Neidio i'r cynnwys

Llyfrgell deunyddiau ac asedau cyfathrebu – anadlyddion

Ewch i wefan Asthma and Lung UK (Saesneg yn unig) Mae gwefan Asthma and Lung UK yn cynnig ystod eang o adnoddau cymorth ac arweiniad penodol ar gyfer cleifion a/neu weithwyr iechyd proffesiynol.
Gwyliwch y fideo Gwella rhagnodi, defnyddio a gwaredu anadlyddion Fideo gwybodaeth i gleifion a ddatblygwyd gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan ar wella sut mae anadlyddion yn cael eu rhagnodi, eu defnyddio a’u gwaredu. Crëwyd y fideo gyda mewnbwn gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Asthma and Lung UK a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Ewch i wefan GIG 111 Cymru: Asthma Tudalen we GIG Cymru 111 sy’n cynnig trosolwg, canllawiau a chefnogaeth ar sut i gefnogi a thrin Asthma.
Ewch i wefan GIG 111 Cymru: Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) (Saesneg yn unig) Tudalen we GIG Cymru 111 sy’n cynnig trosolwg, canllawiau a chefnogaeth ar sut i gefnogi a thrin COPD.
Posteri i annog pobl i fynd â’u hen anadlyddion neu’ch rhai diangen yn ôl i’ch fferyllfa leol i gael eu gwaredu’n ddiogel Posteri dwyieithog i annog cleifion i ddychwelyd hen anadlyddion a rhai heb eu defnyddio i’r fferyllfa gymunedol.
Ewch i’r dudalen we Eich Meddyginiaethau Eich Iechyd Mae’r dudalen we Eich Meddyginiaethau Eich Iechyd yn canolbwyntio ar ddeunydd hysbysebu a hyrwyddo, sgyrsiau personol a chyflwyniadau, gan ddefnyddio negeseuon syml i helpu pobl i wella eu rheoli meddyginiaethau.
Mynediad at Becyn Cymorth Cyfryngau Cyfathrebu Llywodraeth Cymru (Saesneg yn unig) Pecyn Cymorth Cyfryngau Cyfathrebu Llywodraeth Cymru sy’n amlinellu asedau ymgyrchu Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud yn benodol â chyngor, triniaeth a chymorth fferylliaeth gymunedol.