Neidio i'r cynnwys

Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC)

Sut mae’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol yn gweithio?

Mae’r Rhaglen Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (SPPC) yn digwydd dan arweiniad Bwrdd Iechyd Cymru Gyfan mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru. Dysgwch fwy trwy edrych ar y ffeithlun SPPC hwn.

Mae’r SPPC yn ceisio mynegi’r hyn y mae gofal sylfaenol a chymunedol yn ei gyfrannu at y ddarpariaeth model gofal system gyfan yng Nghymru – y Model Gofal Sylfaenol i Gymru. Dysgwch fwy am Fodel Gofal Sylfaenol Cymru yma.

Lansiwyd y rhaglen SPPC yn y Gynhadledd Gofal Sylfaenol Genedlaethol yn 2019, gyda’r nod o gefnogi’r gwaith o ddarparu’r Model Gofal Sylfaenol i Gymru. Isod, ceir crynodeb lefel uchel o’r rhaglenni gwaith a gyflwynwyd gan yr SPPC dros y chwe blynedd diwethaf, ynghyd â dolenni at wybodaeth fanwl ar bob adroddiad, cyfathrebiad, pecyn cymorth neu gynnyrch yn y blychau thematig:

Darllenwch adroddiad cau y Bwrdd Gofal Sylfaenol Cenedlaethol ar y Model Gofal Sylfaenol i Gymru Cymru Iachach.

Cysylltu

Gall tîm y Rhaglen Strategol eich helpu gyda’ch cwestiynau a’ch adborth am waith y Rhaglen. Sylwer: Ni allant gynghori ar faterion meddygol ac ni allant roi cyngor meddygol i unigolion neu sefydliadau. Cysylltwch â gweithiwr iechyd proffesiynol cofrestredig os oes gennych bryder am eich iechyd.

Os hoffech gysylltu â thîm y Rhaglen Strategol, gallwch wneud yn y ffyrdd canlynol: 

Drwy e-bost: [email protected]

Drwy’r post:

Iechyd Cyhoeddus Cymru
Primary Care Division

2 Capital Quarter
Tyndall Street
Caerdydd
CF10 4BZ