyllfa orau i ddeall anghenion a phrofiad cymunedau lleol ac i lywio a dylanwadu ar gynlluniau gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Sefydlwyd clystyrau yn 2010 i gasglu’r wybodaeth honno ac annog profi modelau gofal newydd i ddiwallu anghenion lleol yn fwy effeithiol. Er bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud, mae amrywiad rhwng clystyrau mewn perthynas ag aeddfedrwydd gweithio cydweithredol a’r effaith ar gleifion a chymunedau. Mae prif ffrydio prosiectau llwyddiannus a thystiolaeth o ddylanwad ar gynllunio strategol ehangach wedi bod yn gyfyngedig a bellach mae angen newid sylweddol i wireddu potensial llawn y dull hwn.
Yn 2021 cyflwynodd y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol y Rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam (DCC) i sicrhau gweithredu’r MGSiG yn gyflymach a mynd i’r afael â rhwystrau system.
Roedd y Rhaglen yn cynnwys cyflwyno Cydweithrediadau Proffesiynol a Grwpiau Cynllunio Traws-glwstwr i ehangu a chryfhau ymgysylltu clinigol a chynyddu’r dylanwad gan y gymuned ar benderfyniadau’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol) (BPRh). Mae gwahanu mwy eglur rhwng swyddogaethau cynllunio a chyflawni wedi’i ddatblygu.
Nid yw’r DCC yn ymwneud â biwrocratiaeth ychwanegol, mae’n ymwneud ag atgyfnerthu a gwella cyfres o fecanweithiau a seilwaith sydd eisoes, yn y rhan fwyaf o achosion, ar waith. Yn y bôn, mae’n ymwneud â llinell olwg glir o’r gwasanaethau iechyd a gofal rheng flaen lleol drwodd i’r BPRh o ran deall anghenion y boblogaeth leol a gallu trosi gwybodaeth o’r fath yn flaenoriaethau strategol ystyrlon ar lefel BPRh / Sir a Chlwstwr. Yn gyfnewid, gallai hyn drosi’n fuddsoddiad ar lefel leol i ddarparu modelau gofal ataliol integredig sy’n cefnogi blaenoriaethau strategol rhanbarthol. Nod y dull hwn yw cyflymu gweithredu prosiectau llwyddiannus yn ehangach.
Pwy sy’n cymryd rhan? Ble i ddysgu mwy
Datblygwyd y Rhaglen Clwstwr Carlam yn dilyn ymgysylltu eang â thimau rheng flaen sy’n gweithio mewn Clystyrau, neu sy’n ceisio datblygu ymgysylltu â Chlystyrau, i wasanaethu cymunedau lleol.
Sefydlwyd Grŵp Arbenigol i gynghori ar gyflawnadwyedd y cynhyrchion / cynigion sy’n cael eu cynhyrchu gan y Rhaglen DCC, “ffrindiau beirniadol” i bob pwrpas o bob rhan o Gymru. Mae cynhyrchion hefyd yn cael eu rhannu gyda Chyfarwyddwyr Gofal Sylfaenol, y Cyfarwyddwr Cynllunio a Chyfarwyddwyr Cyllid i brofi eu cynnwys yn ogystal â chydweithwyr mewn nifer o Adrannau / Is-adrannau Llywodraeth Cymru.
Mae Is-gadeiryddion yn chwarae rôl bwysig o fewn Byrddau Iechyd gyda chyfrifoldeb am wasanaethau gofal sylfaenol. Mae yna hefyd gysylltiadau hanfodol â Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
Adnoddau defnyddiol
Darllenwch fwy am y Model Gofal Sylfaenol i Gymru.
Darllenwch fwy am Raglen Pennu Cyfeiriad Cenedlaethol y Gronfa Gofal Sylfaenol.
Darllenwch y briffio cefndir ar gyfer DCC.
Bwrwch olwg ar ffeithlun map trywydd DCC.
Cydweithrediadau Proffesiynol
Rhwydweithiau o weithwyr proffesiynol yw Cydweithrediadau Proffesiynol, sy’n rhannu arbenigedd, sy’n cydweithio i ddefnyddio eu sgiliau unigryw i asesu anghenion y boblogaeth lle maent yn gweithio.
Bydd Cydweithrediadau Proffesiynol yn casglu gwybodaeth a phrofiad gweithwyr proffesiynol lleol i fapio darpariaeth gwasanaeth, gan nodi bylchau ac anghenion datblygu i lywio penderfyniadau a chynnig atebion. Mae gweithio gyda chymheiriaid proffesiynol ac ar draws ffiniau gwasanaethau yn helpu ein gweithlu i ddarparu’r safonau gofal y maent yn anelu atynt ac yn ei gwneud yn haws iddynt eirioli dros eu cymuned i gyflawni gwelliannau i’r system ehangach.
Trosolwg
Mae’r rhaglen Datblygiad Clwstwr Carlam (DCC) yn cefnogi datblygiad Cydweithrediadau Proffesiynol ar gyfer pob un o’r grwpiau contractwyr annibynnol. Mae gwaith tebyg yn cael ei wneud i ymgysylltu â gwybodaeth ac arbenigedd y gweithlu Nyrsio a Gweithwyr Proffesiynol Perthynol neilltuo amser penodedig mewn rolau cyflogedig.
Mae gan bob grŵp proffesiynol bersbectif arbennig ar agweddau ar ddarpariaeth gwasanaeth. Mae Cydweithrediadau Proffesiynol yn darparu strwythur i gefnogi cysylltu â chymheiriaid i adolygu ansawdd a diogelwch gwasanaethau lleol, rhannu profiad ac arfer da ar gyfer y maes arbenigedd a hyrwyddo gwella gwasanaethau.
Pwrpas y Cydweithrediadau Proffesiynol yw: –
- hyrwyddo deialog a chydweithredu rhwng ac o fewn proffesiynau i wella gofal a phrofiad cleifion a
- chasglu gwybodaeth am brofiad gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr o’r system iechyd a gofal er mwyn llywio’r gwaith o osod a chynllunio blaenoriaethau.
Bydd hyn yn cynnwys:-
- Gwella iechyd a llesiant y boblogaeth.
- Mwy o werth o’r gofal a’r cymorth a ddarperir
- Gwell ansawdd a diogelwch gwasanaethau
- Gweithlu ymgysylltiedig a datblygedig
Anogir Cydweithrediadau Proffesiynol i gynnig yr atebion mwyaf effeithiol ar gyfer y cyd-destun lleol. Mae hyn yn gofyn am ddull deinamig o ymgysylltu â’r holl bartïon perthnasol ar fater penodol.
Mae clystyrau wedi dangos pwysigrwydd gwybodaeth a phrofiad lleol i lywio datblygiad gwasanaethau. Bydd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cael gwybodaeth leol fanwl drwy’r strwythurau hyn, o adborth gan y cyhoedd, defnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol.
Rolau a chyfrifoldebau
Dylai pob gweithiwr proffesiynol ymgysylltu â’u cymheiriaid i gynnal eu gwybodaeth am systemau cyfredol a gweithgarwch gwella gwasanaethau. Dylai timau nodi cynrychiolwyr i fynychu a chefnogi’r Cydweithfeydd Proffesiynol lleol. Ar gyfer Contractwyr Annibynnol mae cymhellion contractiol yn cefnogi’r gwaith hwn. Mae’n rhaid i Fyrddau Iechyd sicrhau bod amser wedi’i neilltuo i gymryd rhan gan staff cyflogedig.
Darllenwch am y rôl o grwpiau Cydweithredol Proffesiynol.
Darllenwch am rolau Arweinydd Cydweithrediad Proffesiynol ac Arweinydd Clwstwr.
Gwelwch disgrifiad rôl Arweinydd Clwstwr.
Gwelwch disgrifiad rôl Arweinydd Cydweithrediad Proffesiynol.
Cydweithrediadau Proffesiynol GMS:
Fframwaith Sicrhau a Gwella Ansawdd: Cytundeb GMS 2021 i 2022
Y cytundeb GMS: Canllawiau ar gydweithrediadau rhwng Meddygon Teulu 2021-2022
Cydweithrediadau Proffesiynol Fferylliaeth:
Presgripsiwn Newydd: Dyfodol fferylliaeth gymunedol yng Nghymru
Cydweithrediadau Proffesiynol Optometreg:
Canllawiau i ddilyn
Cydweithrediadau Proffesiynol y Gwasanaeth Deintyddol Cyffredinol: Canllawiau i ddilyn
Arweinyddiaeth / Datblygu Sefydliadol
Bydd arweinydd o bob cydweithfa yn ymgysylltu ac yn gweithio gydag arweinwyr cydweithfeydd eraill i ffurfio aelodaeth graidd y clwstwr, gan ddod â ffocws amlddisgyblaethol cryf i anghenion y gymuned leol. Dylid cefnogi arweinwyr i ddatblygu sgiliau a dylai’r Gydweithfa gael ei chefnogi gan gydweithwyr sydd â’r arbenigedd (arloesi, rheoli prosiectau, cyllid, cynllunio’r gweithlu etc) a’r amser i ddatblygu a hyrwyddo blaenoriaethau lleol.
Gwyliwch y fideo hyfforddiant Cydweithrediadau Proffesiynol ac Arweinwyr Clwstwr. (Saesneg yn unig)
Clystyrau
Adeiladu ar y gweithio Clwstwr presennol gyda chynrychiolaeth gryfach i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion a blaenoriaethau. Mae gan glystyrau gynrychiolaeth uniongyrchol mewn Grwpiau Cynllunio Traws-glwstwr ar lefel Sir i lywio a dylanwadu ar gynlluniau strategol ac i gynnig atebion lleol effeithiol.
Trosolwg
Mae gweithio clwstwr wedi’i hen sefydlu ledled Cymru ac mae wedi cyflwyno amrywiaeth eang o welliannau gwasanaeth arloesol. Fodd bynnag, fe wnaeth Arolwg Clystyrau 2020/21 ac Adolygiadau gan Gymheiriaid yn 2022/23 a 2024/24 nodi cyfres o rwystrau ac argymhellion ar sail gwybodaeth am weithio Clwstwr mwy effeithiol.
Mae hyn yn cadw’r egwyddor o ddull cymunedol, sy’n seiliedig ar anghenion, gan ddefnyddio’r holl wasanaethau ac adnoddau lleol i gyflawni’r budd mwyaf i boblogaeth y Clwstwr. Mae gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda’i gilydd i ddeall anghenion lleol a datblygu atebion sy’n effeithiol yn y cyd-destun lleol. Dylai fod dull datrys problemau deinamig, sy’n dwyn ynghyd y gweithwyr proffesiynol priodol i fynd i’r afael â materion penodol. Mae’r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan rwydweithiau ehangach o arbenigedd clinigol ac wedi’i alluogi gan sgiliau rheoli sy’n cynnwys rheoli prosiectau, cyllid, TG, ymgysylltu â’r cyhoedd, y gweithlu a Datblygu Sefydliadol ac ati.
Mae’r Cynllun Clwstwr yn adlewyrchu’r camau sydd eu hangen ar yr ôl troed mwyaf lleol, ond dylai hyn lywio a dylanwadu ar gynlluniau sefydliadol a phartneriaeth ehangach.
Mae’r aelodau yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o’r pedwar proffesiwn contractwr annibynnol gydag arweinyddiaeth nyrsio a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwasanaethau’r trydydd sector.
Rolau a chyfrifoldebau
Bydd cyfarfodydd clwstwr yn cael eu cadeirio gan gynrychiolydd arweiniol y cytunwyd arno gan y grŵp. Mae’r Arweinydd yn gyfrifol am sicrhau bod trefniadau priodol ar waith ar gyfer cadeirio’r cyfarfod yn ei absenoldeb.
Bydd aelodaeth graidd y Clwstwr yn cynnwys cynrychiolaeth gan bob gwasanaeth lleol sy’n cyfrannu at iechyd a gofal cymdeithasol o fewn ardal y clwstwr a bydd yn cynnwys:
- Arweinydd Clwstwr (Cadeirydd)
- Arweinydd Cydweithrediad Ymarfer Cyffredinol
- Arweinydd Cydweithrediad Fferylliaeth Gymunedol
- Arweinydd Cydweithrediad Deintyddol
- Arweinydd Cydweithrediad Optometreg
- Arweinydd Cydweithrediad Nyrsio Cymunedol
- Arweinydd Cydweithrediad Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd
- Cynrychiolydd y Trydydd Sector
- Cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd Meddwl
- Cynrychiolaeth Rheoli Meddyginiaethau
- Uwch Reolwr Gwasanaethau Sylfaenol, Cymunedol a Therapïau
- Rheolwr Datblygu Clwstwr
Yn bresennol
- Pennaeth Gofal Sylfaenol
- Cyllid
- Y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol
- Rheolwr Cymorth Clwstwr
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gellir cynnwys aelodau eraill yn ôl yr angen.
Ni fydd cynrychiolaeth cleifion yn rhan o’r aelodaeth graidd, ond bydd Clystyrau yn sicrhau bod y cyhoedd yn cael ei gynrychioli mewn datblygu cynlluniau a gwasanaethau lleol. Gall hyn fod trwy sefydlu Fforymau Ymgysylltu / Cyfranogiad Cleifion ond bydd yn cael ei bennu’n lleol.
Llywodraethiant
Mae clystyrau yn strwythurau i gefnogi a galluogi cynllunio a darparu gwasanaethau cydweithredol. Dylid datblygu Cynlluniau Blynyddol Clwstwr / Cynlluniau Tymor Canolig Integredig Clwstwr i gydgysylltu gweithgareddau cydweithredol ac i lywio dadansoddi, blaenoriaethau a chynlluniau Grwpiau Cynllunio Traws-glwstwr.
Dylid rheoli cyfranogiad trwy adolygiadau perfformiad contractiol ar gyfer contractwyr annibynnol ac fel rhan o’r adolygiadau perfformiad ar gyfer staff cyflogedig. Dylai pob prosiect gwella gynnwys gwerthusiad a nodi’r trefniadau llywodraethiant ariannol.
Mae cyllidebau clwstwr yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru a’u dirprwyo drwy Fyrddau Iechyd. Bydd y Bwrdd Iechyd yn dirprwyo’r cyllidebau hyn i’r Clystyrau trwy’r Grwpiau Cynllunio Traws-glwstwr. Gall y Bwrdd Iechyd a’i bartneriaid ddirprwyo adnoddau ychwanegol i Grwpiau Cynllunio Traws-glwstwr a Chlystyrau i gyflawni canlyniadau y cytunwyd arnynt.
Rhaid gwneud pob penderfyniad ariannol yn unol â Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog y cytunwyd arnynt. Bydd angen llofnodwr awdurdodedig yn y Grŵp Cynllunio Traws-glwstwr.
Bydd perfformiad cyffredinol clwstwr yn cael ei werthuso trwy gylchoedd o Adolygu gan Gymheiriaid a Hunan-adfyfyrio Clwstwr.
Arweinyddiaeth/Datblygu Sefydliadol
Bydd aelodau’r Clwstwr yn cytuno ar arweinydd fel cadeirydd.
Bydd yr arweinydd yn:-
- Dwyn ynghyd yr amrywiaeth eang o aelodau clwstwr i gynnal asesiad cynhwysfawr a chyfredol o anghenion y boblogaeth a wasanaethir
- Cydgysylltu cytuno ar flaenoriaethau lleol a datblygu cynigion gwella gwasanaeth
- Goruchwylio’r rhaglen waith er mwyn trosi cyfeiriad strategol cenedlaethol yn gamau gweithredu
- Cefnogi datblygu a chyflawni llywodraethiant a stiwardiaeth effeithiol o adnoddau clwstwr yn unol â Chyfarwyddiadau Ariannol Sefydlog gan wneud defnydd priodol a darbodus o arian cyhoeddus
- Adfyfyrio ar newidiadau a lle bo angen eu cefnogi i wella trefniadau clwstwr lleol er mwyn sicrhau canlyniadau gorau i’r cyhoedd a gwella profiad y gweithlu
Mae AaGIC yn cynnig amrywiaeth o adnoddau a chyfleoedd datblygu.
Mynediad at dempled Cylch Gorchwyl cyfarfodydd Clwstwr.
Darllenwch y ddogfen Cefnogi Llywodraethiant DCC (papur enghreifftiol ar gyfer defnydd ar draws y bwrdd iechyd). Mae’r papur hwn wedi’i ysgrifennu er mwyn darparu fframwaith i Fyrddau Iechyd ei ddefnyddio, fel eu bod yn gallu mynegi’n glir y berthynas rhwng y Bwrdd Iechyd, Grwpiau Cynllunio Traws-glwstwr sydd newydd ffurfio a Chlystyrau. Bydd hyn yn caniatáu i’r Bwrdd Iechyd fod yn hyderus wrth arfer swyddogaethau cynllunio, comisiynu a dirprwyo / cymeradwyo adnoddau.
Mae’r papur hwn yn nodi’r egwyddorion llywodraethiant allweddol, y ddeddfwriaeth drosfwaol a’r llywodraethiant awgrymedig i’w hystyried gan fyrddau iechyd wrth ddatblygu a gweithredu’r mecanweithiau cynllunio a chyflawni a ddisgrifir yn y rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam.
Grwpiau Cynllunio Traws-glwstwr (GCTG)
Grwpiau Cynllunio Traws-glwstwr (GCTG) yw’r mecanweithiau a ddefnyddir gan gynrychiolwyr clystyrau i ddod ynghyd ar ôl troed poblogaeth y sir i gydweithio â chynrychiolwyr o’r bwrdd iechyd a’r awdurdod lleol, arbenigwyr iechyd cyhoeddus, cynllunwyr a chynrychiolwyr o’r gwasanaethau hynny nad yw Cydweithrediadau Proffesiynol yn briodol ar eu cyfer, e.e. gwasanaethau y dylid eu cynllunio ar lefel sir, bwrdd iechyd/rhanbarthol neu hyd yn oed cenedlaethol yn unig.
Pwrpas
Pwrpas GCTG yw cyflawni nodau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 (y Ddeddf), Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (2015) a Chymru Iachach. Mae hyn yn adeiladu ar arfer arloesol cyfredol ac yn ceisio cynyddu aliniad ac ymgysylltiad rhwng y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’r trefniadau Clwstwr gan ddwyn gwasanaethau ynghyd ar lefel leol. Mae GCTG wedi’u sefydlu fel is-grwpiau Byrddau Iechyd ac maent yn gweithredu o dan nawdd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) gan roi llwybr uniongyrchol ar gyfer rhannu gwybodaeth a gwneud penderfyniadau rhwng gwasanaethau rheng flaen ac arweinyddiaeth strategol. Mae GCTG yn cytuno ar asesiad o anghenion poblogaeth sir ac yn arwain datblygu cynlluniau integredig ar lefel sir, gan wneud defnydd darbodus o’r holl gyllid, y gweithlu, ac adnoddau eraill ac sy’n mynd i’r afael ag anghenion iechyd, gofal a llesiant y boblogaeth leol. Rhaid i asesiad GCTG o anghenion a chynlluniau lywio a chael eu llywio gan asesiadau o angen ar lefel ranbarthol (sy’n swyddogaeth statudol BPRh). Dylid eu hystyried fel cyfres gyfunol o asesiadau o anghenion a chynlluniau rhyng-gysylltiedig. Bydd GCTG yn cefnogi gweithredu’r agenda partneriaeth ar y cyd, gan gynnwys cyflawni newid ar amrywiaeth o lefelau, sy’n briodol i’r angen. Mae GCTG yn dwyn ynghyd uwch arweinwyr o’r GIG, Awdurdodau Lleol a phartneriaid allweddol yn y Trydydd Sector i ddarparu arweinyddiaeth system integredig sy’n galluogi cydweithio rhwng sefydliadau partner. Mae GCTG yn cael eu llywio gan adborth cleifion a’r cyhoedd, asesiadau o anghenion sy’n seiliedig ar ddata ac asesiad proffesiynol o fylchau, rhwystrau a chyfleoedd llwybr gwasanaeth. Dros amser, gall GCTG hefyd gomisiynu gwasanaethau a datblygu cytundebau i gefnogi gweithio mewn partneriaeth. Mae cydweithredu lleol cryfach a phwrpas a rennir yn flaenoriaeth i BPRh (Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol) ac yn cael ei yrru trwy strategaethau datblygu sefydliadol lleol. Mae ymreolaeth leol yn cynyddu wrth i systemau aeddfedu. Rolau a chyfrifoldebau Trwy arwain a goruchwylio ffrydiau gwaith allweddol, bydd aelodau’r GCTG yn:
- Nodi meysydd blaenoriaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer gwella sy’n gofyn am gydweithio cryfach i gyflawni canlyniadau gwell o fewn yr adnoddau sydd ar gael;
- Datblygu a chyflwyno cynllun comisiynu ardal;
- Hyrwyddo a “byw” diwylliant sydd yn weithredol dileu rhwystrau a seilos o fewn sefydliadau i sicrhau gwasanaethau di-dor i’r boblogaeth leol;
- Ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol mewn cymunedau, gan gyfeirio’n benodol at grwpiau lleiafrifol a grwpiau wedi’u hymyleiddio.
- Cefnogi gwaith ar y cyd a lle bo angen sicrhau awdurdodiad priodol o fewn eu sefydliadau eu hunain ar gyfer hyn.
- Sicrhau bod swyddogion llywodraeth leol, y GIG a’r trydydd sector yn gallu gweithio ar y cyd o fewn trefniadau llywodraethu statudol a sefydliadol sy’n darparu fframwaith o atebolrwydd clir:
- Ymarfer goruchwyliaeth o’r ffordd y defnyddir adnoddau, gan gynnwys grantiau perthnasol gan Lywodraeth Cymru;
- Datblygu ei gapasiti a’i allu i ddarparu llywodraethiant effeithiol.
- Awdurdodi gwaith ar y cyd a phan fo angen sicrhau awdurdodiad priodol o fewn eu sefydliadau eu hunain ar gyfer hyn.
Aelodaeth
| Sefydliad | Rôl |
| Awdurdod Lleol | Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol |
| Bwrdd Iechyd | Cyfarwyddwr Sir / Ardal |
| Cyfarwyddwr Cynllunio | |
| Cyfarwyddwr Gofal Sylfaenol a Chymunedol | |
| Clystyrau [Sir] | Arweinwyr Cydweithrediadau Clwstwr |
| Iechyd Cyhoeddus Cymru | Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd |
| BI / ALl | Uwch Nyrs Gymunedol |
| Uwch Arweinydd AHP | |
| Arweinwyr Timau Integredig | |
| Y Trydydd Sector | Prif Swyddog Cynghorau Gwirfoddol Sirol |
| Cyngor Iechyd Cymunedol | Cynrychiolydd Cyngor Iechyd Cymunedol |
| Sefydliad Partneriaeth BPRh | Pennaeth Partneriaethau neu gyfwerth |
Yn ogystal, bydd rhanddeiliaid ehangach yn mynychu’r cyfarfod.
| Sefydliad | Rôl |
| Awdurdod Lleol | Pennaeth Cyd-gomisiynu Strategol Pennaeth Gofal Oedolion Pennaeth Gwasanaethau Plant Uwch Reolwr Comisiynu Strategol Cynrychiolydd Tai Cynrychiolydd Addysg |
| Bwrdd Iechyd | Rheolwr Cyffredinol – Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Rheolwr Cyffredinol – Cymuned Iechyd Meddwl / Anabledd Dysgu Gwasanaethau Plant Pennaeth Gofal Sylfaenol |
Dylai comisiynu fod ar sail egwyddorion y cytunwyd arnynt:-
- Deall anghenion defnyddwyr a chymunedau trwy ymgymryd ag ymgysylltu effeithiol a chynhwysfawr
- Ymgynghori â sefydliadau darparwyr posibl a phresennol, gan gynnwys y rhai o’r trydydd sector, ac arbenigwyr lleol ymhell cyn comisiynu gwasanaethau newydd, gan weithio gyda nhw i osod canlyniadau â blaenoriaeth ar gyfer y gwasanaeth hwnnw
- Rhoi canlyniadau i ddefnyddwyr wrth wraidd y broses gynllunio strategol
- Mapio’r ystod fwyaf llawn posibl o ddarparwyr gyda’r nod o ddeall y cyfraniad y gallent ei wneud i gyflawni’r canlyniadau hynny
- Buddsoddi mewn datblygu’r sylfaen ddarparwyr
- Sicrhau bod prosesau contractio yn dryloyw ac yn deg, gan hwyluso cynnwys yr ystod ehangaf o gyflenwyr
- Sicrhau contractau hirdymor a rhannu risg, lle bynnag y bo’n briodol, fel ffyrdd o gyflawni effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd; a
- Cheisio adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth, cymunedau a darparwyr er mwyn adolygu effeithiolrwydd y broses gomisiynu wrth ddiwallu anghenion lleol.
Cyllid a chaffael
Darllenwch Ganllaw Ariannol Clystyrau Gofal Sylfaenol DCC
Darllenwch gylchlythyr Iechyd Cymru rhif 25 – Y fframwaith ariannol.
Gwrthdaro buddiannau
Darllenwch y canllaw gwrthdaro buddiannau DCC
Arweinyddiaeth/Datblygu Sefydliadol Mynediad at Borth Arweinyddiaeth Cymru AaGIC Gwella
Mae’r cylch gorchwyl enghreifftiol yn cynnwys:
Llywodraethiant:
Mae’r papur hwn wedi’i ysgrifennu er mwyn darparu fframwaith i Fyrddau Iechyd ei ddefnyddio, fel eu bod yn gallu mynegi’n glir y berthynas rhwng y Bwrdd Iechyd, Grwpiau Cynllunio Traws-glwstwr sydd newydd ffurfio a Chlystyrau. Bydd hyn yn caniatáu i’r Bwrdd Iechyd fod yn hyderus wrth arfer swyddogaethau cynllunio, comisiynu a dirprwyo / cymeradwyo adnoddau.
Mae’r papur hwn yn nodi’r egwyddorion llywodraethiant allweddol, y ddeddfwriaeth drosfwaol a’r llywodraethiant awgrymedig i’w hystyried gan fyrddau iechyd wrth ddatblygu a gweithredu’r mecanweithiau cynllunio a chyflawni a ddisgrifir yn y rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam.
Gwneud penderfyniadau:
Bwrwch olwg ar dempled Cylch Gorchwyl – Grŵp Cynllunio Traws-glwstwr
Bydd aelodaeth y GCTG, y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn cael eu hadolygu’n flynyddol. Bydd yr aelodaeth yn cytuno ar y Cadeirydd ond disgwylir y bydd y Cadeirydd yn newid bob dwy flynedd.
Bydd swyddogaeth, pwrpas, aelodaeth a llywodraethiant GCTG yn cael eu hadolygu’n flynyddol a bydd y Cylch Gorchwyl yn cael eu newid yn unol â hynny.
Gallai fod nodi’r angen i gynnal adolygiad ar gyfnodau eraill yn unol â gweithredu diwygiadau polisi cenedlaethol iechyd a gofal cymdeithasol a chanllawiau dilynol.
Cwmnïau buddiant cymunedol (CBC)
Wrth symud ymlaen, bydd yr opsiwn i ffurfio Cwmni Buddiant Cymunedol (CBC), neu endid cyfreithiol arall ar draws ôl troed clwstwr neu draws-glwstwr i ddarparu gwasanaethau a gomisiynir gan y Grŵp Cynllunio Traws-glwstwr (GCTG), ar gael i ddarparwyr gofal sylfaenol.
Mae’r bennod hon yn nodi’r egwyddorion allweddol ar gyfer ystyried a datblygu CBC, ynghyd â rhai templedi efallai y byddech am eu defnyddio.
Sut mae’r mynegai hwn yn gweithio?
Bwrwch olwg ar y ddogfen hon am ddyfeisiau darparu clystyrau am gynnwys pwnc-benodol, a all gynnwys crynodebau mewnol, dolenni cyfeirio uniongyrchol, neu ddolenni i gynnwys pellach ar is-dudalennau.
- Gweledigaeth a Phwrpas
- Pam ystyried endid corfforaethol?
- Dewis endidau corfforaethol
- Mentrau Cymdeithasol a Chwmnïau Buddiant Cymunedol (CIC)
- Ffactorau i’w hystyried wrth benderfynu ar ddewis endid corfforaethol
- Gwiriadau realiti
- Llwybr
- Cael y model yn iawn: Safbwynt Cwmni Buddiant Cymunedol Red Kite
- Podlediad Datblygu CBC – CBC Red Kite
Cynllunio
Mae’r Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau (PCCG) yn mynegeio adnoddau o bob rhan o’r system yng Nghymru a allai helpu cynhyrchu ac adnewyddu cynlluniau blynyddol grwpiau cynllunio clwstwr/traws-glwstwr. Mae wedi’i strwythuro i adlewyrchu elfennau allweddol cylch cynllunio, gan ddarparu trosolwg o ystyriaethau / methodolegau ar gyfer asesu ac ymateb i anghenion lleol, cysylltu â ffynonellau gwybodaeth bellach, a chefnogi datblygu sgiliau. Mae’r PCCG wedi’i anelu at aelodau clystyrau, GCTG, a chydweithrediadau proffesiynol er ymwybyddiaeth a goruchwylio, ac at staff gofal sylfaenol/byrddau iechyd gan eu cefnogi gyda gofynion cynllunio integredig
Cynnwys
Mae’r PCCG wedi’i rannu’n adrannau sy’n cwmpasu’r meysydd canlynol:
- Mynediad at ganllawiau, cymorth a hyfforddiant cynllunio
- Datblygu cynlluniau: anghenion y boblogaeth a’i defnydd o wasanaethau
- Datblygu cynlluniau: rheoli iechyd y boblogaeth
- Datblygu cynlluniau: tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio
- Datblygu cynlluniau: penderfynu ar flaenoriaethau
- Rhoi camau gweithredu ar waith
- Sicrhau monitro a gwerthuso
- Annog arloesi
Gwerthuso
Mae monitro yn cyfeirio at osod targedau a cherrig milltir i fesur cynnydd a chyflawniad a gwirio a yw’r mewnbynnau yn cynhyrchu’r allbynnau a gynlluniwyd h.y. mae’n cadarnhau a yw gweithredu yn profi’n gyson â’r bwriad a gynlluniwyd – sy’n awgrymu y gallwn addasu ein dull yn ystod y cyfnod monitro. Nid yw gwerthuso yn ymwneud â dangos llwyddiant yn y pen draw yn unig; Mae hefyd yn galluogi deall pam nad yw pethau’n gweithio (gan fod dysgu o gamgymeriadau yr un mor bwysig). Nid yw monitro a gwerthuso yn ymwneud â chael gwybod am bopeth (sy’n ddigon i godi ofn), ond maent yn canolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig.
Monitro a gwerthuso
Mae adran Sicrhau monitro a gwerthuso y Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau wedi’i rhannu’n adrannau sy’n cwmpasu’r meysydd canlynol:
- Monitro prosiect
- Gwerthuso prosiect
- Modelau rhesymeg
- Cynlluniau gwerthuso
- Cynllun monitro a gwerthuso MGSiG / DCC
- Adnoddau cymorth ychwanegol
Mynediad at y Porth Cymorth Cynllunio i Glystyrau sy’n cynnwys adran ar Sicrhau monitro a gwerthuso.
Adolygu gan gymheiriaid clystyrau
Mae adolygu gan gymheiriaid yn galluogi’r sawl sy’n deall orau’r systemau lleol a’r pwysau presennol i nodi rhwystrau a galluogwyr a rhannu arfer da. Mae adolygu gan gymheiriaid yn cynnig manteision i glystyrau, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (BPRh) a’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC) gan gynnwys tynnu sylw at strwythurau a systemau sy’n gweithio’n effeithiol a nodi risgiau sydd angen sylw.
Bwrwch olwg ar fodelau rhesymeg MGSiG.
Darllenwch yr adolygu gan gymheiriaid 2023-24
Hon yw’r brif ddogfen ategol ar gyfer Adolygu gan Gymheiriaid 2023/24, am fynediad at adnoddau pellach a ddefnyddiwyd yn ystod y broses – cysylltwch â [email protected]
Cynllun monitro a gwerthuso MGSiG a DCC
Mae cynllun monitro a gwerthuso’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru (MGSiG) a’r Rhaglen Datblygu Clwstwr Carlam (DCC) yn nodi sut y bydd yr uchelgeisiau trawsnewid hyn yn darparu sicrwydd o gynnydd gweithredu, dysgu ar y cyd, ac yn cefnogi uno cynlluniau lleol a rhanbarthol. Mae’n disgrifio cyflwyno sawl offeryn a chynnyrch ategol fesul cam.
Ymgysylltu
Mae cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid i gyd-gynhyrchu gwasanaethau newydd neu wasanaethau sy’n newid yn dasg bwysig i glystyrau. Cyfathrebu yw cyfleu neu rannu syniadau a theimladau yn llwyddiannus, felly mae unrhyw wybodaeth a rannir neu ryngweithio ag eraill yn fathau o gyfathrebu. Ymgysylltu yn y cyd-destun hwn yw’r broses o annog pobl i gymryd diddordeb yng ngwaith clwstwr, a’u cynnwys wrth wneud penderfyniadau.
Cynnwys
Mae adran Ymgysylltu y Pecyn Cymorth DCC wedi’i rhannu’n adrannau sy’n cwmpasu’r meysydd canlynol:
-
- Pam mae cyfathrebu ac ymgysylltu yn bwysig
- Egwyddorion cyfathrebu ac ymgysylltu clwstwr
- Strategaeth cyfathrebu ac ymgysylltu clwstwr
- Nodau cyfathrebu ac ymgysylltu
- Rhanddeiliaid a chynulleidfaoedd
- Sianeli a dulliau cyfathrebu ac ymgysylltu
- Pam ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, a’r cyhoedd
- Cyfathrebu ac ymgysylltu â staff clwstwr
- Sianeli a dulliau ar gyfer ymgysylltu systemau iechyd a gofal
- Sianeli a dulliau ar gyfer cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach
- Cynllun gweithredu cyfathrebu ac ymgysylltu ac offeryn archwilio
- Dibyniaethau a risgiau
- Gwelliant parhaus mewn cyfathrebu ac ymgysylltu
- Cynlluniau cyflawni cyfathrebu ac ymgysylltu clwstwr – OASIS
</ul
Y Gweithlu
Bydd y pecyn cymorth hwn yn parhau fel adnodd byw, byddwn yn parhau i ychwanegu gwybodaeth yma ac rydym yn gobeithio y bydd yn eich helpu a’ch cefnogi.
Os oes gennych chi neu’ch tîm unrhyw dempledi neu ganllawiau rydych chi’n teimlo y bydden nhw’n adnodd defnyddiol ac rydych chi’n hapus iddynt gael eu rhannu ar y tudalennau hyn, anfonwch nhw at: [email protected]
Adnoddau cysylltiedig â’r Gweithlu Gofal Sylfaenol a Chymunedol
Cynllunio’r Gweithlu:
Fe wnaeth yr adnodd cynllunio gweithlu clwstwr gofal sylfaenol – AaGIC (a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2021) gan AaGIC ddarparu adnoddau a chanllawiau ar gynllunio gweithlu Clwstwr Gofal Sylfaenol.
Crëwyd Locum Hub Wales yn 2020, fel rhan o’r ymateb COVID19, fel offeryn i gefnogi cynllunio’r gweithlu ac archebu sifftiau. Roedd yn darparu porth canolog i Bractisau Meddygon Teulu hysbysebu sifftiau locwm meddygon teulu ac i feddygon teulu leoli ac archebu sifftiau locwm meddygon teulu yn rhwydd. Ym mis Gorffennaf 2022 daeth yn un adnodd ar ôl uno â GPWales. Nid yw Meddygon Teulu Locwm yn cael eu cyflogi gan GPWales; mae’n fecanwaith yn unig i helpu Meddygon Teulu Locwm i ddod o hyd i’w gilydd yn fwy effeithiol.
Mae porth System Adrodd Genedlaethol y Gweithlu Cymru yn darparu Porth Gwe ar gyfer Data Gofal Sylfaenol, sy’n hygyrch i staff practisau meddygon teulu, Clystyrau a Byrddau Iechyd GIG Cymru a sefydliadau rhanddeiliaid cymeradwy eraill sydd wedi cofrestru fel defnyddwyr. Mae’r gwaith yn parhau i wella’r wybodaeth am bobl sydd ar gael trwy’r porth i gefnogi cynllunio’r gweithlu Gofal Sylfaenol ymhellach.
Datblygu’r Gweithlu:
Mae’r Canllaw ar gyfer y Gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd gan y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC) yn darparu canllawiau ar gyfer y gweithlu Proffesiynau Perthynol i Iechyd (AHP) a galw ar y system iechyd a gofal cymdeithasol gyfan i weithredu’r egwyddorion trefniadol hyn a argymhellir i wneud y gorau o’r defnydd o’r gweithlu AHP mewn Gofal Sylfaenol a Chymunedol. Mae’r ddogfen hon wedi’i bwriadu ar gyfer clinigwyr, rheolwyr gwasanaeth ac arweinwyr, ac i bawb arall sy’n cymryd rhan mewn cynllunio a darparu gwasanaethau clinigol.
Fe wnaeth cyhoeddi Fframwaith Cymwyseddau GIG Cymru i Nyrsys sy’n gweithio mewn Ymarfer Cyffredinol (Hydref 2021) roi amlinelliad o nyrsio ymarfer cyffredinol gyda diffiniadau rolau a chymwyseddau wedi’u hamlinellu ar gyfer pob lefel o’r llwybr gyrfa mewn ymarfer cyffredinol gofal sylfaenol.
Datblygwyd y pecyn Hanfodion Llywio Gofal o ganlyniad i’r cytundeb Contract GMC ar gyfer 2021-22 a oedd yn cynnwys manylion Ymrwymiad Mynediad i’w gyflwyno o 1 Ebrill 2022. Mae’r Ymrwymiad Mynediad yn ei gwneud yn ofynnol cynnal llywio gofal i bob claf sy’n ffonio’r practis a phan atebir eu galwadau, a lle bo hynny’n briodol yn glinigol, gellir cyfeirio cleifion at wasanaeth priodol arall.
Mewn cydweithrediad â Rheolwyr Practisau a staff clinigol, arweiniodd AaGIC ar ddatblygu pecyn e-ddysgu strwythuredig i gefnogi’r gofynion contract GMC hyn. Mae modd gweithio trwy’r e-ddysgu fel unigolyn neu gellir ei ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer sesiynau dysgu grŵp/ystafell ddosbarth. Ni ddylai gymryd mwy na 2 awr i’w gwblhau. Mae’r pecyn e-ddysgu yn cynnwys tri modiwl gwybodaeth a theori:
- Hanfodion Llywio Gofal
- Sgiliau ar gyfer Llywio Gofal
- Llywio Gofal ar Waith
Mae pedwerydd modiwl wedi’i gynnwys yn y pecyn fel llyfr gwaith y gellir ei lawrlwytho i arwain defnyddwyr i archwilio eu hadnoddau lleol a’u hasedau cymunedol, ac i gynorthwyo cyfeirio effeithiol. Er nad yw’n ofyniad yr eDdysgu, darperir y llyfr gwaith i helpu i gynyddu hyder, sgiliau a pherfformiad llywio gofal.
Mae AaGIC hefyd yn darparu pecynnau Hyfforddiant Gofal Sylfaenol eraill y gallant fod yn ddefnyddiol i Staff Ymarfer. Mae bellach ar gael fel pecyn hyfforddi ar Lwyfan Dysgu AaGIC Y Tŷ Dysgu.
Compendiwm Rolau a Modelau Gofal Sylfaenol a Chymunedol
Platfform digidol Unwaith i Gymru ar gyfer rhannu modelau arloesol ac unigryw o ddarpariaeth gofal sylfaenol a chymunedol. Fe’i cynhyrchwyd ar ran y Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC) mewn cydweithrediad ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Fideos Tiwtorial Arweinwyr Cydweithrediadau a Chlystyrau
Fideo Cydweithrediad Proffesiynol – Porth Arweinyddiaeth Cymru AaGIC Gwella
Fideo Cydweithrediad Proffesiynol – Porth Arweinyddiaeth Cymru AaGIC Gwella
Rolau Arwain Proffesiynol a Chydweithrediadau
Dysgwch fwy am Rolau Arwain Cydweithrediadau Proffesiynol a Chlystyrau.
Bwrwch olwg ar ddisgrifiad o rôl Arweinydd Clwstwr.
Bwrwch olwg ar ddisgrifiad o rôl Arweinydd Cydweithrediad Proffesiynol.
Gwybodaeth ategol
Bydd y pecyn cymorth hwn yn parhau fel adnodd byw, byddwn yn parhau i ychwanegu gwybodaeth yma ac rydym yn gobeithio y bydd yn eich helpu a’ch cefnogi.
Os oes gennych chi neu’ch tîm unrhyw dempledi neu ganllawiau rydych chi’n teimlo y bydden nhw’n adnodd defnyddiol ac rydych chi’n hapus iddynt gael eu rhannu ar y tudalennau hyn, anfonwch nhw at: [email protected]
Taflenni digidol a dylunio DCC
Ffeithlun Beth pam sut pwy pryd MGSiG a DCC
Dull Monitro a Gwerthuso DCC a MGSiG
Ffeithlun canlyniadau Model Gofal Sylfaenol i Gymru
Monitro a Gwerthuso / Adolygu gan Gymheiriaid DCC
Cynllun Monitro a Gwerthuso MGSiG: Trosolwg
Proses adolygu gan gymheiriaid blwyddyn bontio DCC
Model rhesymeg
Bwrwch olwg ar fodelau rhesymeg MGSiG.
DCC: Egwyddorion Sut Beth yw Da
DCC: Egwyddorion Sut Beth yw Da
Contract Darparwr Safonol Arall Gwasanaethau Meddygol (Cymru)
Gwasanaethau Meddygon Teulu – Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru
Cwestiynau Cyffredin Gwasanaethau Meddygol Darparwyr Amgen (GMDA)