Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Y dechrau gorau mewn bywyd: Fframwaith gweithredu ar gyfer y blynyddoedd cynnar

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 7fed Mai 2025

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Cyflwyniad

Mae uchelgais polisi cryf ers tro yng Nghymru i alluogi pob plentyn i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Fodd bynnag, mae anghydraddoldebau’n parhau i godi’n gynnar ac yn parhau drwy gydol bywydau plant. Ar hyn o bryd mae bwlch rhwng ein huchelgais polisi a’r ffyrdd y mae’r uchelgais hon yn cael ei galluogi a’i gweithredu’n ymarferol. Mae’r bwlch hwn yn caniatáu i ganlyniadau gwaeth barhau ac yn sbarduno anghydraddoldebau.

Mae’r Fframwaith Gweithredu hwn yn disgrifio’r hyn a olygwn wrth y dechrau gorau mewn bywyd ac yn gosod gweledigaeth glir ar gyfer y system er mwyn cyflawni hyn. Mae’n nodi elfennau allweddol system effeithiol ac yn disgrifio sut olwg sydd ar rywbeth da mewn perthynas â phob un o’r elfennau hyn. Mae’r fframwaith wedi’i gynllunio i ddarparu arweiniad, gan gyfeirio camau gweithredu tuag at system blynyddoedd cynnar fwy effeithiol yng Nghymru. Byddai ei weithredu yn lleihau anghydraddoldebau ac yn galluogi uchelgais polisi cryf Cymru i deimlo’n real a dylanwadol ym mywydau babanod, plant ifanc a’u teuluoedd.

Diben

Mae’r Fframwaith Gweithredu wedi’i ddatblygu i helpu i wella canlyniadau i fabanod, plant ifanc a’u teuluoedd drwy:

  • Wella dealltwriaeth o beth mae’r dechrau gorau mewn bywyd yn ei olygu i fabanod yng Nghymru
  • Gwella dealltwriaeth o’r blociau adeiladu sy’n ffurfio system blynyddoedd cynnar effeithiol a’r rôl y mae’n rhaid i bawb ei chwarae wrth gefnogi babanod i gael y dechrau gorau mewn bywyd
  • Gosod gweledigaeth ar gyfer sut olwg sydd ar rywbeth da mewn perthynas â phob un o’r blociau adeiladu o fewn system y blynyddoedd cynnar
  • Disgrifio beth sydd angen bod ar waith ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol o fewn system y blynyddoedd cynnar er mwyn gallu cyflawni’r weledigaeth.
  • Darparu dull strwythuredig ar gyfer deall y bylchau yn y system bresennol a hwyluso nodi blaenoriaethau ar gyfer cydlynu camau gweithredu yn y dyfodol.

Mae’r fframwaith wedi’i ddatblygu i helpu i gydlynu’r camau gweithredu sydd eu hangen i bontio’r bwlch rhwng ein huchelgais polisi a’r anghydraddoldebau mewn canlyniadau a brofir gan fabanod, plant ifanc a’u teuluoedd yng Nghymru.

Fe’i cynlluniwyd fel meincnod sy’n disgrifio sut olwg sydd ar rywbeth da. Fe’i cynlluniwyd i helpu sefydliadau, partneriaethau ac asiantaethau cenedlaethol i nodi, deall a blaenoriaethu camau gweithredu i gryfhau system y blynyddoedd cynnar.

Nid asesiad o’r hyn sydd ar waith ar hyn o bryd yw’r fframwaith. Efallai bod rhai elfennau a nodwyd yn y fframwaith eisoes ar waith, efallai bod rhai yn bodoli ond bod angen eu cryfhau ac efallai bod rhai yn cael eu datblygu. Bydd rhai meysydd lle mae angen gweithredu o’r newydd.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Fframwaith gweithredu ar gyfer y blynyddoedd cynnar

Word doc, 11MB

Llawrlwytho Word doc - Fframwaith gweithredu ar gyfer y blynyddoedd cynnar (11 MB)

Llawrlwytho Word doc

Adroddiadau perthnasol

Ni chanfuwyd adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig