Iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru 2018
Awduron: Holly Walsh, James Allen, Hugo Cosh, Andrew Dring, Arthur Duncan-Jones, Rhian Hughes, Grace Jefferies, Leon May, Rhys White
Mae’r adroddiad Iechyd a’i Phenderfynyddion yng Nghymru yn rhoi trosolwg o iechyd a llesiant poblogaeth Cymru, gan gynnwys baich clefyd. Mae’n amlinellu’r prif achosion marwolaeth, anabledd a salwch sy’n ffurfio’r darlun o iechyd yng Nghymru. Mae’n dangos y cynnydd a wnaed ond mae hefyd yn tynnu sylw at yr heriau sylweddol sy’n ein hwynebu, nawr ac yn y dyfodol.
Negeseuon allweddol
Beth yw Iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru?
Mae’r adroddiad yn darparu gwybodaeth lefel uchel ac enghreifftiau darluniadol sy’n cwmpasu themâu eang. Mae’n defnyddio amcangyfrifon baich clefydau o’r adroddiad Global Burden of Disease (2016) i gael ffactorau iechyd a risg cyffredinol i gynorthwyo wrth ystyried blaenoriaethau cymharol.
Ysmygu yn y gorffennol yw’r ffactor risg sy’n cyfrannu fwyaf at y baich o glefydau yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae canfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys bod canser bellach yn achosi mwy o faich clefydau na chlefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru, ac mai anhwylderau cyhyrysgerbydol ac anhwylderau meddwl a defnyddio sylweddau yw’r prif achosion blynyddoedd byw gydag anabledd.
Mae’r adroddiad hefyd yn darparu gwybodaeth am benderfynyddion ehangach iechyd, gyda sylw penodol yn cael ei roi ar blant. Mae’n cynnwys cymariaethau rhyngwladol, gan ganolbwyntio ar yr hyn y mae’r gwledydd hynny sydd â’r canlyniadau gorau yn ei gyflawni, ac mae’n dangos tueddiadau yn y gorffennol a rhagolygon ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Dr Kirsty Little, Ymgynghorydd Gwybodaeth Iechyd ein bod yn gwybod bod gan Gymru boblogaeth sy’n heneiddio, a’r disgwyliad yw i hynny arwain at nifer cynyddol o gyflyrau sy’n gysylltiedig ag oedran, ac yn gwybod nad ydym yn gwneud y cynnydd yr oeddem yn gobeithio amdano o ran lleihau anghydraddoldebau. Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y materion hyn ac yn edrych ar ffactorau risg, mynychder a rhagamcanion o ddigwydded rhai o’r problemau iechyd yr ydym yn eu hwynebu yma yng Nghymru. Er bod yr adroddiad wedi’i ddatblygu i gefnogi strategaeth hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac rydym wedi rhyddhau fersiwn interim i helpu cydweithwyr ar draws y GIG, rydym bellach yn rhyddhau fersiwn gyhoeddus wedi’i diweddaru ac rydym yn gobeithio y bydd yn offeryn gwerthfawr i gyrff cyhoeddus eraill sy’n datblygu strategaethau a chynlluniau hirdymor tebyg ledled Cymru ar hyn o bryd.
Mynychder clefydau 2023
Yn 2023, rydym wedi cychwyn ar raglen waith newydd sy’n edrych ar dueddiadau o ran clefydau, amcanestyniadau clefydau 10 mlynedd, tueddiadau ffactorau risg, ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar draws yr ystod lawn o ymatebion iechyd cyhoeddus ac effaith y rhain ar gostau i’r system iechyd. Dysgwch fwy am yr allbwn diabetes.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Adroddiad iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru (Saesneg yn unig)
PDF, 1MB
Llawrlwytho PDF - Adroddiad iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru (Saesneg yn unig) (1 MB)
Llawrlwytho PDFFersiynau eraill:
Adroddiadau perthnasol
-
Llunio dyfodol cartrefi yng Nghymru sy’n iach i blant a theuluoedd fyw ynddynt: Crynodeb o’r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid
Mae’r papur hwn yn nodi’r gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i wneud ochr yn ochr â rhanddeiliaid tai eraill i ddychmygu dyfodol o gartrefi iachach, yn enwedig i’r rhai […]
Cyhoeddwyd: 5ed Awst 2025
-
Yr argyfwng costau byw yng Nghymru: Drwy lens iechyd cyhoeddus
Mae’r argyfwng costau byw yn cael effeithiau eang a hirdymor ar fywydau beunyddiol pobl yng Nghymru a bydd yn parhau i gael effeithiau o’r fath. Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r […]
Cyhoeddwyd: 15fed Tachwedd 2022
-
Plant a’r argyfwng costau bywyng Nghymru
Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau adolygiad o lenyddiaeth o effaith yr argyfwng costau byw ar iechyd a llesiant plant. Defnyddiwyd y canfyddiadau i wneud argymhellion ar draws un ar […]
Cyhoeddwyd: 7fed Medi 2023
-
Cartrefi fforddiadwy ar gyfer iechyd a llesiant
Mae’r papur briffio hwn yn dilyn ein papur briffio cryno ‘Cartrefi ar gyfer iechyd a llesiant’ ar ddyfodol cartrefi iach yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar bwysigrwydd cartrefi fforddiadwy i iechyd […]
Cyhoeddwyd: 30ain Ionawr 2024
-
Sganio a dysgu gorwelion rhyngwladol: Adroddiad cryno ar effaith COVID-19 ar iechyd meddwl a bregusrwydd cynyddol
Mae pandemig COVID-19 wedi gosod heriau i gymdeithasau, systemau iechyd a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ledled y byd ac wedi arwain at effeithiau economaidd, cymdeithasol ac iechyd a llesiant hirdymor. […]
Cyhoeddwyd: 28ain Mawrth 2022
-
Adroddiad sganio a dysgu gorwelion rhyngwladol: Yr argyfwng costau byw
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn […]
Cyhoeddwyd: 18fed Awst 2022
Setiau data cysylltiedig
-
Offeryn adrodd asedau iechyd
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Iechyd a’i phenderfynyddion yng Nghymru 2018
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Amddifadedd incwm cronnus 2017
Adolygwyd ddiwethaf:
-
Beth sy’n gweithio i wella cyfranogiad mewn gwaith?
Adolygwyd ddiwethaf: Ionawr 3, 2022
-
Map tystiolaeth tai
Adolygwyd ddiwethaf: Chwefror 3, 2020
-
Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 9, 2022